Nick Marsden and Aaron McLaughlin
LLB Law
Dosbarth 2009
Os bydd cynhesu byd-eang yn parhau, fydd dim eira, dim sgïo, a dim busnes
Fe wnaeth Nick Marsden ac Aaron McLaughlin gyfarfod ar eu diwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe. Roedd gan y ddau ddiddordeb brwd mewn sgïo a, gyda chefnogaeth tipyn o’u cyn gyd-fyfyrwyr i wireddu eu breuddwyd, fe aeth y ddau ymlaen i sefydlu brand dillad sgio cynaliadwy a lliwgar OOSC, sy’n arbenigo mewn cynlluniau retro. Maen nhw’n rhannu eu stori isod.
Gallech ei alw’n ffawd, tynged neu serendipedd. Ar ôl cael eu denu gan leoliad arfordirol Prifysgol Abertawe yn ogystal â’r chwaraeon oedd ar gael a’r cyfle am antur, fe wnaeth Nick ac Aaron gyfarfod ar eu diwrnod cyntaf wrth gofrestru ar gyfer eu cwrs gradd yn y gyfraith. Roedd y ddau yn gwisgo’r un hwdi - un sydd ddim ond ar werth mewn cyrchfannau sgïo - ac roedd y ddau eisoes wedi gweithio mewn cyrchfan o’r fath dros dymor sgïo.
Roedd Aaron wedi pechu Nick yn syth am ddwyn ei bwynt gwerthu unigryw neu ei USP!
Nick: “Roeddwn i'n meddwl fy mod i'n hynod o cŵl, cyn i Aaron fy rhoi yn fy lle.”
Aaron: “Yna roedden ni mewn darlithoedd gyda'n gilydd, a buan anghofion ni am ein gwahaniaethau wrth ymaelodi â Chymdeithas Snowriders Abertawe. Roedden ni'n arfer mynd i'r llethr sgïo sych ym Mhen-bre ac ar deithiau sgïo i Les Deux Alpes, Tignes a Mayrhofen – a dyna wnaeth selio ein cyfeillgarwch mewn gwirionedd.”
Fe gawson nhw’r syniad o ddechrau busnes yn eu trydedd flwyddyn, ond daeth bywyd i dorri ar draws eu cynlluniau.
Aaron: “Ar ôl gadael y coleg, aeth y ddau ohonon ni i gyfeiriadau gwahanol; roedd gan y ddau ohonon ni gariadon a doedden ni ddim yn gweld ein gilydd cymaint. Wedyn, ar ôl i’r berthynas gyda’r cariadon orffen fe ddaethon ni’n ôl at ein gilydd yn 2014 a dweud 'iawn, beth am ddechrau'r busnes ma’.”
Erbyn hynny, roedd Aaron ar gynllun i raddedigion gyda chwmni Enterprise Rent-A-Car a Nick yn gweithio yn Standard Chartered, yn rheoli cydberthnasoedd cronfeydd rhagfantoli. Gan gynllunio'r fenter ochr yn ochr â'u gwaith bob dydd, fe wnaethon nhw lwyddo o’r diwedd i benderfynu ar syniad busnes.
Aaron: “Mae popeth rydych chi'n ei ddarllen am sefydlu busnes yn dweud 'gwnewch rywbeth sydd wrth eich bodd,' a'r elfen gyffredin i ni oedd sgïo. Felly, fe wnaethon ni feddwl am beth allen ni ei wneud yn y diwydiant, a pho fwyaf roedden ni'n ystyried y peth, fe wnaethon ni sylweddoli bod siwtiau sgïo yn boblogaidd dros ben yn y 70au, 80au, a'r 90au, a’u bod wedi diflannu’n raddol wedyn.
“Roedd rhai brandiau yn dal i'w gwneud nhw, ond roedden ni'n teimlo y gallen ni ddod â nhw'n ôl a'u gwneud yn fodern a’u cynhyrchu mewn deunyddiau modern anadladwy. Hefyd, fe sylweddolon ni bod cynlluniau retro wastad yn ffasiynol; gan fod yna bob amser rhywbeth sy’n dod yn retro.
“Felly, fe wnaethon ni archebu stondin yn y London Ski Show a mynd amdani.”
Erbyn 2018, â'r cwmni'n dechrau dwyn ffrwyth, roedd ganddyn nhw benderfyniad mawr i'w wneud. Gadawodd Aaron ei swydd i weithio amser llawn yn OOSC. Yn benderfynol o lwyddo, roedd angen gwneud y penderfyniadau cywir o ran ansawdd y deunyddiau i'w defnyddio.
Aaron: “Fe aethon ni i ISPO, y sioe fasnach fwyaf yn y byd ar gyfer chwaraeon a deunyddiau, lle mae 15 neuadd o arddangoswyr a gwneuthurwyr.
“Aethon ni i fyny a lawr yn cwrdd â phob un ohonyn nhw a dod ar draws cwmni deunyddiau rydyn ni'n dal i’w ddefnyddio heddiw. Yn y dechrau, roedden ni’n defnyddio polyester wedi'i ailgylchu ar gyfer y deunydd allanol, a nawr mae'r inswleiddio hefyd wedi ei ailgylchu. Rydyn ni'n defnyddio neilon o rwydi pysgota yn ogystal â chotwm organig.”
Nid dyna ddiwedd y stori. Mae OOSC bellach yn cludo popeth ar y môr, mae gan y cwmni warysau rhanbarthol i leihau ei ôl troed carbon, ac mae'n darparu clytiau trwsio gyda phob cynnyrch fel bod pobl yn gallu trwsio yn hytrach na phrynu siwt newydd. Maen nhw'n prynu hen siwtiau neu rai wedi'u difrodi yn ôl ac mae ganddyn nhw bartner ailgylchu sy'n troi hen siwtiau yn gynhyrchion newydd, fel bagiau llaw a bagiau ymolchi. Ar ben hynny, maen nhw'n gweithio gyda dau gwmni sy’n llogi dillad sgïo ac mae ganddyn nhw blatfform ar eu gwefan lle gall pobl werthu eu hen siwtiau i'w gilydd. Mae pob ffatri wedi'i hardystio gan WRAP, felly mae gweithwyr yn cael eu trin a'u talu'n deg. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd y busnes.
Aaron: “Os bydd cynhesu byd-eang yn parhau, fydd dim eira, ac mae hynny’n golygu dim sgïo, ac felly dim busnes yn y pen draw. Felly, rydyn ni'n ceisio gwneud ein busnes mor gylchol â phosibl.”
Nick: “Dyw hyn oll ddim heb ei heriau, achos mae'n rhaid i Aaron archebu'r ffabrig yn gynnar iawn, ac mae'r broses gynhyrchu yn cymryd llawer mwy o amser. Ac mae'n ddrutach na phe bydden ni ddim yn defnyddio deunyddiau wedi’u hailgylchu, ond dyma'r peth iawn i'w wneud, a dyna pam rydyn ni'n ei wneud e."
Er gwaetha'r holl gymhlethdod ychwanegol, mae'r ymrwymiad hwn yn rhan o batrwm ehangach o benderfyniadau sydd wedi llywio eu taith. Roedd eu hangerdd am y syniad yn gwbl glir, ond roedd mentro i faes dieithr ffasiwn a gweithgynhyrchu yn llawn anawsterau.
Nick: “Doedd ganddon ni ddim math o brofiad yn y maes”
Aaron: “Roedd yna lawer iawn i’w ddysgu!"
Yn y dyddiau cynnar, roedd hi’n fater o ddysgu a darganfod pethau wrth fynd ymlaen. Ar ôl dod o hyd i gyflenwr, fe wnaethon nhw fesur popeth eu hunain a'u hanfon, gyda chanlyniadau cwbl annisgwyl.
“Daeth [y samplau] yn ôl, a fyddech chi ddim wedi gallu ffitio plentyn 12 oed ynddyn nhw, heb sôn am oedolyn!”
Nawr, mae Nick ac Aaron yn gallu edrych yn ôl a chwerthin am eu profiadau cynnar, ond fe ddysgon nhw sut i ddal ati pan oedd pethau’n mynd o chwith. Mae'r ffrindiau wedi cadw rhai o'r samplau gwreiddiol hynny fel tystiolaeth o ba mor bell maen nhw wedi dod. Wrth edrych yn ôl, mae Nick yn ystyried y camgymeriadau cynnar hynny’n rhan o'r broses.
Nick: “Gan fod popeth mor newydd i ni ar y dechrau, rydych chi'n gwneud llawer o'r camgymeriadau am nad ydych chi'n gwybod yn wahanol, a does gennych chi mo'r rhwydwaith o bobl i ddibynnu arnyn nhw. Ond ein mantra ni bob amser yw peidio gwneud yr un camgymeriad ddwywaith.”
Er bod y cyfnodau hyn wedi'u profi i’r eithaf, maen nhw hefyd wedi meithrin gwydnwch sydd wedi’u hysgogi fwy fyth. Mae hyn, ynghyd â brwdfrydedd a chred yn eu busnes, ac yn ei gilydd, wedi eu helpu i ddyfalbarhau drwy'r cyfnodau anodd.
Nick: “Dyw'r gwaith byth ar ben - rydych chi'n ei wneud i chi'ch hun ac i’r busnes, a dyna pam rydych chi'n gweithio’r holl oriau"
Aaron: “Gan fod dau ohonon ni, a’n bod ni yn yr un cwch ac yn gweithio ar agweddau gwahanol o'r busnes, os oes rhywbeth yn mynd o'i le, gallwch droi at y llall bob amser."
Yn ogystal â bod yn gefn i'w gilydd, maen nhw hefyd yn ddiolchgar i gymuned Prifysgol Abertawe am eu helpu yn y dyddiau cynnar.
Aaron: “Roedd gan lawer o'n ffrindiau yn y Brifysgol freuddwydion mawr ac maen nhw wedi mynd ymlaen i fod yn llwyddiannus iawn. Pan ddechreuon ni, fe wnaeth rhai o'r ffrindiau hyn eistedd gyda ni, rhwygo ein cynllun busnes yn ddarnau a chwestiynu beth oedden ni'n ei wneud.
“Mae cael yr adborth gonest hwnnw gan eich cyfoedion yn anhygoel. Ac mae gallu pwyso a dibynnu ar y gymuned honno o gyn-fyfyrwyr Abertawe wedi bod yn werthfawr iawn.”
Wrth i'r busnes ddechrau ennill ei blwyf, daeth cydnabyddiaeth yn fuan iawn. Un o'r cerrig milltir cynharaf i Nick ac Aaron oedd pan gafodd y brand ei dderbyn gan ASOS, gwefan maen nhw'n ei defnyddio eu hunain. Dechreuodd y brand ymddangos ar blatfformau mawr eraill fel Zalando wedyn, gan ennill mwy o sylw a chydnabyddiaeth ehangach o fewn y diwydiant.
Nick: “Un foment na wna i byth anghofio yw pan ddeffrais i tua 06:30 y bore wrth i Aaron ffonio i ddweud bod Margot Robbie wedi archebu deg siwt sgïo!”
“Fe wnaeth y siwtiau archebodd hi ymddangos ar gyfrif Instagram 'Dress like Margot', ar fideo yn rhoi ei chyngor ffasiwn cynta am y flwyddyn.”
Mae hyn yn fwy na dim ond cydnabyddiaeth bersonol. I OOSC, mae pryniannau fel hyn wedi rhoi cyfle i'r cwmni ehangu ei gyrhaeddiad trwy wefannau cyfryngau cymdeithasol fel Instagram sy'n rhannu cynnwys ffasiwn gan bobl enwog, ond hefyd yn adlewyrchu rhywbeth mwy o ran sut oedd pobl yn dechrau derbyn y brand.
“Mae'n braf ei bod hi wedi prynu'r siwtiau yn lle eu derbyn fel rhodd, sy’n golygu mai pryniant go iawn ac nid marchnata oedd e. Fe brynodd hi’r cynnyrch am ei bod hi’n ei hoffi, cyn postio ar Instagram amdano i rannu’r neges gyda’i dilynwyr."
Mae'r cwmni hefyd wedi derbyn clod ym maes busnes. Eiliad gofiadwy arall i OOSC oedd derbyn Gwobr y Brenin am Fenter mewn Masnach Ryngwladol yn 2024. Dyma anrhydedd busnes mwya'r DU, sy'n cydnabod cwmnïau sydd wedi profi twf rhagorol dramor, ac roedd yn dipyn o gamp i'r brand.
Nick: “Es i i Gastell Windsor a chwrdd â'r Brenin a chael gwydryn o siampên gydag e, ac roedd hynny’n dipyn o sbort.”
“Roedd hi'n braf cael y math hwnnw o gydnabyddiaeth; dyma'r anrhydedd busnes uchaf allwch chi ei gael yn y DU felly roedd yn rhoi teimlad o fod wedi cyflawni rhywbeth mawr, heb os.
Mae OOSC yn parhau i adeiladu ar y llwyddiannau hyn gyda mwy a mwy o fomentwm o hyd, fel eu partneriaethau yng Ngogledd America. Mae'r cwmni'n gweithio gyda manwerthwyr amlwg fel Macy's, Nordstrom ac Urban Outfitters, yn ogystal â bod yr unig frand dillad sgïo yn y byd sydd â thrwydded NFL. Mae'r datblygiadau hyn nid yn unig yn nodi cyflawniad personol ond hefyd yn cynnig cyfle am fwy o dwf masnachol.
Aaron: “Dw i'n dwlu ar bêl-droed Americanaidd, felly dechreuodd y cyfan fel prosiect i fynd ar drywydd fy angerdd personol i.
“Ond ein bwriad yw ceisio sicrhau lle yn Dick's Sporting Goods oherwydd gallai archeb fach iddyn nhw newid popeth i ni. Marathon yw hwn, nid sbrint!”
O ran OOSC, rydyn ni'n dal i ganolbwyntio ar greu cynhyrchion sy'n ymwneud yr un faint â sut maen nhw'n gwneud i bobl deimlo â sut maen nhw'n perfformio. Rydych chi'n cael ymdeimlad o gariad a brwdfrydedd at y brand trwy fywiogrwydd a phersonoliaeth pob darn sydd, i Nick ac Aaron, yn cyfleu ysbryd sgïo mewn ffordd sy'n teimlo'n beth hiraethus a newydd yr un pryd.
Nick: “Mae'n fater o sut mae rhywun yn teimlo wrth wisgo ein cynnyrch ni. Ein harwyddair ar gyfer eleni yw "gwisgo gyda hyder" ac mae'n debyg mai sgïo yw'r unig gamp chwaraeon lle gallwch chi wisgo beth bynnag rydych chi’n dymuno ei wisgo a theimlo'n wych yn gwneud hynny.
“Mae ein cynnyrch ni mor fywiog a hwyliog, mae’r eitemau yn crynhoi hwyl a hanfod sgïo a'r ffordd o fyw sydd ynghlwm wrth sgïo; mae pawb wastad yn hapus mewn siwt OOSC.”
Mae'r ymdeimlad o hyder yn ymestyn o’r llethrau i'r cyfryngau cymdeithasol lle gall cwsmeriaid ymgysylltu'n llawn â'r brand ar Instagram trwy gyfrif 'OOSC in the wild,' gan gryfhau'r naws gymunedol ymhellach. I Aaron, mae'r ymdeimlad hwn o'r cyfarwydd a bod yn agored yn ganolog i'r hyn y mae OOSC yn ei ddathlu:
Aaron: “Mae'n debyg i'r cyfnod pan oedd pobl yn gyrru hen geir Beetle ers talwm ac yn codi llaw ar ei gilydd wrth basio.
“Rwy'n ffan mawr o'n hiraeth diymddiheuriad ni a dy'n ni ddim yn barnu unrhyw un. Mae croeso i bawb fod yn rhan o'n cymuned ni - rydyn ni yn feiddgar ac yn falch o hynny!”
Wrth i'r cwmni barhau i gyrraedd cerrig milltir newydd, mae Nick ac Aaron yn bendant bod llawer mwy i ddod - ac mai'r nod yw parhau i dyfu eu presenoldeb byd-eang yn ogystal ag ehangu i gynnig dillad plant er mwyn ategu'r ymdeimlad o gymuned ac etifeddiaeth ymhellach.
Ond yr enydau bach, mwy personol hynny sy'n crisialu eu siwrnai orau. Yn ddiweddar, dathlodd OOSC ei ben-blwydd yn 10 oed trwy ddychwelyd i'w man cychwyn, oedd yn adlewyrchiad perffaith o ba mor bell maen nhw wedi dod.
Aaron: “Ar ddiwrnod cyntaf y lansiad yn 2015, daeth ein ffrindiau ni i gyd at ein gilydd a mynd i’r Folie Douce, ac fe gawson ni dynnu lluniau ohonom ni i gyd fraich yn fraich”
“Aethon ni yn ôl yno wythnos diwethaf ac ailadrodd y cyfan, yng nghwmni cwsmeriaid doedden ni ddim yn eu hadnabod, cwsmeriaid oedd wedi talu i ddod ar y daith gyda ni, a'r staff yn gwisgo logos OOSC ym mhobman. Roedd y rhod wedi troi go iawn."
Mae'r hyn a ddechreuodd fel diddordeb angerddol mewn chwaraeon, ac a hwyluswyd gan gymuned Prifysgol Abertawe, wedi datblygu i fod yn frand byd-eang. Deng mlynedd yn ddiweddarach, mae OOSC yn dal i fynd o nerth i nerth, ac mae’r sylfaenwyr wedi ymrwymo i ddatblygu'r cwmni i fod yn gymuned sydd wedi'i diffinio gan hyder, cyfrifoldeb, cysylltiad, a'r pleser syml o sefyll mas. Gyda chynaliadwyedd bellach yn ganolog i hunaniaeth y cwmni, mae Nick ac Aaron yn adeiladu brand sydd wedi'i gynllunio ar gyfer dyfodol y gamp ei hun ac fel rhan o’r ymdrech i sicrhau byd lle bydd eira yn dal ar gael i sgïo.
Cysylltwch â ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol