Adeiladu Momentwm: Cyflymu Cwmnïau Deillio Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe’n parhau i gryfhau ei henw da fel pwerdy arloesedd, ac mae nawr yn y 4ydd safle yn y DU am greu cwmnïau deillio. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ecosystem fywiog lle caiff 
ymchwil arloesol ei throsi i effaith yn y byd go iawn, gan ysgogi twf economaidd a budd cymdeithasol yng Nghymru, y DU a’r tu hwnt.

Mae portffolio cynyddol Abertawe o lwyddiannau cwmnïau deillio yn amlygu uchelgais ac amrywiaeth ei chymuned entrepreneuraidd. Mae mentrau megis CanSense yn gwella technolegau canfod canser yn 
gynnar, ac mae Ail Arian yn galluogi ailgylchu electroneg mwy cynaliadwy, gan ddangos sut mae ymchwil yn mynd i’r afael â heriau byd eang dybryd. Mae Grove Nanomaterials yn arloesi ym maes deunyddiau uwch ar gyfer profion alergedd, wrth i Viamab a Corryn Biotechnologies ysgogi cynnydd ym maes triniaethau sy’n achub bywydau. Y tu hwnt i wyddoniaeth, mae VoxPol yn mynd i’r afael ag eithafiaeth ar-lein, ac mae Canolfan Gyfreithiol  y Plant Cymru yn cefnogi pobl ifanc, gan wneud gwahaniaeth ystyrlon ar draws cymunedau heddiw.


Mae’r mentrau hyn yn ymgorffori ymrwymiad Abertawe i feithrin a thrawsnewid piblinell gref  o syniadau o’r labordy i’r farchnad.

Wrth i’r momentwm hwn gynyddu, mae Prifysgol Abertawe’n gwahodd ei rhwydwaith byd-eang 
o gyn-fyfyrwyr i chwarae rôl weithgar. O fentora sylfaenwyr a datgloi rhwydweithiau, i fuddsoddi 
a dylanwadu ar strategaethau ar lefel bwrdd, gall cyn-fyfyrwyr entrepreneuraidd gyflymu mentrau sydd eisoes yn denu sylw - gan helpu  i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o gwmnïau deillio a chynnal safle Abertawe ar flaen y  gad o ran arloesi. Ar gyfer y rhai hynny sydd am roi cyfalaf, gwybodaeth a phrofiad ar waith lle mae’n fwyaf pwysig, mae hwn yn gyfle i weithio ochr yn ochr â thîm masnacheiddio Abertawe ar gyfnod hollbwysig - gan lywio mentrau sy’n mynd i’r afael â heriau byd-eang heddiw.

Er mwyn archwilio i hyn ymhellach, e-bostiwch  giving@swansea.ac.uk 

Cansense

Mae prawf gwaed arloesol cansense, a sefydlwyd AR cyd gan yr athro Peter dunstan ym mhrifysgol 
Abertawe, yn defnyddio sbectrosgopeg a Deallusrwydd artiffisial I fynd I’r afael ag UN o 
Ganserau mwyaf angheuol y byd, gan gyflymu Diagnosis cleifion a lleihau baich cynyddol canser  
Y coluddyn. 

Cansense yn awyddus I helpu I ganfod canser yn gynnar a thrawsnewid canlyniadau I bobl AR 
Raddfa fawr.

Darganfyddwch fwy yn Cansenseltd.Com

Cansense