

Di Speirs yw Golygydd Llyfrau, BBC Audio. Hi gynhyrchodd y gyfres Book of the Week gyntaf erioed ar BBC Radio 4 ac mae wedi cyfarwyddo nifer helaeth o'r gyfres Book at Bedtime, dramodiadau a straeon byrion. Bellach, mae'n Olygydd tîm llyfrau Llundain ac mae'n gyfrifol am BBC Reading a BBC Audiobooks, Open Book a BookClub ar Radio 4 a World Book Club a World Book Cafe ar y World Service. Bu'n eiriolydd pŵer y stori fer ers amser hir ac mae wedi bod yn rhan annatod o Wobr Genedlaethol Stori Fer y BBC ers iddi ddechrau yn 2005. Hi yw'r beirniad sefydlog ar y panel ac mae hefyd yn gyfrifol am greu Gwobr Ysgrifenwyr Ifanc y BBC. Mae hi wedi golygu tri chasgliad straeon ar gyfer y BBC. Mae'n aelod Er Anrhydedd o'r RSL, mae'n feirniad llenyddol rheolaidd ac mae wedi cael ei henwebu ddwywaith ar gyfer menter y celfyddydau (llenyddiaeth) Mentor and Protégé Rolex. Mae'n aelod o fwrdd Ymddiriedolaeth Dinas Llenyddiaeth Caeredin ac yn aelod o Fwrdd Ymgynghori Institute for Social Futures Prifysgol Caerhirfryn.
Di Speirs yw Cadeirydd Panel Beirniaid 2023.
Twitter: Twitter: @DiSpeirs

Prajwal Parajuly, sy'n fab i fam Nepalaidd a thad Nepalaidd-Indiaidd, yw awdur The Gurkha’s Daughter, casgliad o straeon, a’r nofel, Land Where I Flee. Cyrhaeddodd ei weithiau y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Mogford yn y DU, gwobr Emile Guimet a'r Wobr am Nofel Gyntaf yn Ffrainc a chyrhaeddodd y rhestr hir ar gyfer y Wobr Stori yn UDA. Mae'n byw ym Mharis ac yn addysgu yn Sciences Po.
Twitter: @prajwalparajuly

Cyrhaeddodd casgliad cyntaf Rachel Long, My Darling from the Lions (Picador 2020 / Tin House 2021), rhestrau byr Gwobr Forward ar gyfer y Casgliad Cyntaf Gorau, Gwobrau Llyfrau Costa, Gwobr Folio Rathbones, Gwobr Jhalak, a Gwobr Ysgrifennwr Ifanc y Flwyddyn The Sunday Times. Roedd argraffiad UDA o My Darling from the Lions yn destun adolygiad gan The New York Times a chafodd ei enwi'n un o'r 100 o lyfrau y mae'n rhaid eu darllen yn 2021 gan TIME. [Credyd Llun: Amaal Said]
Twitter: @rachelnalong

Mae Jon Gower yn gyn-ohebydd y celfyddydau a'r cyfryngau BBC Cymru sydd wedi ysgrifennu mwy na 40 o lyfrau. Mae'r rhain yn cynnwys The Story of Wales, a oedd yn cyd-fynd â chyfres deledu arloesol, llyfr teithio o'r enw An Island Called Smith ac Y Storïwr, a enillodd Wobr Llyfr y Flwyddyn. Ei lyfr diweddaraf yw The Turning Tide: A Biography of the Irish Sea. Ar hyn o bryd, mae Jon yn ysgrifennu nofel Gymraeg hanesyddol am y fforiwr pegynol Edgar Evans, casgliad o draethodau am fynyddoedd, yn ogystal â chyfrol am Raymond Chester, y chwaraewr pêl-droed Americanaidd, i'w chyhoeddi yn 2024. Mae'n byw yng Nghaerdydd. [Credyd Llun: Marian Delyth]
Twitter: @JonGower1

Mae Maggie Shipstead yn awdur tair nofel a chasgliad o straeon byrion sydd wedi ymddangos ar restr The New York Times o’r llyfrau mwyaf poblogaidd. Cyrhaeddodd ei nofel Great Circle y rhestr fer ar gyfer Gwobr Booker a'r Wobr am Ffuglen gan Fenywod. Graddiodd o Harvard a Gweithdy Ysgrifenwyr Iowa ac mae'n gyn-gymrawd Wallace Stegner yn Stanford. Derbyniodd gymrodoriaeth gan y Gwaddol Cenedlaethol ar gyfer y Celfyddydau ac enillodd Wobr Dylan Thomas a Gwobr L.A. Times am Ffuglen Gyntaf. Mae hi'n byw yn Los Angeles.
Twitter: @MaggieShipstead