2016: Max Porter, 'Grief is the Thing With Feathers'

Enillodd Max Porter y wobr yn 2016 gyda’r rhyddiaith a barddoniaeth hybrid sef Grief is the Thing with Feathers, a ganmolwyd gan y beirniaid fel ‘hudolus a syfrdanol.’ Enillodd y nofel fer hefyd Wobr Ysgrifennwr Ifanc Gorau’r Flwyddyn PFD y Sunday Times, a chyrraedd rhestr fer Gwobr Llyfr Cyntaf The Guardian a Gwobr Goldsmiths. Mae apêl fyd-eang y llyfr wedi arwain at werthiannau mewn 29 o wledydd yn rhyngwladol.

Ers cyhoeddi, mae wedi cael ei addasu ar gyfer y llwyfan gyda’r seren Cillian Murphy. Perfformiwyd y ddrama gyntaf yn Nulyn ac yna fe’i perfformiwyd i fwy na 26,000 o bobl yn Llundain ac Efrog Newydd yn ystod gwanwyn 2019. Yn ddiweddar, mae Porter wedi cyhoeddi ei ail lyfr, y nofel Lanny (2019), unwaith eto’n herio confensiynau naratif â strwythur arbrofol sy’n cynnwys themâu pwerus. Cyrhaeddodd Lanny’r rhestr hir ar gyfer Gwobr Wainwright a Gwobr Booker. Mae addasiad ffilm ar y gweill sy’n cynnwys Rachel Weisz.

2016: Max Porter, 'Grief is the Thing With Feathers' Book Cover

Crynodeb - 'Grief is the Thing With Feathers'

Mewn fflat yn Llundain, mae dau fachgen ifanc yn wynebu tristwch annioddefol marwolaeth sydyn eu mam. Mae eu tad, sy’n ysgolhaig Ted Hughes ac yn ddyn rhamantus blêr, yn dychmygu dyfodol llawn ymwelwyr da eu bwriad a gwacter.

Yn y foment hon o anobaith, mae brân yn ymweld â nhw – yn wrthwynebydd, yn gastiwr, yn iachäwr ac yn warchodwr plant. Mae’r aderyn sentimental hwn, yn ôl ei ddisgrifiad ei hun, wedi’i denu at y teulu galarus ac mae’n bygwth aros tan nad oes ei angen arnynt mwyach. Wrth i wythnosau droi’n fisoedd ac wrth i boen ddofn colled droi’n atgofion, mae’r tri’n dechrau iacháu.

Yn y nofel gyntaf ryfeddol hon – yn nofel fer, yn chwedl bolyffonig ac yn draethawd ar alar – mae tosturi ac arddull orchestol Max Porter yn cyfuno i greu effaith syfrdanol. Mae Grief is the Thing with Feathers, sy’n llawn synnwyr digrifwch annisgwyl a gwirionedd emosiynol dwfn, yn nodi cyrhaeddiad dawn wefreiddiol newydd.

Press Releases

Cyfweliadau

Max Porter - Enillyd 2016

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Eddie Matthews yn siarad â’r awdur arobryn Max Porter.