2011: Lucy Caldwell, The Meeting Point

Y tro cyntaf i Wobr Dylan Thomas gael ei dyfarnu yn 2006, cafodd Lucy Caldwell  - a aned ym Melfast – ei chynnwys ar y rhestr fer gyda’i nofel gyntaf, Where They were Missed, a hi oedd enillydd y Wobr yn 2011 am ei hail nofel, The Meeting Point.

Ers hynny, mae hi wedi ysgrifennu trydedd nofel, nifer o ddramâu llwyfan, dau gasgliad o straeon byrion, Multitudes (2016) ac Intimacies (2020), yn ogystal â golygu casgliad o straeon byrion a enillodd glod y beirniaid, Being Various: New Irish Short Stories (2019).

Cafodd ei hethol yn Gymrawd y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol yn ddiweddar.

2011: Lucy Caldwell, 'The Meeting Point' Cover image

Crynodeb - 'The Meeting Point'

Pan fydd Euan a Ruth â’u merch ifanc yn symud i fyw i Bahrain, maent yn disgwyl profiad ac antur y byddant yn eu mwynhau. Ond ar y noson maen nhw’n cyrraedd, mae Ruth yn canfod y gwir y tu ôl i’r gwaith cenhadol mae Euan wedi’i gynllunio ac mae’n teimlo’i byd yn dechrau chwalu. Yn bell o’i chartref, a chyda digwyddiadau’n arwain at ryfel yn Irac gerllaw, mae’n dechrau cwestiynu ei ffydd – yn Euan, yn eu priodas ac ym mhopeth sydd wedi bod yn annwyl iddi.

Gan fod Euan i ffwrdd mor aml, mae hi wedi’i chyfyngu i’w cyfadeilad wedi’i warchod gyda’i chymdogion ac, yn enwedig, Noor, sef merch anniddig yn ei harddegau sydd wedi dychwelyd i Bahrain yn ddiweddar i fyw gyda’i thad. Yn wyneb temtasiynau ac amheuaeth, mae’n rhaid i bob un wneud dewisiadau a allai newid eu bywydau am byth.

Nofel gymhellol, angerddol ac atseiniol yw, The Meeting Point, sy’n ymdrin ag idealaeth a diniweidrwydd, troadau annisgwyl mewn bywyd a’r peryglon a’r cyfleoedd sy’n ein disgwyl.

Cyfweliadau

Lucy Caldwell - Enillyd 2011

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Ashish Dwivedi yn siarad â’r awdur arobryn Lucy Caldwell.