Y gofynion mynediad ar gyfer y cwrs BEng Peirianneg Electronig a Thrydanol yw:
Safon Uwch ABB-BBC (gan gynnwys Mathemateg).
Ymhlith y pynciau eraill a argymhellir yw:
Ffiseg
Mathemateg Bellach
Cemeg
Technoleg Dylunio
Technoleg Gwybodaeth / Cyfrifiadura
Bioleg
Gall y cynnig a gewch amrywio’n ôl y pynciau rydych yn eu hastudio a chaiff pob cais ei ystyried ar wahân, a hynny ar sail graddau TGAU, pynciau a graddau UG, profiad gwaith, llythyrau geirda a datganiadau personol.
Neu 32 yn gyffredinol gyda naill ai 5 mewn Mathemateg: dadansoddi ac ymagweddau ar y Lefel Uwch (neu 6 ar y Lefel Safonol), neu 5 mewn Mathemateg: cymwysiadau a dehongli ar y Lefel Uwch (neu 7 ar y Lefel Safonol)
Disgwylir i fyfyrwyr sy’n astudio am gymwysterau BTEC gael D*D*D* a gradd B mewn Mathemateg Safon Uwch. Mae astudio Mathemateg Safon Uwch ynghyd â chymhwyster BTEC yn cael ei argymell yn gryf fel llwybr mynediad i’r myfyrwyr hynny sy’n astudio am gymwysterau BTEC. Mae angen i fyfyrwyr sydd ddim yn astudio Mathemateg Safon Uwch gael o leiaf D mewn ‘Mathemateg i Dechnegwyr’ a D mewn ‘Mathemateg Bellach i Dechnegwyr’, ac o leiaf 2 radd A mewn TGAU gydag o leiaf B yn Mathemateg a dau bwnc Gwyddoniaeth.
Gofynion mynediad ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol.
Bydd myfyrwyr sydd â phrofiad a chymwysterau diwydiannol yn cael eu hystyried fesul achos ar gyfer MEng Peirianneg Awyrofod. Os ydych chi wedi astudio cymwysterau mynediad neu alwedigaethol, fe'ch cynghorir i wneud cais am y Flwyddyn Sylfaen Integredig.
Os ydych chi'n gwneud cais am fynediad Lefel Dau (ail flwyddyn), er mwyn cael eich ystyried, bydd angen i chi fod eisoes wedi ymdrin â'r pynciau a gynigir yn Abertawe ar Lefel Un (blwyddyn gyntaf) mewn cymhwyster ardystiedig, gyda sgôr cyffredinol uchel.