Daearyddiaeth, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Shrimp farming, Bangladesh

Trosolwg o'r Cwrs

Dyma gyfle i gael addysg sydd ar flaen y gad o ran mynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol allweddol a chael eich grymuso i wneud gwahaniaeth sylweddol yn y byd gyda BA Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd ein rhaglen yn rhoi dealltwriaeth eang i chi o ddaearyddiaeth, gan gynnwys daearyddiaeth ddynol a ffisegol, gwyddor amgylcheddol a daeareg. Byddwch yn archwilio pynciau fel newid yn yr hinsawdd, peryglon naturiol, llygredd, rheoli'r arfordir, daearyddiaeth drefol a gwledig, a daearyddiaeth wleidyddol ac economaidd.

Mae BA Daearyddiaeth yn Abertawe yn cyfuno sylfeini damcaniaethol cryf â phrofiad ystyrlon yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu ar draws amrywiaeth o leoliadau, o waith dosbarth a labordy i astudio'n ymarferol yn y maes.

Ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch ddylunio eich profiad BA Daearyddiaeth i gyd-fynd â'ch diddordebau chi. Wrth i chi symud ymlaen drwy ein cwrs, byddwch yn darganfod cyfleoedd i arbenigo, paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol a gweithio tuag at fynd i'r afael â heriau byd-eang, sy'n rhychwantu rhyfel ac anghydraddoldeb, i danau gwyllt a llygredd plastig.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen i Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Pam Daearyddiaeth yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws prydferth ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 13eg yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • 4ydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Un o'r 20 uchaf yn y DU ar gyfer Daearyddiaeth a'r Gwyddorau Amgylcheddol (Guardian University Guide 2026)

Eich Profiad Daearyddiaeth

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar ddeall pob agwedd ar y blaned a thu hwnt. Byddwch yn ymchwilio i'r is-arwyneb a'r atmosfferig, rhewlifoedd ac anialwch, coedwigoedd glaw a microbau pridd, pobl a'r tirweddau maen nhw'n byw ynddynt. Gyda'r ddealltwriaeth eang hon, byddwch yn gweithio i fynd i'r afael â heriau byd-eang cyfoes, gyda chysylltiad cryf â Nodau Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Byddwch yn profi gwaith maes sy'n rhan annatod o'ch dealltwriaeth a fydd yn eich galluogi i gymhwyso damcaniaeth wrth weithredu. Mae astudio BA Daearyddiaeth yn Abertawe yn golygu y gallwch fanteisio ar ein lleoliad ysblennydd, a gallwch brofi teithiau maes i ganol dinas Abertawe, Penrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Wrth i chi symud ymlaen drwy'ch astudiaethau, gallwch hefyd gymryd rhan mewn gwaith maes preswyl yn rhyngwladol, gan gynnwys yr Almaen, Gwlad yr Iâ a Chanada.

Mae ein BA Daearyddiaeth yn darparu addysg sy'n cynnig hyfforddiant gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r pwnc sy'n berthnasol i ystod o gyfleoedd cyflogaeth ym maes daearyddiaeth, gan gynnwys hyfforddiant Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gyda phwyslais ar dechnolegau ynni gwyrdd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn datblygu prosiectau, cyfathrebu a gwaith tîm, ac yn meithrin profiad o weithio mewn amgylcheddau amrywiol drwy eich gwaith maes.

Byddwch yn profi amrywiaeth o ddulliau asesu, o draethodau ac arholiadau traddodiadol i asesiadau perthnasol yn y byd go iawn, megis dadansoddiadau rhanddeiliaid, podlediadau, adroddiadau labordy a llyfrau nodiadau maes. Byddwch yn cael eich arwain drwy eich astudiaethau gan dîm academaidd cefnogol a brwdfrydig y bydd eu profiad a'u gwybodaeth yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Daearyddiaeth

Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein cwricwlwm. Ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r datblygu sgiliau sydd wedi'u hymgorffori drwy gydol ein cwrs, gallwch fynychu ffeiriau cyflogwyr blynyddol, a gynhelir gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, lle gallwch gwrdd â chynrychiolwyr daearyddiaeth a darganfod cyfleoedd gyrfa yn y maes yn y dyfodol.

Mae rhagor o gyfleoedd cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth yn cael eu hymgorffori drwy gydol y rhaglen ar ffurf ymweliadau maes â sefydliadau partner gan gynnwys Theatr y Grand, y Glynn Vivian, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Gwlyptir Llanelli WWT (Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir), y Gymuned Carbon, ymhlith eraill. 

Bydd graddedigion BA Daearyddiaeth yn Abertawe yn gadael â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n hanfodol i lwyddo ar draws ystod o lwybrau gyrfa amrywiol. Yn y dyfodol, gallech gael rôl ymysg unrhyw un o'r canlynol:

  • Y sector amgylcheddol – gan gynnwys asiantaethau amgylcheddol, sefydliadau anllywodraethol (NGOs), cwmnïau cynaliadwyedd, ymgynghoriaethau amgylcheddol
  • Addysg – rolau addysgu, cyfathrebwyr gwyddoniaeth ac addysgwyr
  • Llywodraeth a'r sector cyhoeddus – rolau sy'n gysylltiedig â chynllunio, dadansoddi a datblygu polisi, awdurdodau lleol ac asiantaethau amgylcheddol
  • Busnes ac ymgynghoriaeth – ymchwilwyr, dadansoddwyr data, rheolwyr prosiect
  • Ymchwil a dadansoddi – gan gynnwys gyrfaoedd mewn ymchwil, gweithio gyda melinau trafod, prifysgolion, cwmnïau ymchwil preifat, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Daearyddiaeth, BA (Anrh)

Daearyddiaeth gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Daearyddiaeth gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)