2018: Kayo Chingonyi, 'Kumukanda'

Gyda’i gasgliad cyntaf, Kumukanda (Chatto & Windus, 2017), enillodd Kayo Chingonyi wobrau Llyfr y Flwyddyn The Guardian a The Telegraph, ynghyd â Gwobr Ryngwladol Dylan Thomas a Gwobr Somerset Maugham yn 2018.

Bu Kayo yn Gymrawd Burgess yn y Ganolfan ar gyfer Ysgrifennu Newydd, Prifysgol Manceinion, yn Fardd Cysylltiol yn Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes, Llundain a bellach mae’n Olygydd Barddoniaeth ar gyfer The White Review ac yn Athro Cynorthwyol yn yr Adran Astudiaethau Saesneg ym Mhrifysgol Durham.

Mae wedi perfformio ei waith mewn gwyliau ledled y byd. Bydd A Blood Condition, casgliad newydd o gerddi, yn cael ei gyhoeddi gan Chatto & Windus, ac mae ei hunangofiant, Prodigal, ar fin cael ei gyhoeddi gan Picador.

2018: Kayo Chingonyi, 'Kumukanda' Book Cover

Crynodeb - 'Kumukanda'

Kumukanda, sy’n cyfieithu fel ‘derbyniad’, yw’r enw a roddir ar y defodau y mae’n rhaid i fachgen ifanc o’r llwyth Luvale lwyddo ynddynt er mwyn iddo gael ei ystyried yn ddyn. Mae cerddi llyfr cychwynnol nodedig Kayo Chingonyi yn archwilio’r daith hon: rhwng dau fyd, byd y hynafiaid a’r byd cyfoes; rhwng y bobl fyw a’r meirwon; rhwng yr agendor sy’n cynrychioli pwy ydyw a sut mae’n cael ei ystyried.

Dyma archwiliad pwerus o hil, hunaniaeth a gwrywdod, wedi’i ategu gan hoffter o gerddoriaeth, iaith a llenyddiaeth, sy’n dathlu’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn Brydeinig a pheidio â bod yn Brydeinig ar yr un pryd.

Datganiadau i'r Wasg

Cyfweliadau

Kayo Chingonyi - Enillyd 2018

Yn y bennod hon, mae intern o’r Sefydliad Diwylliannol Eddie Matthews yn siarad â’r awdur arobryn Kayo Chingonyi.