2021: Raven Leilani, 'Luster'

Mae gwaith Raven Leilani wedi cael ei gyhoeddi yn Granta, The Yale Review, McSweeney’s Quarterly Concern, Conjunctions, The Cut, a New England Review, ymysg cyhoeddiadau eraill. Enillodd MFA o Brifysgol Efrog Newydd a bu'n llenor preswyl Ymddiriedolaeth Axinn. Luster yw ei nofel gyntaf.

Twitter @RavenLeilani 
[credyd y llun i: Nina Subin]

'Luster' Book Cover

CRYNODEB - 'Luster'

Dim ond ceisio goroesi y mae Edie. Mae hi'n gwneud llanastr yn ei swydd weinyddol heb ddyfodol yn ei swyddfa wen i gyd, mae hi'n cysgu gyda'r dynion anghywir i gyd, ac mae hi wedi methu gwneud yr unig beth a oedd yn golygu unrhyw beth iddi, sef paentio. Nid oes ots gan neb am y ffaith nad oes syniad ganddi beth mae hi'n ei wneud yn ei bywyd y tu hwnt i'w hantur rywiol nesaf. Yna mae hi'n cwrdd ag Eric, archifydd gwyn, canol oed â theulu maestrefol, gan gynnwys gwraig sydd wedi cytuno, ar ryw ffurf, i gael priodas agored a merch ddu fabwysiedig nad yw'n gallu dibynnu ar neb yn ei bywyd i ddangos iddi sut i dacluso ei gwallt. Ar ben ymdopi ag amgylchiadau newidiol gwleidyddiaeth rhyw a hil fel menyw ddu ifanc, sy'n ddigon anodd, mae Edie yn ymuno, a hynny'n fyrbwyll, â theulu Eric yn ei gartref pan nad oes ganddi un man arall i fynd iddo. Yn ogystal â bod yn finiog iawn, yn bryfoclyd o afaelgar ac yn annisgwyl o deimladwy, mae Luster yn nofel gyntaf hynod ddoniol gan Raven Leilani sy'n ymdrin ag ystyr bod yn ifanc yn y byd sydd ohoni.

Syima Aslam yn siarad am Luster gan Raven Leilani: "Llyfr craff a threiddiol, mae Luster yn dweud gwirionedd diofn a didosturi. Mae Leilani yn arsylwi'n ddiwyro ar realiti profiad menyw ddu ifanc yn America heddiw. Mae ei archwiliad o fywyd teuluol anghonfensiynol ac anffyddlondeb yn yr 21ain ganrif yn agoriad llygad, yn y nofel gyntaf ddigrif-dywyll hon sy'n rhyfeddol o deimladwy."

CYFWELIADAU

Raven Leilani

Caiff yr ymgeisydd ar y rhestr fer ar gyfer Prifysgol Abertawe Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe ei gyfweld gan Fyfyrwyr Llenyddiaeth Saesneg, Miguel Llama and Morgan PerryMae'r myfyrwyr hyn wedi astudio nofel Leilani, Luster.