sglodyn electronig

Yn gymharol newydd. Daeth yn hanfodol yn ei hanes byr

Gan ddyddio’n ôl i ddiwedd y 19eg ganrif, mae peirianneg drydanol yn un o ganghennau diweddarach peirianneg ac mae’n ymdrin ag astudiaeth a chymwysiadau trydan, electroneg ac electromagneteg.

Mae pobl wedi ymddiddori ym maes trydan ers o leiaf yr 17eg ganrif, gydag arbrofion cynnar yn cynnwys batris cyntefig, gwefrau statig a magnetedd. Mae Egwyddor Anwythiad Michael Faraday sy’n nodi, yn ei hanfod, bod y foltedd mewn cylched yn gymesur â’r gyfradd newid yn y maes magnetig drwy’r gylched, yn berthnasol i egwyddorion sylfaenol y generadur trydan, y modur trydan a’r newidydd.

Mae’n bosib eich bod chi wedi clywed am rai arloeswyr amlwg yn y maes peirianneg drydanol, gan gynnwys: Nikola Tesla (modur anwythiad), Thomas Edison (golau trydanol), Guglielmo Marconi (radio), and Philo T. Farnsworth (teledu).

Wrth i ni gychwyn ar yr oes fodern, cyflwynwyd trydan i’n cartrefi, ein busnesau a’n diwydiant ac roedd hyn i gyd yn bosib oherwydd peirianwyr trydanol. Mewn gwirionedd, lleihawyd costau nwyddau electronig yn sgil dyfeisio’r transistor ac, yn hwyrach, y cylched gyfannol, hyd y fath raddau lle gellir eu defnyddio mewn bron unrhyw wrthrych ar yr aelwyd.  Syndod yw meddwl bod peirianneg drydanol yn weddol newydd ymhlith meysydd astudio academaidd ond, yn ystod ei hoes fer, mae’r maes hwn wedi dod yn hanfodol wrth ddarparu’r cysuron rydym yn eu mwynhau bob dydd. Os yw’n ddyfais ymarferol yn y byd go iawn sy’n cynhyrchu, yn dargludo neu’n defnyddio trydan, mae’n debygol y cafodd ei ddylunio gan beiriannydd trydanol.

Caiff peirianneg drydanol ei rhannu'n amrywiaeth eang o feysydd, gan gynnwys electroneg, cyfrifiaduron digidol, peirianneg gyfrifiadurol, peirianneg bŵer, telegyfathrebu, systemau rheoli, roboteg, peirianneg amledd radio, prosesu signalau, offeryniaeth a microelectroneg.

Gall peirianwyr trydanol weithio ar amrywiaeth eang o gydrannau, dyfeisiau a systemau, o ficro-sglodion bach iawn i eneraduron anferth mewn gorsafoedd pŵer, felly mae'n faes heriol ond amrywiol hefyd.