2010: Elyse Fenton, 'Clamor'

Clamor gan Elyse Fenton, a aned ym Massachusetts, oedd y casgliad cyntaf o farddoniaeth i ennill Gwobr Dylan Thomas. Mae’r casgliad, a gafodd ei ganmol yn helaeth am y ffordd mae Fenton yn plethu themâu cariad a rhyfel â’i gilydd, yn nodweddiadol am ‘uchelgais enfawr a chyflawniad aruthrol’.

Mae barddoniaeth a rhyddiaith Elyse wedi cael eu cyhoeddi yn American Poetry Review, Best New Poets, a The New York Times.”

Yn 2017, cyhoeddwyd ei hail gasgliad o farddoniaeth, Sweet Insurgent, sy’n mynd i’r afael â themâu gwrthdaro, moeseg a hunaniaeth mewn byd sy’n newid yn gyson. Dyfarnwyd Gwobr Alice Fay di Castagnola Cymdeithas Barddoniaeth America i’r llawysgrif ar y gweill yn 2013.

Yn ddiweddar, cwblhaodd ei nofel gyntaf, stori am gariad mewn cyfnod o ryfel, sy’n olrhain bywydau’r bobl gyffredin yn wynebu ôl-effeithiau trychinebus a dryslyd trais.

2010: Elyse Fenton, 'Clamor' Cover image

Adolygiadau - 'Clamor'

"O falurion mudlosg Irac, sy’n dwyn creithiau’r frwydr, i lond ceg awyr dirwystr olaf, mae casgliad cychwynnol Elyse Fenton yn gweiddi gyda’r fath daerineb fel ei fod yn ein gollwng yn uniongyrchol i’r ardal beryglus. Mae ei chelfyddyd yn fanwl, yn ddyfalbarhaol ac yn fflamllyd pan gaiff ei defnyddio yng nghyd-destun blaen y gad. Ond hefyd, mae’n gymedrol: mae hi’n cynnwys golwg bersonol o berthynas sy’n cael ei phrofi gan y pellter rhwng maes y gad a chartref. Yn sicr, mae gan y llyfr hwn ymdeimlad o anesmwythder-ond pa ffordd arall y gallwch fesur creulondeb y byd? Fodd bynnag, mae huodledd angerddol Fenton yn gwneud yn iawn am hyn; ynghyd â’i chywirdeb pendant o ran geiriau.” - D. A. Powell

”Mae Clamor yn cysylltu gorsafoedd gweithredol blaenllaw yn Irac â’r sawl sydd gartref yma yn America. Dyma farddoniaeth angenrheidiol sy’n dod â ‘gwaith shrapnel’ atom; ‘dyma’r peth na allwch ei boeri allan ni waeth faint y byddwch yn ceisio’ (er y byddwch yn cydnabod yn gyson fod yna ragor i’w roi bob amser). Yn unol â thraddodiadau gorau barddoniaeth ryfel, cariad a cholled yw pynciau sylfaenol Clamor. Llyfr yw Clamor sy’n gwrthod troi i ffwrdd. “Mae’n ymdrin â materion hynod bersonol a hynod breifat ond eto-wrth i’r cerddi ddod i ben ym meddwl y darllenydd-mae’n waith sy’n berthnasol i’r holl fyd.” - Brian Turner

“Mae paradocs rhyfeddol Clamor yn gysylltiedig â’i ddeunydd pwnc dwys, annifyr: rhyfel Irac, dinistriad y corff, diffeithiwch a galar wedi’u mynegi i gyfeiliant barddoniaeth gariad poenus o hardd. O “freuddwyd dwymyn anhrefn a theilchion y rhyfel”, mae Fenton yn adrodd stori am angerdd ac amheuaeth, hiraeth ofnadwy ac aduniad annaearol, yr hyn y gallwn ei wneud i’w gilydd a thros ein gilydd a’r hyn rydym yn ei wneud i oroesi, mewn ffordd fedrus a beiddgar.” - Dorianne Laux

“Gyda llinellau sy’n dangos ymrwymiad di-ildio i grefft, mae’r llinellau hyn yn barod i ymdrin ag ystyr a’r hyn sy’n ystyrlon. Yn fwyfwy bob dydd, mae’r Americanes fyfyriol yn gofyn sut y gallai gredu mewn cariad pan fydd hi wedi’i hamgylchynu gan ryfel ac, ym mhob un o’i geiriau sy’n llawn teimlad, mae Fenton yn ymdrin â’r cwestiwn hwn gyda’r fath dynerwch y byddai cariadon yn dangos i’w gilydd. Os yw pob un gerdd yn gerdd am gariad, mae Clamor yn llyfr cyntaf sy’n werth ei ddarllen ac yn llyfr y dylen ni ei ganmol mewn gwirionedd.” -Jericho Brown