Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda bartneriaeth symbiotaidd gyda Phrifysgol Abertawe gyda thraddodiad cryf o gydweithio ac alinio blaenoriaethau strategol rhwng y ddau.

Trwy ddatblygu Bwrdd Partneriaeth y Brifysgol, mae cydberthnasau wedi cryfhau gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgolion partner eraill, i ddarparu gofal iechyd darbodus, sicrhau hyblygrwydd y gweithlu a hyrwyddo hylifedd staff ar draws rhanbarthau a ffiniau sefydliadol. Yn seiliedig ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth, mae Bwrdd Partneriaeth y Brifysgol yn darparu'r fframwaith llywodraethu ar gyfer bwriadau strategol a chynlluniau cyflawni ar gyfer ymchwil, addysg ac arloesedd i fod wrth wraidd prosesau gwneud penderfyniadau.

Yn draddodiadol mae Bwrdd Iechyd y Brifysgol (UHB) wedi cynnal dolenni cryf gyda Phrifysgol Abertawe, yn enwedig gydag Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Ysgol Feddygaeth mewn cydweithrediad ag Ysgol Rheolaeth y Coleg a’r Coleg Peirianneg. Mae elfen allweddol Nyrsio Bydwreigiaeth a’r Strategaeth Datblygu ac Ymchwil Allied Health Professional a’r Cynllun Gweithredu wedi eu datblygu fel ymgais ar y cyd rhwng Bwrdd Iechyd y Brifysgol a Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrifysgol Abertawe.

Mae’r UHB yn gweithio’n agos gyda’i phartneriaid ymchwil sydd eisoes yn bodoli, ac yn weithgar yn chwilio am bartneriaethau newydd ar y cyd, i barhau i ddatblygu arweinyddiaeth ymchwil ar y cyd, sgiliau, a mecanweithiau cefnogaeth. Mae perthnasau cryf rhwng yr UHB a Phrifysgol Abertawe wedi gyrru datblygiadau arloesol mewn ymchwil, sydd wedi gweld manteision i gleifion unigol a’r boblogaeth yn ehangach.

Mae cytundeb nyrsio ôl-gofrestru mewn lle gyda Phrifysgol Abertawe, sy’n cefnogi ystod o ddatblygiad clinigol, gan gynnwys rhaglenni ar sail gwaith a chymwysterau nyrsio israddedig o Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae staff hefyd yn myned graddau ac uwch raddau mewn ystod o ddisgyblaethau a chant eu grymuso i roi’r dysgu hyn mewn i ymarfer.

Mae’r UHB a Phrifysgol Abertawe hefyd wedi datblygu Tystysgrif mewn Gofal Iechyd, ar y cychwyn i ddatblygu Gweithwyr Cefnogoeth Gofal Iechyd (HCSWs) mewn i Gynorthwyydd Ymarferwyr.

Nod y UHB yw datblygu diwylliant lle mae ymchwil ac arloesi yn weithgaredd sefydliadol craidd. Mae Prifysgol Abertawe yn bartneriaid allweddol wrth greu amgylchedd sy'n gyfeillgar i arloesi sy'n annog ac yn cynorthwyo unigolion i ddefnyddio'u sgiliau, eu gwybodaeth a'u syniadau.

Mae'r arloesedd hwn yn creu cyfleoedd sy'n diwallu anghenion y boblogaeth yn Hywel Dda.

Dangosir hyn trwy nifer o ymdrechion cydweithredol allweddol, gan gynnwys: Cydweithrediad Rhanbarthol dros Iechyd (ARCH)

Mae rhaglen gydweithredol ARCH rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn rhaglen uchelgeisiol sydd wedi'i chynllunio i harneisio adnoddau'r tri phartner. Mae'n cynnwys iechyd a gwyddoniaeth yn cydweithio i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl De Orllewin Cymru. Nod ARCH yw creu gwell iechyd, sgiliau a chanlyniadau economaidd.

Mae hefyd yn gweithio gyda gofal cymdeithasol, cyrff gwirfoddol ac eraill i ddatblygu dull systemau cyfan i hyrwyddo’r nodau yma.