SAIL cylchgrawn cyn-fyfyrwyr Abertawe 2026
Eleni, rydym yn dathlu ysbryd entrepreneuriaeth a'r graddedigion arbennig o Abertawe sy'n troi syniadau mawr yn fusnesau ffyniannus. O sylfaenwyr brand dillad sgïo byd-eang i arloeswyr sy'n datblygu podiau golchi ecogyfeillgar a wnaed o wymon, mae ein cyn-fyfyrwyr yn profi y gall syniadau gwych gael effaith ar ddiwydiannau, cymunedau a'r byd o'n cwmpas.
Darganfyddwch sut mae Prifysgol Abertawe, ei darlithwyr a'r cyfleoedd sydd ar gael yma wedi helpu i ddylanwadu ar lwybrau cyn-fyfyrwyr, gan roi'r hyder, y sgiliau a'r cymorth iddynt gyflawni eu huchelgeisiau.
Fel bob amser, byddwch hefyd yn dod o hyd i'r newyddion, digwyddiadau a chyfleoedd cyn-fyfyrwyr diweddaraf i ailgysylltu â'ch cymuned Abertawe. Gobeithiwn fod y rhifyn hwn yn eich ysbrydoli chi i freuddwydio'n fawr, cofleidio cyfleoedd newydd a dathlu cyflawniadau gwych ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr.