2014: Joshua Ferris, 'To Rise Again at a Decent Hour'

Cafodd trydedd nofel Joshua Ferris, To Rise Again at a Decent Hour, ei chanmol gan y beirniaid am ei hiwmor unigryw a’i gallu trawiadol i greu comedi o drasiedi ddynol. Cafodd y nofel ei chynnwys ar restr fer Gwobr Man Booker yn 2014, sef y flwyddyn gyntaf pan oedd llyfrau Americanaidd yn gymwys.

Derbyniodd nofel gyntaf Joshua, Then we Came to the End, Wobr PEN/Hemmingway yn 2008 ac mae ei waith wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, Tin House a The New Yorker.

Yn 2017, rhoddodd Joshua ei lygad craff a’i ffraethineb treiddgar ar waith i ysgrifennu The Dinner Party, casgliad o straen byrion sy’n defnyddio hiwmor miniog i arsylwi ar wrywdod modern gan gael effaith aruthrol.

2014: Joshua Ferris, 'To Rise Again at a Decent Hour' Book Cover

Crynodeb - 'To Rise Again at a Decent Hour'

Mae Paul O’Rourke yn ddyn sy’n llawn gwrthddywediadau: mae’n caru’r byd ond nid yw’n gwybod sut i fyw ynddo. Mae’n Ludiad sy’n gaeth i’w iPhone, yn ddeintydd sydd ag arfer nicotin, yn gefnogwr Red Sox brwdfrydig sydd wedi’i gynhyrfu gan eu buddugoliaethau ac yn anffyddiwr nad yw’n barod i droi ei gefn ar Dduw eto.

Yna, mae rhywun yn dechrau personadu Paul ar-lein ac mae’n gwylio mewn arswyd wrth i wefan, tudalen Facebook a chyfrif Twitter gael eu creu o dan ei enw. Yn fuan, mae’r hyn sy’n dechrau fel ymyrraeth warthus â’i breifatrwydd yn dod yn rhywbeth sy’n fwy dychrynllyd: sef y posibilrwydd y gallai’r “Paul” ar-lein fod yn fersiwn well o’r dyn go iawn. Wrth i gais Paul i ddarganfod pam mae rhywun wedi dwyn ei hunaniaeth ddyfnhau, mae’n cael ei orfodi i ddod wyneb yn wyneb â’i orffennol cythryblus a’i ddyfodol ansicr mewn bywyd sydd wedi’i hollti’n annifyr rhwng y byd go iawn a’r byd rhithwir.

Mae To Rise Again at a Decent Hour, sy’n ymdrin â hurtrwydd y byd modern mewn ffordd ddoniol wrth ystyried cwestiynau tragwyddol ynghylch ystyr bywyd, cariad a gwirionedd mewn ffordd ddofn, sy’n gadael argraff barhaol, ar yr un pryd, yn tour de force hynod wefreiddiol sy’n peri syndod yn gyson.

Datganiadau i'r Wasg

Cyfweliadau

Joshua Ferris - Enillydd 2014

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Eddie Matthews yn siarad â’r awdur arobryn Joshua Ferris