Mae Prifysgol Abertawe Gwobr Dylan Thomas yn falch o gyhoeddi rhestr fer 2024.

A Spell of Good Things gan Ayobami Adebayo (Canongate Books)

A Spell of Good Things gan Ayọ̀bámi Adébáyọ̀ (Canongate Books)
Mae Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, awdur Stay With Me, a gyrhaeddodd restr fer Gwobr y Menywod, yn datgelu stori syfrdanol am Nigeria fodern a dau deulu wedi'u dal gan ddyfroedd geirwon cyfoeth, pŵer, obsesiwn rhamantus a llygredigaeth wleidyddol.

Mae Eniola yn dal am ei oedran, yn fachgen â golwg dyn arno.
Mae ei dad wedi colli ei swydd, felly mae Eniola yn treulio ei ddiwrnodau'n mynd ar neges ar gyfer y teiliwr lleol, yn casglu papurau newydd ac yn cardota, gan freuddwydio am ddyfodol mawr.

Mae Wuraola yn ferch ddifai, plentyn perffaith teulu cyfoethog.
A hithau bellach yn feddyg ifanc wedi blino'n lan yn ei blwyddyn gyntaf o ymarfer, mae hi'n cael ei charu gan Kunle, mab gwyllt ffrindiau ei theulu.

Pan fydd gwleidydd lleol yn ymddiddori yn Eniola a thrais sydyn yn chwalu parti teuluol, mae bywydau Wuraola ac Eniola'n cydblethu.
Yn y nofel wefreiddiol hon, mae Ayòbámi Adébáyò yn taflu goleuni ar Nigeria, ar y gagendor anferth rhwng y rhai breintiedig a'r rhai difreintiedig, a'r ddynoliaeth a rennir sy'n bodoli yn y bwlch rhyngddynt.

Ayobami Adebayo llun credyd Emmanuel Iduma

Ayọ̀bámi Adébáyọ̀, A Spell of Good Things (Canongate Books)
Ganwyd Ayọ̀bámi Adébáyọ̀ yn Lagos, Nigeria. Enillodd ei nofel gyntaf, Stay With Me, Wobr 9mobile am Lenyddiaeth, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Baileys am Ffuglen i Fenywod, Gwobr Wellcome i Lyfrau a Gwobr Llawysgrif Kwani? Fe'i cyfieithwyd i ugain o ieithoedd a dyfarnwyd gwobr y Prix Les Afriques i'r cyfieithiad Ffrangeg. Cafodd Stay With Me le ar restr hir Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Lenyddol Ryngwladol Dulyn, ac roedd yn Llyfr Gorau'r Flwyddyn yn ôl New York Times, Guardian, Chicago Tribune ac NPR. Mae Ayòbámi Adébàyò yn rhannu ei hamser rhwng Norwich a Lagos.

X: @ayobamiadebayo  |  Instagram: @ayobamidebayo
[Credyd llun: Emmanuel Iduma]

Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK)

Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson (Viking, Penguin Random House UK)
Dawnsio yw'r unig beth sy'n gallu datrys problemau Stephen.

Yn yr eglwys gyda'i deulu, y dwylo duon wedi'u codi mewn canmoliaeth. Gyda'i fand yn gwneud cerddoriaeth, yn canu nid yn unig am eu caledi ond eu llawenydd hefyd. Yn ymlacio gyda'i ffrind gorau, mor agos y gallai eu pennau gyffwrdd. Yn dawnsio ar ei ben ei hun i sain recordiau ei dad, yn darganfod rhannau o’r dyn nad yw byth wedi'i adnabod yn iawn. Ei ieuenctid, cywilydd ac aberth.

Dim ond mewn caneuon mae Stephen wedi ei adnabod ei hun erioed. Ond beth a ddaw ohono pan fydd y gerddoriaeth yn tewi?

Mae Small Worlds, sy'n disgrifio digwyddiadau tri haf, o dde Llundain i Ghana ac yn ôl eto, yn nofel am y bydoedd rydym yn eu creu i'n hunain. Y bydoedd lle rydym yn byw, yn dawnsio ac yn caru.

Caleb Azumah Nelson

Caleb Azumah Nelson, Small Worlds (Viking, Penguin Random House)
Mae Caleb Azumah Nelson yn awdur ac yn ffotograffydd Prydeinig-Ghanaidd sy'n byw yn ne-ddwyrain Llundain. Enillodd ei nofel gyntaf, Open Water, Wobr Costa am Nofel Gyntaf a Nofel Gyntaf y Flwyddyn yng Ngwobrau Llyfrau Prydain, a chyrhaeddodd frig rhestr y Times o lyfrau sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda. Hefyd, cafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas, Gwobr Awdur Ifanc y Flwyddyn y  Sunday Times, Llyfr y Flwyddyn Waterstones, a chyrhaeddodd restr hir Gwobr Gordon Burn a Gwobr Elliott Desmond. Roedd ei ail nofel, Small Worlds yn llyfr sydd wedi gwerthu'n arbennig o dda yn ôl y Sunday Times a chafodd le ar y rhestr fer ar gyfer Gwobr Orwell am Ffuglen Wleidyddol. Fe'i dewiswyd gan Brit Bennett yn anrhydeddai '5 under 35' ar gyfer y Sefydliad Llyfrau Cenedlaethol.

X: @CalebANelson  |  Instagram: @caleb_anelson

The Glutton gan A.K. Blakemore (Granta)

The Glutton gan A.K. Blakemore (Granta)
Ni chaiff y Chwaer Perpetue symud. Ni chaiff gwympo i gysgu. Ei gorchwyl yw eistedd, gan gadw gwyliadwriaeth dros ystafell y claf. Mae hi wedi clywed straeon am ei newyn, sydd y tu hwnt i grediniaeth: ei fod wedi bwyta pob math o greaduriaid a gwrthrychau. Plentyn hyd yn oed, os gallwch chi gredu'r sïon. Ond mae'n anodd credu mai'r dyn main, eiddil hwn yw'r un roeddwn nhw'n arfer ei alw'n Tarare Fawr, Bolgi Lyon.

 Cyn hynny, Tarare yn syml oedd. Yn llawn bwriadau da ac yn hynod chwilfrydig, wedi'i eni i fyd o ddyrnu a seidr melys, i fam weddw a thlodi. Mae'r 18fed ganrif yn dirwyn i ben, mae cynnwrf ym mhob man yn Ffrainc ac mae bywyd yn y pentref ar fin cael ei weddnewid. Wrth i Tarare gael ei daflu allan a'i adael yn agos at farwolaeth yn dilyn gweithred sydyn o drais, mae ei chwant anferthol am fwyd yn cael ei danio a chyn hir, daw'n destun rhyfeddu ledled y wlad oherwydd ei alluoedd anhygoel i fwyta.

Gan ddilyn hynt Tarare wrth iddo deithio o dde Ffrainc i Baris a'r tu hwnt, drwy ganol y chwyldro, mae The Glutton, yn daith gyffrous, wefreiddiol i fyd terfysg, cynnwrf a llygredigaeth, lle'r unig peth sy'n cymharu â newyn un gwerinwr yw galwadau anniwall dinasyddion Ffrainc.

A.K. Blakemore llun credyd Alice Zoo

A.K. Blakemore, The Glutton (Granta)
Enillodd nofel gyntaf A.K. Blakemore, The Manningtree Witches, Wobr Desmond Elliot 2021, cyrhaeddodd restr fer Gwobr Costa am Nofel Gyntaf, ac roedd yn Llyfr y Mis Waterstones. Mae hi'n awdur dau gasgliad llawn o farddoniaeth, Humbert Summer a Fondue, ac fe enillodd Wobr Ledbury Forte 2019 am yr Ail Gasgliad Gorau, ac mae hefyd wedi cyfieithu gwaith y bardd o Sichuan Yu Yoyo. Mae ei barddoniaeth a'i rhyddiaith wedi ymddangos yn y London Review of Books, Poetry, Poetry Review a White Review, ymhlith cyhoeddiadau eraill.

X: @akblakemore  |  Instagram: @barbiedreamhearse
[Credyd llun: Alice Zoo
]

Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber)

Bright Fear gan Mary Jean Chan (Faber & Faber)
Yn dilyn eu casgliad cyntaf arobryn, Flèche (2019), cyhoeddir ail gasgliad gloyw Mary Jean Chan: Bright Fear. Drwy gerddi sy'n ymdrin yn ddiofn â themâu cydgysylltiedig hunaniaeth, amlieithrwydd ac etifeddiaeth ôl-drefedigaethol, mae gwaith diweddaraf Chan yn archwilio dynameg ddatblygol teulu, yn ogystal â microymosodiadau sy'n deillio o homoffobia a'r hiliaeth wrth-Asiaidd a oedd yn cyd-fynd â phandemig Covid.

Ond eto mae Bright Fear yn llawn eiliadau o harddwch, tynerwch a gras. Mae'n gofyn sut gallem ddod o hyd i gartref yn ein cyrff ein hunain, mewn lleoedd pell ac agos, ac ym 'man gwneud y gerdd’. Mae'r adran fyfyriol yn y canol, Ars Poetica, yn olrhain rôl llwyr iachaol a thrawsnewidiol barddoniaeth yn ystod arddegau ac oedolaeth y bardd, gan orffen mewn cymodiad polyffonig tafodau. Drwy gydol y gwaith, mae Chan yn cynnig ffyrdd  newydd a chymhellol o wrthsefyll: 'the quotidian tug- / of-war between terror and love’.

‘[Chan] is one of those rare poets who leave you looking up with a sense that you can engage even the smallest part of the world around you with a much greater intensity.’ PN Review

Mary Jean Chan

Mary Jean Chan, Bright Fear (Faber & Faber)
Mary Jean Chan yw awdur Flèche (Faber & Faber, 2019), a enillodd Wobr Llyfr Costa am Farddoniaeth ac a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Casgliad Barddoniaeth Cyntaf Canolfan Seamus Heaney. Cyrhaeddodd Bright Fear, sef ail lyfr Chan, restr fer Gwobr Forward 2023 ar gyfer y Casgliad Gorau ac ar hyn o bryd mae ar restr fer Gwobr yr Awduron. Yn 2022, gwnaeth Chan gyd-olygu'r antholeg glodwiw 100 Queer Poems gydag Andrew McMillan. A hithau'n un o feirniaid diweddar Gwobr Booker 2023, mae Chan yn Gymrawd Barddoniaeth Judith E. Wilson ym Mhrifysgol Caergrawnt.

X: @maryjean_chan  |  Instagram: @maryjeanchan

Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books)

Local Fires gan Joshua Jones (Parthian Books)
Yn Local Fires, mae ffocws yr awdur newydd, Joshua Jones, ar ei fan geni sef Llanelli, de Cymru.  Yn eironig ac yn felancolaidd, yn llawn llawenydd a galar, er bod y straeon amlweddog hyn wedi'u gosod mewn tref fach, maen nhw’n ymestyn ymhell y tu hwnt i'w hardal leol. O'r llesgedd o fyw mewn hen ardal dosbarth gweithiol, ddiwydiannol, i rywedd, rhywioldeb, gwrywdod tocsig a niwroamrywiaeth, mae Jones wedi llunio casgliad sy'n amlochrog o ran thema ac arsylwi, wrth i anffawd trigolion y dref fygwth gorlifo i ddiweddglo ffrwydrol.

Yn y gyfres drawiadol hon o straeon cysylltiedig, mae tanau llythrennol a throsiadol, lleol a hollgynhwysol, yn fflamio ynghyd i gyflwyno dyfodiad llais llenyddol Cymreig neilltuol newydd.

Joshua Jones (c) Nik Roche

Joshua Jones, Local Fires (Parthian Books)
Mae Joshua Jones (ei/ef) yn awdur ac yn artist awtistig cwiar o Lanelli, de Cymru. Sefydlodd Dyddiau Du ar y cyd, sef gofod celf a llenyddiaeth NiwroCwiar yng Nghaerdydd. Cyhoeddwyd ei ffuglen a'i farddoniaeth gan Poetry Wales, Broken Sleep Books, Gutter ac eraill. Mae'n un o Egin Awduron Llenyddiaeth Cymru ar gyfer 2023, ac ar hyn o bryd yn gweithio gyda'r British Council i gysylltu awduron cwiar o Gymru a Fietnam. Local Fires yw ei gyhoeddiad ffuglen cyntaf.

X: @nothumanhead  |  Instagram: @joshuajoneswrites
[Credyd llun: Nik Roche]

Biography of X gan Catherine Lacey (Granta)

Biography of X gan Catherine Lacey (Granta)
Yn sgîl marwolaeth X - artist eiconoclastig a chymeriad oriog sy'n polareiddio barn - mae ei gweddw sy'n wallgof yn ei galar, yn ei thaflu ei hun i ysgrifennu bywgraffiad o'r fenyw roedd yn ei haddoli. Er i X gael ei chydnabod fel grym creadigol hollbwysig ei hoes, roedd hi'n cadw stori ei bywyd yn breifat. Nid oedd hyd yn oed CM, ei gwraig, yn gwybod lle ganwyd X, ac yn ei hymdrechion i ddarganfod hyn, mae'n agor cist Pandora o gyfrinachau, bradychu a dinistr. Drwy hyn i gyd, mae hi'n ymdrochi yn hanes y Diriogaeth Ddeheuol, theocratiaeth ffasgaidd a ymrannodd o weddill y wlad ar ôl yr Ail Ryfel Byd, nes iddi o'r diwedd yn yr oes sydd ohoni, gael ei gorfodi i ildio i ailuniad anesmwyth.

Antur lenyddol wrth-ffeithiol â chystrawen feistrolaidd, sy'n cynnwys lluniau gwreiddiol wedi'u casglu gan weddw X, mae Biography of X, yn dilyn gwraig alarus sy'n ceisio deall y fenyw a oedd yn ei chyfareddu. Mae CM yn olrhain taith grwydrol X dros y degawdau, o Ewrop i adfeilion tiriogaethau rhanedig America, a thrwy ei chydweithrediadau a'i chynhennau gyda phawb, o David Bowie a Tom Waits i Susan Sontag a Kathy Acker. Ac wrth iddi ddeall o'r diwedd gwmpas prosiect celfyddydol diffiniol X, mae CM yn sylweddoli bod dichellion ei gwraig yn llawer mwy creulon nag yr oedd hi wedi dychmygu.

Yn byrlymu â gwewyr a deallusrwydd, mae Biography of X yn waith epig gwyllt sy'n archwilio dyfnderoedd galar, celf a chariad, gan gyflwyno cymeriad bythgofiadwy sy'n dangos i ni ffaeledigrwydd y straeon rydym yn eu llunio i'n hunain.

Catherine Lacey llun credyd Willy Somma

Catherine Lacey, Biography of X (Granta)
Catherine Lacey yw awdur y nofelau Nobody Is Ever Missing, The Answers a Pew, a'r casgliad o straeon byrion Certain American States. Mae hi wedi ennill Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Whiting, Gwobr Ffuglen Llewod Ifanc Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a chymrodoriaeth Sefydliad y Celfyddydau Efrog Newydd. Mae hi wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Dylan Thomas a Gwobr Llyfrau PEN/Jean Stein, ac fe'i henwyd yn un o Nofelwyr Ifanc Americanaidd Gorau Granta. Mae ei thraethodau a'i ffuglen fer wedi ymddangos yn The New Yorker, Harper's Magazine, The New York Times, The Believer a mannau eraill. Fe'i ganwyd yn Mississippi, mae Catherine ar hyn o bryd yn gymrawd yng Nghanolfan Dorothy B & Lewis Cullman ar gyfer awduron ac ysgolheigion yn Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd, ac fel arall mae wedi'i lleoli yn Ninas Mecsico.

X: @_catherinelacey  |  Intstagram: catherinelacey_
[Credyd llun: Willy Somma]

yr hyn a ddywed y beirniaid

Sylwadau Julia Wheeler am A Spell of Good Things gan Ayòbámi Adébáyò:
“Mae ‘A Spell of Good Things’ gan Ayòbámi Adébáyò yn mynd â ni'n ddwfn i haenau cymdeithas ranedig Nigeria i greu nofel rymus sydd ar adegau'n dorcalonnus.   Gan weu arferion cymdeithasol a gwleidyddiaeth ddinistriol, mae elfennau personol a chenedlaethol yn cydblethu i greu mewn modd medrus gymeriadau sy'n tybio, beth nesaf?”

 Sylwadau Tice Cin am Small Worlds gan Caleb Azumah Nelson:
“Yn y nofel hynod gariadus a rhythmig o emosiynol hon, rydym yn cwrdd â Stephen a'i fydoedd bach ei hun, y bydoedd hynny sy'n hollbresennol wrth droi o'n cwmpas. Gan roi sylw agos i unigrwydd rhywun sy'n cael ei daflu o'i le diogel i dir neb, mae Azumah Nelson yn cyfleu'r ymdeimlad o gael cysur drwy fod yn rhywle arall, gan roi yn y llaw estynedig sy'n dod â ni adref olion ein galar a cherddoriaeth cymuned.”

 Sylwadau Jon Gower am The Glutton gan A. K. Blakemore:
“Mae'r nofel hynod ddyfeisgar hon, sy'n ffrwyth ymchwil ddofn, yn nodweddiadol am ryddiaith fywiog, farddonol, gan adrodd stori Tarare, dyn ifanc dan felltith chwant bwyd anniwall. Mae ei chast o gymeriadau wedi'u portreadu'n wych wrth symud drwy Ffrainc sy'n newid mewn modd treisgar a byd sydd ar gyfeiliorn. Mae ‘The Glutton’ yn rhoi boddhad mawr, gan adael y darllenydd yn awchu am ragor.”

Sylwadau Tice Cin am Bright Fear gan Mary Jean Chan:
“Gan feddu ar agosrwydd tawel, mae ail gasgliad Mary Jean Chan yn mwmian ger eich clust gyda barddoniaeth sy’n dyner, yn groesawgar ac yn ddyfeisgar mewn modd ffurfiol. Mewn byd dan faich eithrio, o frathiadau didrugaredd gwladychu i gasineb at bobl cwiar, mae ‘Bright Fear’ yn agor y drws i broses o adeiladu bywyd i chi eich hun, serch hynny. Drwy farddoniaeth eglur wedi'i hatgyfnerthu gan eu chwarae amlieithog, mae Chan yn trin gardd o hunanwerthfawrogiad a chymuned ddewisol, gan ymdroi â chyflawnder gwireddiad cwiar, ehangder saib rhiant, a gwreiddiau lliniaru tyner.”

Sylwadau gan Namita Gokhale am Local Fires gan Joshua Jones:
“Mae Joshua Jones wedi gosod ‘Local Fires’ yn Llanelli, ei dref enedigol yng ngorllewin Cymru. Mae'r casgliad cyntaf hwn o ffuglen fer yn cyfleu syrthni, marweidd-dra a diniweidrwydd diflanedig tirwedd ôl-ddiwydiannol. Mae'n myfyrio ar wrywdod gwenwynig ac anobaith cenhedlaeth, gan gyflwyno cameos sy'n gomig ac yn drasig am rywedd a hunaniaeth rywiol, yn ogystal â rhoi cipolwg dwfn ar niwrowahaniaeth. Dyma bortread am le a chymuned sy'n fywiog, yn ddilys ac yn ddwfn.”

Sylwadau Seán Hewitt ar Biography of X gan Catherine Lacey:
“Drwy archwilio celf, perthnasoedd a phwêr, mae ‘Biography of X’ yn dadansoddi'r straeon rydym yn eu hadrodd am ein bywydau ein hunain a bywydau pobl eraill, ac yn gofyn beth sy'n digwydd pan fydd yn rhaid i ni ailysgrifennu'r straeon hynny er mwyn parhau i fyw. Nofel hynod ddychmygus, uchelgeisiol a chain sy'n llwyddo i gyflawni gorchwyl mentrus ffurfiol mewn modd medrus tu hwnt.”