Effaith Abertawe: Cyn-fyfyrwyr yn cefnogi sylfaenwyr benywaidd. 

Mae byd busnesau newydd wedi teimlo'n fwy heriol ac yn anos i fenywod am rhy hir. Mae'r data'n cadarnhau hyn: dim ond 34% o entrepreneuriaid y DU sy'n fenywod, ac yn 2022 dim ond 3% o gyllid cyfalaf menter a roddwyd i fusnesau newydd dan arweiniad menywod. Dylai'r rhifau hyn wneud i ni oedi. 

Yn hytrach na derbyn y status quo, mae Prifysgol Abertawe'n ceisio ei newid. 

WeInnovate

Symudiad, nid Rhaglen yn Unig 

Drwy bartneriaeth gyda Choleg Imperial Llundain a phedair prifysgol arall yn y DU, mae Abertawe nawr yn rhan o Rwydwaith Cenedlaethol WE Innovate, y consortiwm cyntaf a arweinir gan brifysgolion yn y DU, sy'n ymroddedig i gefnogi sylfaenwyr benywaidd, sy'n fyfyrwyr ac yn raddedigion, gan ehangu'r llwybrau i lwyddiant. Mae'r rhwydwaith eisoes wedi cefnogi mwy na 500 o fentrau, gan eu helpu i godi dros £80 miliwn. Nawr, mae'r momentwm hwnnw wedi cyrraedd Cymru. 

O "Beth Os" i "Gwyliwch Fi" 
Mae WeInnovate yn fwy na chyfres o weithdai, mae'n fan cychwyn strwythuredig sy'n troi syniadau'n fentrau. Mae'r rhaglen wedi'i datblygu o gwmpas tri chyfnod: 

  • Ysgogi Potensial: meithrin hyder, syniadau a meddylfryd entrepreneuraidd.  
  • Cyflymu Twf: dosbarthiadau meistr, hyfforddiant arbenigol, adeiladu rhwydweithiau, caffael gwybodaeth, brandio, a pharodrwydd i gyflwyno syniadau.  
  • Ariannu'r Dyfodol: cysylltiadau â buddsoddwyr, strategaeth ariannol, a chyllido gwobrau gan gynnwys cronfa gwerth £30,000 sy'n benodol i Abertawe, sydd wedi'i noddi'n hael eleni gan y cyn-fyfyriwr, Anne Boden MBE.  
WeInnovate

Mae hyn yn adlewyrchu hunaniaeth Abertawe fel prifysgol a sefydlwyd gan ddiwydiant ar gyfer diwydiant, gan hyrwyddo arloesedd ac effaith yn y byd go iawn. 

Mae ein carfan a arweinir gan fenywod eisoes yn mynd i'r afael â heriau go iawn, o gynaliadwyedd a thechnoleg feddygol i ofal iechyd digidol a Deallusrwydd Artiffisial. Mae'r rhain yn fentrau sydd â’r potensial i lywio diwydiannau, gwella bywydau a chryfhau ecosystem arloesi Cymru. Mae Abertawe'n barod i helpu i arwain y genhedlaeth nesaf hon o arloesedd, ac rydym yn eich gwahodd i fod yn rhan ohoni. 

WeInnovate

Effaith y Cyn-fyfyrwyr: Pam mae eich Cymorth yn Bwysig: 

Mae cyn-fyfyriwr Abertawe, Anne Boden, sylfaenydd Starling Bank, yn enghraifft o'r effaith hon. Y tu hwnt i gymorth ariannol, mae hi'n hyrwyddo sylfaenwyr benywaidd ac wedi cadeirio tasglu Llywodraeth y DU ar gyfer mentrau technoleg uchel a thwf uchel a arweinir gan fenywod. 

Mae ei chyfranogiad yn amlygu gwirionedd pwerus. Nid dim ond llwyddo y mae cyn-fyfyrwyr Abertawe, maen nhw'n helpu eraill ar yr un pryd.

Mae WE Innovate wedi'i rymuso gan fentoriaid cymunedol, cysylltwyr, partneriaid ac eiriolwyr. Gall ein rhwydwaith o gyn-fyfyrwyr chwarae rôl allweddol wrth lywio taith y sylfaenwyr hyn drwy arbenigedd, rhwydweithiau, buddsoddiad neu fwyhad. 

I'r rhai hynny sy'n awyddus i ddefnyddio cyfalaf, gwybodaeth a phrofiad lle mae'n fwyaf pwysig, mae hwn yn gyfle i weithio ochr yn ochr â thîm Mentergarwch Myfyrwyr Abertawe ar gyfnod hollbwysig, gan gefnogi mentrau sy'n mynd i'r afael â heriau byd-eang. Er mwyn archwilio hyn ymhellach, e-bostiwch enterprise@abertawe.ac.uk. 

Rydym yn adeiladu Cymru a byd lle mae syniadau gwych yn cael y gefnogaeth y maen nhw'n ei haeddu. Mae ein hymagwedd yn sicrhau bod cynnydd yn parhau, ond mae hefyd yn cyflymu cynnydd. 

Er mwyn dysgu rhagor am dîm Mentergarwch Myfrwyr Abertawe a llwyddiant busnesau newydd, ewch i https://hwb.swansea.ac.uk/cy/cyflogadwyedd-menter/menter-myfyrwyr/.