Electrical Student

Mae ein cyfleusterau o'r radd flaenaf yn llywio llawer o addysgu ac ymchwil. Byddwch yn dod yn gyfarwydd â nifer o labordai, o'n labordy addysgu electronig/trydanol ein hunain a'r cyfleuster saernïo PCB i labordy Electroneg Pŵer a Systemau Pŵer (PEPS) Wolfson, a'r labordy Dinas Glyfar ac Antenna. Yn 2023, cafodd y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CSIM) – sef ein cyfleuster newydd gwerth £50m - ei hagor yn swyddogol ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe. Mae'r adeilad hwn wedi'i greu at ddiben dod â phlatfformau a phrosesau lled-ddargludyddion a deunyddiau uwch ynghyd i ddarparu technolegau a chynhyrchion newydd.

Labordy Addysgu Electronig a Thrydanol

  • 48 gweithfan gyda
    • Byrddau Micro-reolwyr pwrpasol (sent Picture – you may want to take a better picture than my iPad does)
    • Osgilosgopau Digidol 4ch 300MHz Rohde a Schwarz
    • Generadur Swyddogaeth 25MHz Rohde a Schwarz
    • Amlfesurydd Digidol Rohde a Schwarz
    • Cyflenwad pŵer Rohde a Schwarz

EWCH AR DAITH RHITHWIR

  • Sgrîn gyffwrdd HP i'w defnyddio gyda'r offer Rohde a Schwarz a meddalwedd pwrpasol gan NI, Silvaco, Comsol, Labcenter a llawer o feddalwedd arall Prifysgol Abertawe fel MatLab a Solidworks.
  • Yn y labordy, ceir hefyd 24 Gorsaf Sodro Weller gyda system echdynnu ddeallus ganolog gan Bofa
  • Argraffydd 3D gan Prusa
  • Generaduron Signalau
  • Meddalwedd Peirianneg

Labordy Prosiectau

  • 15 gweithfan gyda'r un pethau ag uchod
  • 10 Gorsaf Sodro Weller
  • Rigiau pwrpasol o Adborth ar gyfer arbrofion moduron 3ph

Cyfleuster Cynhyrchu PCB

  • Uned amlygiad UV ddwyochrog
  • Tanc Ysgythru Chwistrellu Clorid Fferig
  • Dril PCB

Gweithdy Electroneg

  • Torrwr laser Trotec
  • Peiriant sandio a dril piler

Labordy Electroneg Pŵer a Systemau Pŵer (PEPS) Wolfson

  • Gwely Profi Arddangos Ynni Adnewyddadwy
  • Rig Rheoli Modur
  • Cyfarpar Nodweddu Dyfeisiau Pŵer
  • Dadansoddwr Lled-ddargludyddion
  • Gorsaf Chwilied ar gyfer Dyfeisiadau Electronig Pŵer
  • Rig Profion Dibynadwyedd Dyfeisiau

Y LABORDY ANTENAU CLYFAR A CHYFATHREBU

Mae Labordy Antenau Clyfar a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe yn grŵp ymchwil arobryn sy'n darparu dulliau cyfathrebu a llywio clyfar ar gyfer cerbydau, awyrennau, Cerbydau Awyr Di-griw, taflegrau a lloerennau.

Mae gan y labordy hanes o ddarparu ymchwil sy'n cael effaith fawr ar gyfer systemau gwrth-jamio GNSS, cyfathrebu lloeren agorfa a rennir â thrwybwn uchel (bandiau Ku, Ka a Q), systemau cyfathrebu aml-gludwr LPD diogel a dadansoddi a rheoli amgylcheddol AI RF. Drwy gyfuno datblygu antenau addasol blaengar â dadansoddi deallus ac AI a syntheseiddio patrymau, mae'r labordy wedi bod yn llwyddiannus iawn wrth ddatblygu systemau sydd â chost isel, proffil isel a pherfformiad uchel.