Bore
Taith Campws y Bae:
Agorodd Campws y Bae ei ddrysau gyntaf yn 2015. Mae bellach yn gartref i'r Adran Beirianneg, yr Ysgol Reolaeth, ac Ysgol Gyfrifiadureg a Mathemateg, ochr yn ochr â sefydliadau ymchwil fel ESRI (Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni) a CSIM (Canolfan ar gyfer Deunyddiau Lled-ddargludyddion Integreiddiol). Ymunwch â ni am daith gerdded o Gampws y Bae ac archwiliwch rai o'n cyfleusterau o'r radd flaenaf.
(NODYN: Mae taith Campws y Bae ar yr un pryd â thaith bws Gŵyr a'r Mwmbwls.)
Taith bws o Gŵyr a'r Mwmbwls:
Pawb ar y bws ar gyfer taith o amgylch Gŵyr a'r Mwmbwls, gallwch ail ymweld â’r lleoedd lle mae'n rhaid eich bod wedi treulio amser fel myfyriwr - y Mwmbwls, y Tri Chlogwyn, Langland, Bae Caswell, a llawer mwy.
prynhawn
Teithiau a Sgyrsiau ar Gampws Singleton:
Yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin sy'n hynod fywiog ac sydd yng nghanol bwrlwm bywyd Campws Singleton, bydd gennych chi'r cyfle i glywed arbenigwyr yn siarad am yr ymchwil gyffrous a gynhelir yn y Brifysgol gan ein hacademyddion a'n myfyrwyr, gan gynnwys ein Canolfan Eifftaidd arbennig a'n hadrannau Daearyddiaeth. Hefyd, bydd cyfle i hel atgofion wrth fynd ar daith o gwmpas Campws Singleton
(NODYN: Rydym yn dal i weithio ar y rhan hon o'r rhaglen a byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth gyda phobl yn nes at y digwyddiad.)
Cinio Aduniad yn Ganolfan y Celfyddydau Taliesin:
Gorffennwch eich penwythnos aduniad gyda chinio tair cwrs. Oherwydd y galw cynyddol am yr elfen hon o'r aduniad, rydym wedi penderfynu newid y lleoliad o Abaty Singleton i Ganolfan y Celfyddydau Taliesin. Côd gwisg: Tei du dewisol