Gwyn Brooks
BSc. 1965, 
MSc. 1966, PhD. 1970
Un o Sefydlwyr 
Osprey Metals Ltd (Sandvik Osprey bellach)
 

 

I rywun heb lawer o ddealltwriaeth o’ch diwydiant, sut byddech chi’n esbonio eich dyfais a sut esblygodd y busnes? 

Yn y bôn, dim ond ychydig o ffyrdd sydd yna o wneud cydrannau ffurfiedig mewn metel ac aloi. Yr hynaf o’r rhain yw castio. Mae amrywiaeth eang o brosesau castio ar gael, sydd wedi bod ar waith ers miloedd o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae castiadau yn gymharol wan oherwydd bod y metel bwrw yn oeri’n araf yn y mowld castio. Mae’r microadeiledd digyswllt sy’n deillio o hynny yn fras, felly os yw castiad yn cael ei ollwng, bydd yn aml yn cracio oherwydd ei wendid cynhenid. Fe lwyddwyd i oresgyn y broblem hon pan ddarganfuwyd bod cynhyrchu castiad metel mawr (ar ffurf ingot neu biled – h.y. bar gyda diamedr mawr), ac yna’i gynhesu a’i guro gyda morthwylion enfawr, yn creu “cynnyrch gyr”. Mewn cynnyrch o’r fath, mae’r microadeiledd mewnol yn cael ei ddadelfennu a’i wneud yn fwy mân. Po fwyaf mân yw’r microadeiledd, y mwyaf unffurf yw’r cynnyrch, a gorau oll yw’r priodweddau. Mae angen defnyddio cynnyrch gyr mewn amrywiaeth helaeth o sefyllfaoedd o straen, megis distiau strwythurol, trawstiau, bolltau, pibellau a thiwbiau, siafftiau gyrru ar gyfer tyrbinau, cantelau, gerau ac ati. 

Tua’r 1920au, cafwyd y syniad o ddefnyddio powdrau metel i gynhyrchu cydrannau ffurfiedig bach a chymhleth, h.y. meteleg powdr, ond bu’n rhaid aros tan y 1940au cyn gweld datblygiadau cyflym yn y maes i alluogi cynhyrchu ar raddfa fasnachol eang. Mae meteleg powdr yn broses fanwl gywir o weithgynhyrchu sy’n creu cydrannau metel drwy gyfuno, cywasgu a sintro powdrau metel. Fel arfer, mae hynny’n ymwneud â chynhyrchu powdr metel, cymysgu/cyfuno’r powdrau ac yna eu cywasgu i ddei siâp cymhleth, ac yna sintro (cynhesu heb gyrraedd toddbwynt y powdrau metel) i ffurfio cydrannau hynod o gryf ar ffurf led-orffenedig. Rhinwedd proses powdr yw bod gan bob gronyn, neu ddiferyn wedi’i atomeiddio, ei ficroadeiledd ei hun. O ganlyniad, dydych chi ddim yn cael yr hyn sy’n cael ei alw’n ficroadeiledd ‘digyswllt’: er enghraifft, wrth gastio aloi sy’n seiliedig ar haearn, gyda nicel, crôm ac ati fel elfennau cymysgu’r aloi, mae’r elfennau hynny’n wael am wasgaru ac yn ceisio glynu at ei gilydd. Byddai’r microadeiledd digyswllt hwn yn arwain at briodweddau gwael yn y cynnyrch gorffenedig. Mae hynny’n cael ei osgoi mewn cynnyrch meteleg powdr sydd â strwythur mân ac unffurf, rhydd o natur ddigyswllt o’r fath. O ganlyniad, mae meteleg powdr yn cael ei ddefnyddio’n helaeth ar gyfer cynhyrchu rhannau cymharol fach, cymhleth, o ansawdd uchel ar gyfer meysydd fel moduro (gerau ac ati), cydrannau awyrofod, offer ac ati. Mae modd cynhyrchu powdrau metel drwy amrywiaeth o ddulliau (yn dibynnu ar y defnydd terfynol): yn arbennig mathru, malu, proses gemegol, atomeiddio dŵr a nwy ac ati. 

Ym mis Ionawr 1969, fe wnes i ddechrau fel arweinydd prosiect chwistrellu a rholio yn yr Adran Meteleg ym Mhrifysgol Abertawe, adran a oedd yn cynnwys Alan Leatham – metelegydd gwych ac arloesol a sicrhaodd PhD yn ddiweddarach ar sail ei waith ar y prosiect. Ymunodd un arall o raddedigion Prifysgol Abertawe, Jeff Coombs o’r Adran Peirianneg Fecanyddol, â thîm y prosiect ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Mae Jeff yn beiriannydd hynod arloesol a dyfeisgar. Heb sylweddoli hynny ar y pryd, roedd y doniau technegol creiddiol a sefydlwyr Osprey ar waith eisoes.

Osprey's Neath building

Y broses chwistrellu a rholio - a gweledigaeth rhwng bath a thafarn 

Roedd y broses chwistrellu a rholio yn cynnwys chwythu chwistrelliadau cyflym o nwy Nitrogen yn erbyn ffrwd o aloi alwminiwm tawdd, a gosod y diferion metel a gynhyrchwyd yn uniongyrchol ar ddrwm neu olwyn fawr yn cylchdroi. Wrth i’r diferion oeri’n gyflym, byddai stribyn caled o aloi metel yn cael ei greu, ac roedd yn bosib rholio hwnnw. Defnyddiwyd crochan eithaf mawr o aloi tawdd ac ar waelod y crochan, mewnosodwyd chwistrell ceramig, er mwyn i ni allu cynhyrchu llif o fetel tawdd a hwnnw’n disgyn yn fertigol. 

 Y cam nesaf oedd amgylchynu’r chwistrell ceramig gyda’r hyn a elwir yn ddyfais atomeiddio nwy. Dyfais o ddur gwrthstaen oedd hon, gyda chyfres o dyllau bach, consentrig wedi’u drilio ynddi. Byddai nwy nitrogen yn cael ei chwistrellu o dan wasgedd uchel drwy’r tyllau, a’r nwy wedyn yn taro ffrwd o fetel tawdd, gan greu niwl o ddiferion mân o aloi metel – a’r rheiny’n oeri’n gyflym ac yn rhydd o natur ddigyswllt microadeiledd metel bwrw. Byddai’r chwistrell nwy yn cael ei gyfeirio at ddrwm a oedd yn cylchdroi i greu stribed o aloi metel caled, a fyddai wedyn, gobeithio, yn gallu cael ei rolio’n uniongyrchol. Roedd bron fel meteleg powdr uniongyrchol. Dyna oedd amcan y prosiect chwistrellu a rholio. Fodd bynnag, ar ôl tua blwyddyn, fe wnaethon ni sylweddoli na fyddai’n broses hyfyw oherwydd ar y pryd, doedden ni ddim yn gallu cynhyrchu haen wedi’i chwistrellu a oedd o drwch cyson ar draws ei led. Pan fydden ni’n ceisio ei rolio, byddai’n cracio ac yn chwalu. 

Yn ystod 1971, roedd y prosiect (dan nawdd y National Research and Development Council) yn dirwyn i ben, felly roedd yn rhaid i ni feddwl am y dyfodol. Tua’r adeg hon, fe wnaethon ni’n tri – Alan, Jeff a finnau – gyfarfod dros beint neu ddau yn nhafarn y Rhyddings. Dywedodd Alan, “Mae gen i syniad – beth pe baen ni’n chwistrellu i mewn i fowld i gynhyrchu siâp poeth lled-ffurfiedig ymlaen llaw, a’i weithio ar unwaith i’w siâp terfynol mewn un cam gofannu?” Mewn achos o’r fath, straen gywasgol sydd ar waith ar y cyfan, yn hytrach na straen tynnol (fel sydd ar waith wrth rolio), a thrwy hynny roedd modd i’r ffurf dros dro atgyfnerthu’n llawn heb gracio. Roedd dull o’r fath yn cynnig y posibilrwydd unigryw o gwtogi a chwblhau’r broses weithgynhyrchu o aloi tawdd i ofannu gorffenedig mewn eiliadau, o’i gymharu ag wythnosau, neu hyd yn oed fisoedd, wrth ddefnyddio’r dull hir, confensiynol. Dyma fi’n dweud, “Ble ddiawl gest ti’r syniad yna?” ac atebodd Alan, “Yn y bath neithiwr.” Roedden ni i gyd wedi cyffroi, ac er ein bod ni’n gwybod y byddai ychydig yn fwy cymhleth na hynny, roedden ni’n meddwl y gallai weithio. 

Beth bynnag, dyna oedd cysyniad gwreiddiol yr hyn a fyddai’n datblygu yn Broses Osprey maes o law, a ninnau ar y pryd yn meddwl bod modd ei defnyddio i gynhyrchu nifer fawr o gydrannau peirianyddol cymharol fach, fel gerau, cantelau, pigau tyllu, rhodenni cyswllt, llafnau tyrbinau ac ati. 

Fi ysgrifennodd y patent cyntaf, yn seiliedig ar ein cyfraniadau ni’n tri. Costiodd £75 i fi – roedd fy ngwraig yn benwan grac: 1971 oedd hyn, a dyma hi’n dweud, “Fe allen ni fod wedi cael gwyliau am hynny!” 

Am flynyddoedd lawer, roedd gen i ffrind da (Gerald Davies – roedden ni’n chwarae criced gyda’n gilydd yng Nghlwb Criced Castell-nedd). Roedd gan ei deulu fusnes eithaf sylweddol yng Nghastell-nedd, yn creu cynnyrch anhydrin, yn bennaf ar gyfer cwmnïau dur lleol. Roedd Gerald yn ystyried ei hun yn entrepreneur ac roedd ganddo ddiddordeb mawr yn nhechnoleg Osprey. O ganlyniad, perswadiodd ei deulu i “fuddsoddi” yn y cwmni, ac yn y pen draw daeth y teulu Davies yn un o’r cyfranddalwyr. Y cyfranddalwyr eraill oedd y dyfeiswyr (h.y. fi, Alan a Jeff) a miliwnydd o’r Alban, perchennog y busnes cemegol ym Mhort Talbot lle’r oeddwn i’n gweithio fel rheolwr gyfarwyddwr. 

Sefydlu a Thyfu: Cysylltiad Sandvik 

Dyma ni’n mynd ati i sefydlu gweithdy sylfaenol iawn yng Nghastell-nedd a dechrau ar waith arbrofol. Fe wnaethon ni gyhoeddi papurau, aethom i gynadleddau perthnasol a dal ati i wneud gwaith datblygu. Roedd yn drefniant anarferol iawn. Dau noddwr sylfaenol oedd yna – un yn darparu gweithdy, cyfleusterau ysgrifenyddol, trydan, ffonau, ffacs ac ati a’r llall, y miliwnydd o’r Alban, yn talu rhai o’r cyflogau a threuliau eraill – dyna sut y dechreuon ni. Enw’r cwmni y gwnaethom ni ei ffurfio oedd Osprey Metals Ltd. 

Roedden gennym ni lawer o gontractau datblygu bach ar gyfer cwmnïau ledled y byd a oedd â diddordeb ym Mhroses Osprey. Daeth pob un ohonyn nhw i dref fach Castell-nedd! Roedd yn brofiad anhygoel gweld yr holl gwmnïau o bob cwr o’r byd – o Japan, Tsieina, yr UDA ac Ewrop – yng Nghastell-nedd. Roedden ni’n cynhyrchu amrywiaeth eang iawn o gynnyrch wedi’u ffurfio â chwistrell gan ddefnyddio sawl aloi cymhleth, er mwyn i’n cwsmeriaid eu gwerthuso. Roedden ni’n creu ffrwd incwm resymol, dim byd mawr, ond digon i gadw’r blaidd o’r drws. Yn y pen draw, daeth yn amlwg nad oedd y broses yn addas iawn ar gyfer gweithgynhyrchu cydrannau cymharol fach. Roedd y côn chwistrellu yn eithaf mawr ac roedd chwistrellu gormodol yn broblem gyson, gan olygu bod powdr yn casglu ar waelod y siambr chwistrellu byth a hefyd. Dyma ni’n sylweddoli nad oedd y broses yn mynd i fod yn economaidd hyfyw ar gyfer gweithio a chynhyrchu cydrannau bach oherwydd lefel cynnyrch isel y broses. 

Yna, ym 1977, galwodd Lars Ljungstroem heibio, uwch beiriannydd o Sandvik Steel AB, Sweden – ac fe ddaeth yn gyfaill agos i ni. Roedd Sandvik yn cynhyrchu llawer o offer, fel geingion, llifiau ac ati, ond ar adeg ymweliad Lars, doeddwn i ddim yn sylweddoli eu bod nhw hefyd yn gwneud llawer iawn o gynnyrch gwahanol yn seiliedig ar ddur. Dyma fi’n dweud wrtho, “Lars, dydw i ddim yn meddwl bod y broses hon yn mynd i fod yn addas ar gyfer gwneud geingion a morthwylion.” Atebodd yntau, “Gwyn, does gen i ddim diddordeb yn hynny, dwi eisiau gwneud tiwbiau mawr.” Roedd fel pe bai rhywun wedi troi’r golau ‘mlaen! Fe wnes i ddweud, “Lars, dydyn ni erioed wedi gwneud tiwb, ond fe wnawn ni diwb yfory”, a dyna ddigwyddodd. Fe wnaethon ni greu tiwb wedi’i chwistrellu mewn dur gwrthstaen arbennig ac roedden nhw wrth eu boddau. Roedden nhw’n meddwl ei fod yn wych. Fe wnaethon ni ddefnyddio crochan tywod ar ffurf tiwb fel is-haen, a’i basio drwy’r chwistrell â llaw. Cafodd cyfran uchel o’r chwistrell metel ei osod ar yr is-haen, ac fe wnaethon ni lwyddo i greu tiwb gyda microadeiledd gwych – roedden nhw wrth eu boddau. Arweiniodd hynny at lawer o waith datblygu ar gyfer Sandvik, ac yn gynnar ym 1979, fe wnaethon nhw ofyn am gael prynu trwydded fyd-eang, unigryw i ni weithgynhyrchu tiwbiau i’w defnyddio yn y diwydiannau nwy, olew a phetrocemeg. Felly dyna oedd ein trwydded fawr gyntaf! 

Alla’i ddim cofio’n union faint oedd gwerth ffi’r drwydded ymlaen llaw, ond rwy’n credu ei fod tua £200k a oedd yn swm enfawr i ni ar y pryd. Dyna oedd un o’r adegau allweddol i’r busnes; roedd llawer iawn o gwmnïau prosesu metel blaenllaw yn curo ar y drws, ac yn y pen draw fe wnaethon ni werthu dros 30 o drwyddedau ar draws y byd. 

Yn ddiweddarach ym 1979, prynodd Sandvik gyfran reoli yn Osprey (ar ôl ymyrraeth munud olaf dramatig), gan ddarparu sefydlogrwydd a chefnogaeth ariannol mawr eu hangen – rhyddhad mawr i Alan, Jeff a finnau. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, newidiwyd enw’r cwmni i Sandvik Osprey. 

Dyna pryd y gwnaethon ni ddechrau meddwl y byddai’r broses yn llawer mwy addas ar gyfer creu cynnyrch mawr, lled-orffenedig, fel tiwbiau diamedr mawr a biledi solet, crwn gyda microadeiledd mân, unffurf, heb fod o natur ddigyswllt, i’w defnyddio mewn ystod eang o gydrannau a oedd yn gorfod gwrthsefyll straen sylweddol. 

Llynges yr Unol Daleithiau a Thrwyddedu Byd-eang 

Fe ddaethon ni hefyd i gysylltiad â Llynges yr Unol Daleithiau. Ynghyd â Sandvik, fe fuon ni’n gweithio gyda nhw am sawl blwyddyn. Roedden nhw eisiau tiwbiau diamedr mawr mewn dur gwrthstaen arbennig iawn i’w defnyddio mewn llongau tanfor niwclear. Cyfnod y Rhyfel Oer oedd hwn, felly roedd y gwaith yn gyfrinachol iawn ar y pryd. Penderfynodd yr Americanwyr eu bod nhw’n mynd i adeiladu 16 o longau tanfor niwclear, pob un yn costio tua $6 biliwn. Roedd pob llong danfor i gael wyth tiwb, metr ar draws a thua 3.5 m o hyd. Drwy’r tiwbiau yma fyddai’r taflegrau niwclear yn cael eu tanio, pe bai angen hynny. Fe wnaethon ni werthu trwydded am $10 miliwn ymlaen llaw, cytundeb sylweddol iawn ar ddechrau’r 1980au. Ar y cyd â Mannesman Demag, adeiladwyd ffatri i weithgynhyrchu’r tiwbiau, ond newidiodd popeth wrth i Gorbachev a Reagan ddirwyn y Rhyfel Oer i ben. Arwyddwyd cytundeb i atal lledaenu arfau niwclear, ac yn sgil hynny penderfynodd Llynges yr Unol Daleithiau mai dim ond dwy long danfor o’r fath roedden nhw am eu hadeiladu. O ganlyniad, daeth ein cytundeb ni i ben. 

Dros y tua 20 mlynedd nesaf, fe wnaethon ni werthu llawer o drwyddedau ledled y byd, gan dderbyn taliadau ymlaen llaw am drosglwyddo gwybodaeth dechnegol a breindaliadau am gynhyrchu a gwerthu cynnyrch. Roedd gwerthu trwyddedau technoleg ar gyfer Proses Osprey yn antur wirioneddol wych, ac fe deithiodd Alan a finnau i bob cwr o’r byd. Un o’r trwyddedau cyntaf a werthwyd oedd yn gynnar ym 1979, i gwmni Prydeinig wedi’i leoli yn Swindon (Deloro-Stellite, a oedd yn rhan o grŵp cwmnïau BOC). Nid ar gyfer Proses Osprey oedd y drwydded, ond ar gyfer cynhyrchu powdrau metel wedi’u hatomeiddio â nwy. Ym 1977, fe wnaethon ni rywfaint o waith i Deloro, yn cynhyrchu deiau allwthio wedi’u ffurfio â chwistrell gydag aloi seiliedig ar gobalt. Fe wnaethon ni eu hanfon at Deloro, ond fe wnaethon ni hefyd anfon peth o’r powdr a grëwyd yn sgil y chwistrellu gormodol atyn nhw, oherwydd roedden ni’n gwybod eu bod nhw’n defnyddio llawer o bowdrau aloi o’r fath. Roedden nhw’n hoffi’r deiau, ond fe wnaeth y powdrau fwy fyth o argraff arnyn nhw. Mae powdrau sy’n seiliedig ar gobalt yn amddiffyn cydrannau sy’n cael eu defnyddio’n helaeth, gyda’r powdrau yn cael eu gosod yn eu lle gyda gynnau chwistrellu. Ar sail y canlyniadau, gofynnodd Deloro i ni gynhyrchu powdrau ar eu cyfer yn rheolaidd. 

Arweiniodd y cyfle yma at adeiladu ein siambr chwistrellu gyntaf wedi’i chynllunio’n benodol ar gyfer cynhyrchu powdrau metel wedi’u hatomeiddio â nwy. Dyma hefyd oedd dechrau busnes cynhyrchu powdrau Osprey, a ddaeth yn rhan bwysig o fusnes y cwmni. Fe wnaethom hefyd werthu trwyddedau i Deloro ac i’w perchnogion newydd o’r Unol Daleithiau (y Cabot Corporation). Yn ystod y blynyddoedd nesaf, gwerthwyd 15 trwydded arall ledled y byd ac, ar yr un pryd, roedden ni hefyd yn gwerthu powdrau yn uniongyrchol i amryw o wahanol gwsmeriaid. Ar y pryd, rheolwr Grŵp Powdr Osprey oedd Dr Roger Dunstan, un arall o raddedigion BSc/PhD Adran Meteleg Prifysgol Abertawe, a oedd yn gyfarwydd i ni o’n cyfnod yn y brifysgol. 

Symud i Faes Aloi Ymlediad Hydrin ac Uwch-weithgynhyrchu   

Ym 1986, ymunodd Dr Bob Howells (ffrind agos ers blynyddoedd lawer ac un o raddedigion BSc/PhD Adran Peirianneg Fecanyddol Prifysgol Abertawe) ag Osprey fel Cyfarwyddwr y Grŵp Powdrau. Yn fuan iawn, dyma ni’n sylweddoli bod cynhyrchu a gwerthu powdrau wedi’u hatomeiddio â nwy yn mynd i allu creu mwy o elw na gwerthu trwyddedau. Dyna pryd y rhoesom y gorau i drwyddedu technoleg powdrau a chanolbwyntio ar gynhyrchu a gwerthu powdrau. Tua’r adeg yma, llwyddodd Dr Howells a Dr Dunstan i gymryd cam mawr ymlaen ym maes technoleg atomeiddio a arweiniodd at gynnydd sylweddol yn lefelau cynhyrchu powdr hynod fân. Fe wnaethon ni benderfynu peidio â gwneud cais am batent i’r dechnoleg hon oherwydd gallai arwain at gwmnïau eraill yn ei gopïo. 

Wrth i’r patentau chwistrellu gwreiddiol dynnu at eu terfyn, roedden ni’n gwybod y byddai’r incwm o werthu trwyddedau yn dechrau gostwng. Felly, erbyn tua 2000, penderfynwyd y byddai Osprey yn defnyddio ei dechnoleg chwistrellu i gynhyrchu a gwerthu ystod o gynnyrch unigryw, yn seiliedig ar aloi silicon-alwminiwm amrywiol, neu yn ein geiriau ni, aloi ymlediad hydrin. Mae’r deunyddiau hyn yn beirianadwy, yn ysgafn, ac mae ganddyn nhw gyfernod ymlediad isel a dargludedd thermol a thrydanol uchel. Fe’u datblygwyd gan Osprey (gyda Dr Andrew Ogilvy fel ymchwilydd arweiniol), ar y cyd â GEC Marconi. Arwyddwyd y contract cyflenwi sylweddol cyntaf (gwerth £2.2m) gyda Lucent Technologies o’r UDA. 

Yn ogystal â gweithgynhyrchu a gwerthu cynnyrch aloi ymlediad hydrin, mae Sandvik Osprey yn cynhyrchu powdrau wedi’u hatomeiddio â nwy ar gyfer ystod enfawr o ddefnyddiau, gan gynnwys mowldio chwistrellu metel a gweithgynhyrchu atodol. O ganlyniad, Osprey yw prif ddarparwr powdrau wedi’u hatomeiddio â nwy y byd, gyda thros 2,000 o amrywiadau aloi gwahanol – ac mae’r gwaith yn dal i ddigwydd yng Nghastell-nedd! 

Mae’r cwmni bellach yn cyflogi tua 200 o weithwyr ac mae Sandvik wedi buddsoddi’n sylweddol yn safle gwreiddiol y busnes. O ddechrau digon di-nod – mewn adeilad cerrig 300 mlwydd oed a oedd wedi gweld dyddiau gwell, gyda tho sinc tyllog a dim gwres – mae’r cwmni wedi tyfu i fod yn geffyl blaen yn fyd-eang, diolch yn bennaf i gefnogaeth Sandvik. Mae Sandvik yn gwmni anrhydeddus iawn, cwmni sy’n rhoi pwys mawr ar foesoldeb a moeseg busnes, ac mae wedi bod yn rhiant-gwmni hynod gefnogol. 

Beth yw rhai o’ch profiadau gorau o ran rhedeg y busnes? 

Yn ôl ar ddiwedd y 1970au, fe gawson ni ymweliad gan Howard Hilderbrand (cyn-filwr Americanaidd). Roedd yn gymeriad a hanner, ac wedi sefydlu busnes yn y Swistir yn ymwneud â defnyddio metelau gwerthfawr. Yn benodol, roedd yn prynu powdrau aur ac arian i’w defnyddio ar gyfer creu gemwaith. Daeth i Gastell-nedd mewn awyren breifat a glanio ym maes awyr Abertawe. Pan gyrhaeddodd Osprey, roedd ganddo flwch dur gyda gefynnau’n ei gysylltu â’i arddwrn. Yn y blwch roedd tri ingot o aloi aur yn pwyso cilogram yr un (gwerth tua £20k yr un ar y pryd, tua £120k yr un yn arian heddiw). Roedd eisiau i ni gynhyrchu powdr i weld a oedd yn addas at ei ddibenion busnes, ac fe fyddai’n prynu trwydded gynhyrchu gan Osprey os oedd popeth yn gweithio’n iawn. Doedden ni ddim wedi chwistrellu aur cyn hynny, ac roeddwn i’n gweddïo nad oedd y siambr chwistrellu’n gollwng, neu fe fyddai’r iard a thai bach y dynion dan flanced o bowdr aur drud iawn! Yn ffodus, fe aeth popeth fel watsh ac fe wnaethon ni arwyddo cytundeb trwyddedu yn hwyr ym 1979. 

Roeddech chi a sefydlwyr eraill Osprey wedi astudio yn Abertawe gyda’ch gilydd. Faint o ddylanwad gafodd eich profiad yn Abertawe ar weddill eich taith? 

Roedd yn hollol hanfodol. Yn ddi-os. Roedd dau o’r sefydlwyr wedi graddio o’r Adran Peirianneg Fecanyddol. Y fi a Jeff Coombs. Roeddwn i wedi cael lle drwy fyd diwydiant, a fi oedd y cyntaf o’m teulu estynedig i fynd i’r brifysgol. Wnes i erioed ystyried mynd i’r brifysgol rhyw lawer; roeddwn i eisiau dilyn fy mrawd hŷn fel peiriannydd dylunio yn SCoW, Cwmni Dur Cymru fel oedd e ar y pryd. Ar ôl sefyll yr arholiadau Lefel O yn Ysgol Ramadeg y Bechgyn yng Nghastell-nedd, fe wnes i dreulio tair blynedd fel prentis drafftsmon gyda SCoW. Fe wnes i’n dda yn fy arholiadau ONC a HNC (Tystysgrif Genedlaethol Gyffredin a Thystysgrif Genedlaethol Uwch) ac ennill ysgoloriaeth dechnegol y wladwriaeth, ond doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w wneud â hi. Rwy’n cofio Mr Bradley, y swyddog hyfforddi yn SCoW (dyn hyfryd), yn dweud, “Gwyn, mae’n rhaid i ti fynd i’r brifysgol.” Wrth edrych yn ôl nawr, roedd yn gyngor newidiodd fy mywyd. A dyma fi’n mynd i Abertawe fel myfyriwr o fyd diwydiant. Fe wnes i astudio Peirianneg Fecanyddol a chael gradd dosbarth cyntaf. Fe ddywedodd yr athro y dylwn i wneud ychydig o waith ymchwil, felly fe wnes i radd Meistr ac yna PhD. Dim ond newydd orffen oeddwn i pan ofynnodd yr athro meteleg (yr Athro Singer) i’r Athro peirianneg fecanyddol am argymell peiriannydd i arwain tîm ar gyfer ei brosiect chwistrellu a rholio. Yn ôl yr Athro Singer, roedd hynny’n rheidrwydd achos does dim byd yn gweithio heb beiriannydd mecanyddol. Felly dyma fi’n ymuno â’r Adran Meteleg fel arweinydd tîm y prosiect chwistrellu a rholio. Wedyn, ar ôl tua naw mis, fe wnaethon ni benderfynu bod angen peiriannydd dylunio. Dyna pryd yr ymunodd Jeff â ni. A’r metelegydd ar y prosiect oedd Alan. Mae Alan a finnau’n dal yn ffrindiau agos, ac rydyn ni wedi teithio’r byd gyda’n gilydd. Mae’n byw yn Llandeilo Ferwallt, felly Abertawe oedd y cyswllt hollbwysig. 

Ym 1990, fe fuon ni yn Rwsia, yn aros mewn gwesty cyfoes a moethus (y Mezh) a oedd wedi cael ei adeiladu gydag arian Americanaidd ar gyfer Gemau Olympaidd 1980. Ar ddiwedd yr wythnos, fe wnaethon ni wahodd pawb i ginio yn y gwesty. Roedd yn lle crand iawn, y staff gweini i gyd yn gwisgo cotiau cynffon fain. Roedd yna ddeg yn y criw, gan gynnwys swyddog ifanc o’r KGB. Roedd potel o fodca yr un, a mwy na digon o siampên a chafiar o Rwsia – roedd hi’n noson wych, a’r Rwsiaid yn hael eu llwncdestunau a’u cofleidio. Ni oedd yn talu, a doedden ni ddim yn ennill rhyw lawer ar y pryd, felly roedd Alan a finnau’n arswydo wrth feddwl am y bil. Beth bynnag, pan ddaeth y bil, dyma Alan yn holi i fi faint oedd e. Fe wnes i ateb, “Dwyt ti ddim yn mynd i gredu hyn, mewn rwblau mae e, ond mae’n gyfystyr â £44 i bawb!” Roedden ni’n dau’n gytûn y dylen ni fod wedi cael potel arall o fodca yr un! 

Oedd yna un pwynt penodol pan wnaethoch chi sylweddoli eich bod chi wedi llwyddo? 

Yn sicr! Arwyddo’r cytundeb trwydded gyda Sandvik. O holl bartneriaid gwreiddiol Osprey, roedd hi’n eitha anodd gweithio gyda’r miliwnydd o’r Alban. Roedd e’n hoffi rheoli popeth, ac oherwydd ein bod ni’n gweithredu o safle yng Nghastell-nedd, y tu hwnt i’w reolaeth e, doedd e ddim yn hapus iawn. A dweud y gwir, fe fuodd yn rhaid i ni fynd drwy achos llys ar ôl i Sandvik brynu cyfran reoli yn Osprey. Roedd eisoes wedi bygwth y cwmni drwy ddweud bod ei fuddsoddiad cychwynnol yn y cwmni yn ddyledus iddo. Ond roedd hynny’n chwerthinllyd, oherwydd roedd yn berchen ar un rhan o dair o gyfranddaliadau’r cwmni yn gyfnewid am y cyllid hwnnw. Ar yr un pryd, roedd y noddwr arall (y teulu Davies) yn wynebu trafferthion ariannol difrifol. Roedd eu rheolwr banc wedi eu cyfarwyddo i werthu eu cyfranddaliadau yn Osprey, a chytunwyd ar gytundeb i werthu’r cwmni wythnos yn ddiweddarach i gwmni o Sheffield. Fe fydden ni’n tri, y tri dyfeisiwr, wedi bod yn gyflogeion ond dim byd arall. Roedden ni’n gyfranddalwyr, ond cyfranddaliad lleiafrifol yn y cwmni fyddai hwnnw wedi bod ac o ddim gwerth go iawn, yn enwedig pe bai angen unrhyw gyllid pellach. 

Gan eu bod yn ddeiliad trwydded, roedd yn rhaid rhoi gwybod i Sandvik, felly fe wnes i ffonio fy ffrind, Lars Ljungstroem, i ddweud wrtho beth oedd yn digwydd. Fe wnes i ddweud hefyd fod y buddsoddwr Albanaidd wedi gwneud hawliad yn ein herbyn, a bod y cyfan yn llanast a hanner. Yna fe ddywedodd rhywbeth na wna i byth ei anghofio: “Gwyn, paid â gwerthu, fe fydd gennym ni ddynion yn Llundain fore Llun gydag arian yn eu pocedi.” 

Yn driw i’w gair, fe ddaethon nhw i westy yn Heathrow fore Llun, ac roedden ni yno gyda’n cyfreithwyr. Fe wnaethon nhw ofyn i ni a’r teulu Davies faint roedden ni ei eisiau am ein cyfranddaliadau. Roedd yna ychydig o fargeinio, ond yn y pen draw fe wnaethon ni setlo ar bris a oedd yn dderbyniol gan bawb. Y cam nesaf oedd mynd i ganol Llundain, at eu cyfreithwyr yn Bloomsbury Square, eistedd i lawr a chwblhau’r fargen. Fyddech chi ddim wedi gallu ysgrifennu sgript i ddisgrifio amseru’r ychydig ddyddiau blaenorol – fe aethon ni o’r gwaelodion i’r entrychion mewn tua thri diwrnod! 

Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i rywun sy’n ystyried dechrau ei fusnes ei hun? 

Mae pobl wedi holi’r cwestiwn yma i fi fwy nag unwaith, ac mae’n anodd iawn meddwl am ateb greddfol a gwirioneddol gadarnhaol. Ond os ydych chi’n credu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, mae’n rhaid i chi fod yn ddygn. Chewch chi mo’ch gwobrwyo am ddod yn ail ym myd busnes. A dweud y gwir, fe fyddai wedi bod yn haws weithiau rhoi’r gorau iddi a mynd i rywle arall. Ond mae’n rhaid i chi gredu yn yr hyn rydych chi’n ei wneud, mae’n rhaid i chi ddal ati. Dyfal donc! 

Wrth fyfyrio ar ei daith o fod yn brentis drafftsmon i sefydlu Sandvik Osprey, mae Gwyn yn talu teyrnged i rôl ei brifysgol. “Fyddai hyn ddim wedi digwydd pe na baen ni wedi bod ym Mhrifysgol Abertawe. Oni bai am Abertawe, fe fyddwn i’n gwneud rhywbeth di-nod yn rhywle arall. Un o benderfyniadau gorau fy mywyd oedd mynd i Brifysgol Abertawe.” 

Yn ddiweddarach, ymunodd dau arall o fyfyrwyr graddedig rhagorol Prifysgol Abertawe ag Osprey – Dr Bob Howells (Peirianneg Fecanyddol) a Dr Roger Dunstan (Meteleg). Nhw oedd yn bennaf cyfrifol am lwyddiant rhyfeddol y busnes powdr! Felly i ymdrechion pump o gynfyfyrwyr Prifysgol Abertawe y mae’r diolch am greu Osprey.