2008: Nam Le

Roedd casgliad cyntaf o straeon gwefreiddiol Nam Le, The Boat, yn bersonol ac yn fyd-eang ei gwmpas ac mae wedi cael ei ganmol yn helaeth am ei ras a’i ‘ryddiaith dreiddiol a chofiadwy’.

Yn enedigol o Fietnam, cafodd Nam Le ei fagu yn Awstralia a bu’n gweithio i ddechrau fel cyfreithiwr cyn troi at ysgrifennu.  Bu ganddo gymrodoriaethau gyda’r Ganolfan Gwaith Celfyddydau Cain yn Provincetown, Canolfan Bellagio, Sefydliad Bogliasco, Sefydliad Camargo, Civitella Ranieri, Santa Maddalena a lleoedd eraill.

Mae The Boat wedi bod yn llwyddiant ysgubol yn rhyngwladol, cafodd ei gyfieithu i 15 iaith ac enillodd nifer o wobrau, gan gynnwys Gwobr Lenyddol Prif Weinidog Awstralia, Gwobr Anisfield-Wolf am Lyfr a Gwobr PEN/Malamud.

2008: Nam Le, The Boat book cover

Crynodeb - 'The Boat'

Mae The Boat yn mynd â’r darllenydd ar daith fythgofiadwy, ymhell ar draws y byd ac yn ddwfn i fywydau dyrnaid o’i ddinasyddion.

Boed yn lleiddiad hur yng Ngholombia, yn arlunydd yn Efrog Newydd sy’n heneiddio neu’n ferch ifanc sy’n ddiymgeledd ym Môr De Tsieina, mae pob un o gymeriadau Le’n ymdrechu, gan wynebu pwysau personol a hanesyddol mawr, i reoli eu bywydau.

Drwy eu straeon, mae’r byd yn agor ac yn cau i mewn ar yr un pryd. Mae The Boat yn nofel gyntaf nodedig sy’n llawn dynoliaeth, gan ddangos eto ac eto sut rydym wedi’n cysylltu â’n gilydd yn y pen draw.