Dr Rhiannon Rees
PhD Rheoli Busnes
Dosbarth 2024
Mae taith Dr Rhiannon Rees o ymchwilydd PhD i fod yn entrepreneur cynaliadwyedd wedi cael ei llywio gan gyfuniad o chwilfrydedd academaidd, profiad masnachol ac awydd i ddatrys problemau ymarferol. Ar ôl trosglwyddo i Brifysgol Abertawe gyda'i goruchwylwyr (yr Athro Carl Cater a Dr Tiffany Lowe), defnyddiodd ei hymchwil ddoethurol i archwilio twristiaeth, marchnata a phrosesau gwneud penderfyniadau busnes yng Nghymru. Byddai'r themâu hynny yn dylanwadu'n ddiweddarach ar ei phenderfyniad i sefydlu PlantSea, y cwmni pecynnu ar sail gwymon a gyd-sefydlodd yn ystod y cyfnod clo, ar ôl iddi weld â'i llygaid ei hun i ba raddau mae rhannau o'r diwydiant twristiaeth yn dibynnu o hyd ar gydau plastig untro y mae'n anodd eu hailgylchu. Gwnaeth ei hamser yn Abertawe roi iddi'r hyder, y sgiliau ysgrifennu a'r profiad ymchwil i droi syniad uchelgeisiol yn fusnes y gellir ei ariannu a'i ehangu, meddai. Ers hynny, mae hi wedi gorfod mynd i'r afael â realiti cyfalaf menter, tyfu busnes newydd sy'n seiliedig ar wyddoniaeth ac arwain fel menyw mewn amgylchedd sy'n cael ei ddominyddu gan ddynion o hyd.
Pam dewisoch chi Abertawe i wneud eich PhD? Wnaethoch chi fwynhau eich profiad?
Fe wnes i drosglwyddo i Abertawe hanner ffordd drwy fy PhD mewn gwirionedd; newidiais i o Brifysgol Aberystwyth i Abertawe. Cafodd fy ngoruchwylwyr eu recriwtio i'r ysgol twristiaeth newydd a oedd ar fin agor, felly des i gyda nhw.
Mae Prifysgol Abertawe yn brifysgol hyfryd. Wnes i ddim symud i fyw yn Abertawe achos yn Aberystwyth roedd fy nghartref, ond roeddwn i'n dod i lawr ar gyfer digwyddiadau'r gymuned PhD neu ddarlithoedd gwadd.
Ddaethoch chi o hyd i fentoriaid neu ddarlithwyr a'ch ysbrydolodd neu a'ch helpodd i fynd â'ch gyrfa yn y cyfeiriad a gymerodd yn y pen draw?
Roedd fy ngoruchwylwyr, Carl Cater a Tiffany Lowe, yn wych. Gwnaethon nhw fy annog yn gryf i fynd i gynadleddau a siarad ynddyn nhw, i ysgrifennu papurau ac i gyflwyno cais am symposia PhD. Roedd hynny'n wych i fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus a chwrdd ag academyddion a myfyrwyr PhD eraill.
Ces i gyfle i deithio'n eithaf eang. Es i i gynadleddau twristiaeth yn Cyprus, Awstralia a Copenhagen. Roedd hynny'n wirioneddol dda - cael cyfle i gwrdd â phobl eraill a chydweithredu yn y symposia hynny.
Felly, yn bendant, byddwn i'n dweud mai fy ngoruchwylwyr gafodd yr effaith fwyaf arnaf i. Mae'r profiad hwnnw o ysgrifennu a chyflwyno'n ffordd wych o baratoi i ddechrau busnes.
Pan fydd y rhan fwyaf o bobl yn gadael y brifysgol, mae'n nhw'n chwilio am swydd, ond aethoch chi ati'n syth i sefydlu busnes. Sut cymeroch chi’r cam hwnnw o fod yn fyfyriwr?
Roeddwn i hefyd ar Ysgoloriaeth Sgiliau Cyfnewid Gwybodaeth (KESS). Nod yr ysgoloriaethau hynny yw cael effaith economaidd ar Gymru, felly roedd tua 200 ohonon ni ar yr ysgoloriaeth honno yng Nghymru ar y pryd. Roeddwn i'n gweithio gyda phartner prosiect, cwmni twristiaeth yn Aberystwyth o'r enw Twristiaeth Cambria. Rydw i bob amser wedi bod yn entrepreneuraidd. Rydw i wedi rhedeg busnesau o’r blaen, cyn fy PhD, felly roeddwn i'n ymgeisydd da am yr ysgoloriaeth honno gan fod fy PhD yn ymchwilio i faes pwnc eithaf ymarferol, pragmatig. Roeddwn i'n ymchwilio i weithgareddau gwneud penderfyniadau ac atyniadau yng Nghymru, felly roedd y partner prosiect yn wych achos roedden nhw'n gwerthu teithiau a phrofiadau. Roedd fy PhD yn archwilio ochr academaidd y broses benderfynu a'r holl ddamcaniaethau marchnata ac ati, ond roedd hefyd yn edrych ar yr agweddau ymarferol iawn ar sut gallen ni werthu rhagor o brofiadau twristiaeth.
Cafodd fy PhD ddylanwad ar fy nghamau nesaf, ond roeddwn i wedi bod yn ymwneud â byd busnes o'r blaen, ac roedd y PhD fel egwyl yn y canol. Roeddwn i wrth fy modd yn gwneud fy PhD, ond roeddwn i'n gwybod na fyddwn i'n gweithio yn y byd academaidd. Roeddwn i'n chwilio am brosiect newydd, doeddwn i ddim yn gwybod beth fyddai fe, ac yna daeth y peth gwymon a PlantSea at ei gilydd yn 2020 a 2021, yn ystod y cyfnod clo.
Y peth mwyaf sydd wedi dod o'r rhaglen PhD yn fy marn i yw hyder. Mae yna fath penodol o hyder sy'n dod o'r cyflawniadau academaidd hynny, a hefyd y gallu i ysgrifennu a chyfleu'r syniadau hynny'n dda mewn fformat ysgrifenedig. Felly, roedd ysgrifennu cynlluniau busnes a cheisiadau am grant yn broses lai brawychus ar ôl gwneud PhD, wedi ysgrifennu papurau a chyflwyno mewn cynadleddau. Roedd yn llai brawychus, rywsut.
Dywedoch chi fod y PhD yn saib o weithio. Beth ysgogodd y penderfyniad i wneud PhD? Sut roeddech chi'n teimlo y byddai o fudd i chi?
Yn syml, roeddwn i'n dwlu ar yr ymchwil. Fe wnes i fy ngradd Meistr yn Aberystwyth ac roeddwn i wir wrth fy modd. Roeddwn i'n mwynhau'r ymchwil yn fawr, yn dwlu ar fy nhraethawd ymchwil ac ar ddysgu, ac roeddwn i'n teimlo wedi fy ngrymuso gan y profiad dysgu hwnnw. Roeddwn i'n gweithio'n galed a ches i farciau da yn fy aseiniadau, ond roedd gen i ymdeimlad fel bod rhan wahanol o fy ymennydd yn cael ei throi ymlaen. Yn hytrach na'r gwaith pob dydd o redeg busnes, roeddwn i'n edrych ar bethau fel strategaeth farchnata, yn dysgu am ddamcaniaethau marchnata gwahanol, damcaniaethau busnes gwahanol. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r agwedd academaidd honno, ac roeddwn i'n gallu ei chysylltu â'm gwaith.
Roedd darllen astudiaethau academaidd yn hynod ddiddorol i mi, yn enwedig os oedd e'n rhywbeth roeddwn i wedi sylwi arno yn y byd go iawn, neu yn y gwaith, neu yn fy musnesau, a dwi'n meddwl mai dyna'r elfen roeddwn i'n ei mwynhau fwyaf yn fy PhD. Roedd hynny'n gyffrous iawn i mi. Oherwydd pan fyddwch chi'n rhedeg busnes, rydych chi'n gofyn cwestiynau drwy'r amser fel 'pam nad yw'r cwsmer yn prynu hwn heddiw?' neu 'pam nad yw'r prosiect newydd hwn yn gwneud yn dda?' neu 'pam mae fy staff yn ymddwyn fel hyn? sut galla i eu hysgogi nhw'? Ac yna mae gennych chi'r holl ymchwil academaidd anhygoel hon, sydd mor aml yn uniongyrchol berthnasol i lawer o'r problemau rydych chi'n eu hwynebu o ddydd i ddydd yn eich busnes ac roedd hynny'n wirioneddol gyffrous i mi.
Roeddech chi'n astudio twristiaeth a marchnata, sut daethoch chi ar draws yr ymchwil a arweiniodd at PlantSea?
Ar hap mewn gwirionedd. Roedd e'n gyfuniad o waith dau ffrind i mi a'm profiad i fel twrist a diddordeb academaidd mewn twristiaeth. Mae gen i ddau ffrind sy'n wyddonwyr deunyddiau, ac roedden nhw'n chwarae gyda gwymon, ’chi'n gwybod: gwyddoniaeth bwced; math o wyddoniaeth cegin. Roedden ni wrthi'n gwneud ffilm denau, roedd hi'n llawn smotiau, roedd hi'n dywyll, doedd hi ddim yn edrych yn dda iawn, ond sylwon ni ei bod hi'n toddi mewn dŵr, a dechreuon ni feddwl efallai gallen ni wneud capsiwlau o’r ffilm hon i ddal glanedydd neu siampŵ. Roedden ni'n chwilio am grantiau, a phan fyddwch chi'n gwneud cais am grant arloesi, mae angen i chi wneud rhywbeth gwirioneddol arloesol, rhywbeth nad oes neb wedi'i wneud o'r blaen, os ydych chi am ennill y grant. Felly, roedden ni'n meddwl, 'beth sy'n fwy arloesol na chapsiwlau hylif golchi dillad neu dabledi peiriant golchi llestri?' achos dyna oedd ffordd amlwg o ddefnyddio ffilm a oedd yn toddi. Roeddwn i wedi bod yn teithio cryn dipyn, ac roeddwn i wedi ymweld â Gwlad Thai am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020, ac roedd yr holl westyau gwnes i aros ynddyn nhw'n cynnig cydau bach o siampŵ a chyflyrydd, yn hytrach na photel gallech chi ei hail-lenwi neu hyd yn oed potel siampŵ arferol. Roedd popeth mewn cydau bach, ac roedden nhw ym mhob man, yn y siopau, cydau ar gyfer popeth. Roedd hi'n hollol normal yng Ngwlad Thai i brynu popeth mewn cwdyn plastig.
Roeddwn i'n meddwl 'O waw, byddai mor cŵl tasen ni'n gallu rhoi'r siampŵ yn y ffilm gwymon a'i werthu fel capsiwl. Am ryw reswm mae prynu pethau mewn dosys sengl yn boblogaidd mewn rhai rhannau o Asia. Am ba reswm bynnag, mae'n fwy cyfleus i bobl, ond mae'n teimlo fel gwastraff enfawr o blastig. Dyw llawer o bobl ddim yn meddwl o ddifrif am hyn, ond fel arfer, mae'r cydau hynny’n cynnwys tri leinin o fetel yn ogystal â phlastig, a does dim modd eu hailgylchu, neu mae'n hynod anodd eu hailgylchu. Y peth gorau y gallwch ei wneud fel arfer yw eu toddi a'u troi'n frics.
Y cynllun busnes cyntaf gwnaethon ni ei lunio ar gyfer PlantSea a'r grant cyntaf cyflwynon ni gais amdano oedd i wneud capsiwl siampŵ o'n ffilm ni a fyddai'n cael ei werthu i westyau ac i dwristiaid. Mae hynny wir yn deillio’n uniongyrchol o'm profiad fel twrist a'r diddordeb mewn twristiaeth a oedd gen i yn fy myd academaidd.
Ydych chi'n meddwl ei bod hi'n anodd argyhoeddi lleoedd sy'n dibynnu ar y plastigion untro hyn i newid i ddewis mwy gwyrdd?
Roedd hi'n fwy anodd bum mlynedd yn ôl dwi'n meddwl. Ddim cymaint nawr. Nawr, mae na dueddiad ac awydd mawr mewn busnesau i newid a mabwysiadu arferion gwyrddach. Dwi'n meddwl bod pethau wir wedi newid yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Ac mae cymaint yn fwy o ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, a bydd cwsmeriaid terfynol yn cwyno i fusnes os nad ydyn nhw'n meddwl bod y busnes hwnnw'n ddigon gwyrdd, neu os yw'n defnyddio gormod o blastig, a byddan nhw'n cwyno'n swnllyd. Mae'n eithaf diddorol sut mae busnesau'n dweud, 'mae angen i ni newid' ac maen nhw'n gofyn i'w cyflenwyr 'beth gallwch chi ei wneud am hyn? Dwi ddim yn hapus gyda'r pecynnu hwn mwyach, dwi ddim yn hapus gyda'r math hwn o becynnu. Allwch chi ei newid plîs?'
Fyddech chi'n dweud bod mwy o heriau yn gysylltiedig â rhedeg busnes sy'n gweithredu ym maes cynaliadwyedd na busnes traddodiadol?
Rydyn ni’n creu fformat pecynnu hollol newydd, felly ydw! Mae'n her enfawr achos rydyn ni wedi dyfeisio polymer newydd ac yn ceisio perswadio cynhyrchwyr i newid o'r ffilm sefydledig ar sail polyfinyl alcohol (PVA) a defnyddio ein ffilm ni sy'n seiliedig ar wymon. Mae'n her enfawr, ond rydyn ni'n gweithio gyda chadwyn gyflenwi eithaf cymhleth, gyda darpar gwsmeriaid mawr iawn, felly mae newid yn digwydd yn araf. Maen nhw wedi arfer â gweithio gyda'r un deunyddiau am 10 neu 20 mlynedd, maen nhw'n eu deall ac yn gwybod sut byddan nhw'n perfformio yn y farchnad. Serch hynny, rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i feithrin nifer o berthnasoedd cryf gyda rhai cynhyrchwyr ffilm mawr iawn sy'n gweithredu gyda'r holl frandiau mawr, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda nhw am y flwyddyn ddiwethaf. Mae hi wedi cymryd blwyddyn o arbrofion a threialon ar raddfa fach i adeiladu ar hyn a symud i dreialon ar raddfa fwy.
Mae'n cymryd blynyddoedd, yn anffodus, i gynnal y mathau hyn o dreialon technegol manwl. Efallai byddai'r polymer yn ymddwyn mewn un ffordd mewn bwced, ond pan fyddwch chi'n ehangu'r broses i raddfa ddiwydiannol, rhaid i chi sicrhau bod priodweddau'r polymer yn aros yn gyson.
Oes gennych ddiddordeb mewn datblygu marchnadoedd eraill ar gyfer eich cynnyrch? Allwch chi feddwl am ffyrdd eraill o ddefnyddio'r dechnoleg hon?
Yn bendant. Ein marchnad gyntaf fydd capsiwlau hylif golchi dillad a thabledi peiriant golchi llestri oherwydd dyna le rydyn ni'n gweld y galw mwyaf. Mae dwsinau o frandiau â diddordeb mewn newid i opsiwn gwyrddach, yn ogystal ag ychydig o weithgynhyrchwyr ffilm.
Y farchnad nesaf aton ni yw bwyd, oherwydd y newid o blastig i bapur. Mae newid eithaf mawr ar waith ar hyn o bryd lle mae papur yn disodli pecynnu plastig, ond maen nhw'n rhoi caen o blastig ar y papur i roi oes silff iddo neu i wneud iddo bara'n hirach. Mae prosiect Innovate UK ar waith gennym ar hyn o bryd lle rydyn ni'n archwilio sut gallwn ni laminadu ein ffilm ar bapur. Rydyn ni hefyd wedi sylwi ar newid yn y dirwedd reoleiddio bwyd, yn enwedig yn Ewrop. Mae ymgyrch eithaf mawr i leihau pecynnu bwyd erbyn 2030, felly dyna'r ail farchnad rydyn ni’n canolbwyntio arni. Ac yna'n drydydd mae'r farchnad nwyddau cosmetig ddwedwn i. Mae llawer o ddiddordeb wedi bod yn y capsiwl siampŵ, y capsiwl hylif golchi'r corff, hyd yn oed lleithyddion a lliw hael ffug a phob math o bethau i gael eu cyflenwi mewn fformat capsiwl. Yn y diwydiant nwyddau cosmetig, mae samplau am ddim yn un o'u hymdrechion marchnata mwyaf, maen nhw wastad yn dod yn y cydau bach hynny nad oes modd eu hailgylchu. Mae awydd eithaf cryf yn y diwydiant nwyddau cosmetig i stopio dosbarthu'r holl samplau am ddim hyn nad oes modd eu hailgylchu, ac maen nhw'n chwilio am ffyrdd newydd o wneud hynny.
Ydych chi'n meddwl bod cyfrifoldeb ychwanegol ynghlwm wrth redeg busnes ym maes cynaliadwyedd?
Rwy'n teimlo cyfrifoldeb mawr at ein holl arianwyr. Rydyn ni wedi cael cymaint o arian cyhoeddus ar ffurf grantiau, mae yna bwysau ychwanegol i lwyddo am ein bod ni wedi cael cymaint o gyllid grant. Mae pob un ohonon ni yn y busnes wedi ei ysgogi gan y pwyslais ar gynaliadwyedd a'r potensial i leihau plastigion yn yr amgylchedd. Mae hynny wir yn ein hysgogi ni, felly dwi ddim yn meddwl ein bod yn teimlo unrhyw gyfrifoldeb ychwanegol o'r cyfeiriad hwnnw. Dwi'n meddwl bod hynny'n fwy o ysgogiad achos rydyn ni eisiau cael effaith. Rhywbeth dwi wir wedi sylwi arno yw'r newid yn y cwmnïau corfforaethol mawr rydyn ni'n gweithio gyda nhw.
Mae unigolion yno sy'n wirioneddol awyddus i ysgogi newid yn eu cwmnïau. Rydych chi'n clywed pobl yn dweud pethau fel 'Dwi eisiau gwneud y blaned yn well i'm plant' neu 'Dwi wir eisiau i'm cwmni fabwysiadu'r deunydd newydd hwn achos bydd yn cael effaith ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol', ac ydy, mae hynny'n fuddiol i'r cwmni ond mae cymhelliant personol cryf gan bobl, dwi'n meddwl.
Beth oedd y rhwystr mwyaf wrth ehangu'r prosiect hwn?
Rydyn ni wedi wynebu heriau gwahanol ar adegau gwahanol. Yn y dyddiau cynnar, roedd hi'n anodd dod o hyd i'r partneriaid iawn, dod o hyd i bobl a fyddai'n dweud 'ie' a gwrando ac arbrofi gyda ni – neu hyd yn oed siarad â ni! Roedd gennym weledigaeth, ond roedd hi'n anodd dod o hyd i weithgynhyrchwyr i siarad â nhw. Doedd hyd yn oed partneriaid academaidd ddim wastad yn fodlon siarad â ni, a doedden nhw ddim yn fodlon i ni ddefnyddio eu cyfarpar. Rwy'n cofio un academydd yn dweud 'Chei di ddim roi hynny yn fy mheiriant, efallai bydd yn ffrwydro!' achos doedd gennym ddim digon o ddata am y polymer. Yn y dyddiau cynnar hynny, roedden ni'n gwneud llawer o wyddoniaeth cegin ac roedd y grantiau cyntaf hynny gan Innovate UK yn caniatáu i ni gasglu data credadwy, sefydlu labordai a chyfleusterau.
Roedd rhaid i ni ddatblygu ffocws, oherwydd yn ôl yn 2023, 2024 a hyd yn oed yn 2025, roedd gennym lawer o brosiectau ar y gweill yn PlantSea yn defnyddio'r ffilm at ddibenion gwahanol. Rydyn ni wedi gorfod tynnu'n ôl i raddau helaeth a chanolbwyntio ar y ffilm doddadwy ar gyfer capsiwlau hylif golchi dillad oherwydd y perygl mwyaf i ni yw y bydd yr arian yn rhedeg allan cyn i ni fasnacheiddio dim.
Roedd codi arian yn y flwyddyn ddiwethaf yn eithriadol o anodd. Roedden ni'n gwybod bod angen i ni godi o leiaf £3 miliwn i ehangu gyda phartneriaid allanol ac adeiladu safle arddangos bach. Rydyn ni bellach yn gweithgynhyrchu polymer sy'n gallu cael ei werthu wedyn i weithgynhyrchwyr ffilm mawr. Dyna ein model busnes. Rydyn ni'n cynhyrchu'r polymer, yn ei werthu i'r gweithgynhyrchwyr ffilm sydd wedyn yn cynhyrchu'r ffilm i'r brandiau. Roedd angen o leiaf £3 miliwn arnon ni, ac rydyn ni'n gweithredu mewn marchnad lle allen ni ddim wir wneud swm bach o ffilm yn unig. Mae angen profi bod modd ehangu'r broses ar raddfa, achos bod y cwsmeriaid mor fawr. Mae angen tunnell o ddeunyddiau ar weithgynhyrchwyr ffilm er mwyn gallu gweithredu eu peiriant. Mae angen 200kg hyd yn oed ar beiriant peilot. Yn y labordy, gallen ni wneud 1kg o echdynnyn sych o'n proses echdynnu mewn diwrnod neu wythnos. Er mwyn cynyddu hyn, roedd angen y cyllid hwnnw arnon ni. Yn 2025, mae sicrhau buddsoddiad wedi bod yn her fawr, boed o gyfalafwyr menter, cronfeydd i fusnesau newydd neu angylion buddsoddi, oherwydd bod llai o gyfalaf wedi bod ar gael ar draws y farchnad. Mae'r chwyldro AI, sy'n anhygoel mewn llawer o ffyrdd, yn amsugno'r holl arian wrth i fuddsoddwyr fuddsoddi eu harian mewn AI. Yn 2025, cafodd 70% o'r holl gyfalaf menter ei fuddsoddi mewn AI. Llwyddon ni i sicrhau £1.2 miliwn yn y diwedd gan fuddsoddwyr - daeth rhan fawr o hynny o gyllid torfol - ac wedyn rydyn ni wedi cael ychydig yn llai na £1 miliwn gan Innovate UK. Roedden ni'n ffodus iawn hefyd i gael grant Cyflymu gwerth £3.5m gan y Cyngor Arloesi Ewropeaidd.
Beth bydd y cyllid hwnnw yn eich galluogi i'w wneud?
Byddai hyn yn ein galluogi i weithgynhyrchu - felly, gwneud y bioburo - ar raddfa, gan ei ddatblygu o gynhyrchu ar raddfa fach yn y labordy, gyda'n partneriaid prifysgol. Bydden ni'n gallu defnyddio cynwysyddion adweithio llawer mwy a thanciau llawer mwy. Mae angen i ni allu arsylwi sut gallai ein prosesau newid ar raddfa fwy, a bydd y cyllid yn rhoi cyfle i ni wneud hynny. Mae'r treialon hyn yn costio hyd at £100,000 fesul treial, ac ar ben hynny, bydd ardystio'n costio £100,000 fesul tystysgrif pan fyddwn i'n cyflwyno cais am ardystiad bioddiraddadwyedd yn y pen draw.
O ble mae'r gwymon yn dod? Ydych chi'n defnyddio math penodol o wymon?
Rydyn ni'n cael ein gwymon gan ffermwyr a thyfwyr yn yr Alban ac yn Iwerddon a dyna'r ffynhonnell rydyn ni'n gobeithio ei defnyddio yn y tymor hir. Mae diwydiant bach, ond un sy'n tyfu, yn yr Alban ac yn Iwerddon. Rydyn ni'n aelod o'r Scottish Seaweed Industrial Association ac roedden ni eisiau cefnogi ecosystem y Deyrnas Unedig. Mae priodweddau gwahanol gan wahanol fathau o wymon. Mae gennych chi rai coch, gwyrdd a brown, ac mae cannoedd, os nad miloedd o rywogaethau, yn llythrennol, yn y tri chategori hynny. Rydyn ni'n cyfuno nifer o rywogaethau brown a gwyrdd ac rydyn ni wedi gwneud hynny'n fwriadol er mwyn bod yn fwy cynaliadwy a pheidio â dibynnu ar un rywogaeth yn unig.
fwriadol er mwyn bod yn fwy cynaliadwy a pheidio â dibynnu ar un rywogaeth yn unig.
Fel menyw ac arweinydd, ydych chi'n meddwl ei bod hi’n bwysig cael gwell cynrychiolaeth gan fenywod yn yr ystafell bwrdd?
Yn bendant, a dwi'n sylwi ar hynny’n fwyfwy wrth i PlantSea dyfu, yn enwedig gan ein bod wedi symud i fyd cyfalaf menter, gwyddoniaeth a gweithgynhyrchu.
Rwyf wedi bod yn ymwneud â busnes am y rhan fwyaf o'm bywyd gweithio. Yn fy ugeiniau a'm tri degau, roeddwn i'n rhedeg busnesau bach yn Aberystwyth, ac wedyn es i'n ôl i wneud fy PhD. Yn ystod fy amser yn y brifysgol, yn mynd i gynadleddau ac yn cwrdd ag ymchwilwyr eraill, doeddwn i ddim yn ymwybodol o ddiffyg cynrychiolaeth menywod. Ond mewn amgylcheddau cyfalaf menter a gwyddoniaeth, yn aml iawn dwi'n un o'r ychydig iawn o fenywod yn yr ystafell.
Dros y pum mlynedd diwethaf, mae'n rhaid fy mod i wedi cyflwyno i dros 100 o fuddsoddwyr, ac 80% o'r amser rwy'n cyflwyno i gynulleidfaoedd o ddynion yn bennaf. Dwi'n cael fy ngwahodd i ddigwyddiadau anhygoel mewn lleoedd fel Canary Wharf ac yn fyd-eang fel Monaco ac yn aml, fi yw'r unig fenyw sy'n cyflwyno. A bod yn deg, mae llawer o fenywod wedi sefydlu busnesau bioddeunyddiau, ond nid ym mhob diwydiant nac ym mhob maes pecynnu. Ond mewn meysydd STEM a rolau uwch-arweinyddiaeth yn fwy eang, does dim digon o fenywod o hyd. Rydych chi'n gweld hynny mewn ffyrdd ymarferol hefyd. Pan fyddwn ni'n hysbysebu rolau uwch, fel cadeirydd, dynion yw’r rhan fwyaf o'r ymgeiswyr o hyd.
Roeddwn i'n siarad yn ddiweddar â menyw o'r Tasglu Sefydlwyr Benywaidd - sefydliad a gefnogir gan y llywodraeth sy'n ceisio sicrhau bod sefydlwyr benywaidd yn cael mwy o gyllid - a dywedodd hi fod canlyniadau eu hymchwil yn dangos bod y cwestiynau, pan fo menyw yn cyflwyno cais am arian, yn canolbwyntio lawer mwy ar y risgiau. Fodd bynnag, pan fo dynion yn cyflwyno, maen nhw’n cael llawer mwy o gwestiynau am dwf a chyfleoedd.
Fel arweinydd benywaidd, mae'n rhaid i chi fod yn wydn a dwi'n meddwl bod rhan o'r hyfforddiant academaidd - mynd i gynadleddau, cyflwyno a chael beirniadaeth adeiladol - wedi fy helpu'n fawr gyda hynny.
Ydych chi'n meddwl bod angen rhagor o newid o hyd i wneud busnes ac arweinyddiaeth yn fwy hygyrch?
Ydw. Dwi ddim yn gwybod beth yw'r ateb, ond rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig creu atebion lle gallwn ni. Yn PlantSea er enghraifft, rydyn ni'n gwneud ymdrech i annog mwy o dechnegwyr labordy ac ymchwilwyr sy'n fenywod achos dynion yw'r rhan fwyaf o staff yn ein labordy o hyd.
Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig cael gweithlu llawer mwy amrywiol, ac i gyflawni hynny, mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â rhai o'r materion strwythurol sy'n gysylltiedig â gofal plant a'r pwysau mae llawer o fenywod yn eu teimlo ar adegau gwahanol yn eu gyrfaoedd.
Roeddwn i'n siarad am hyn yn ddiweddar mewn seminar ffeministaidd yn UCL pan ofynnwyd i mi fyfyrio ar beth mae ffeministiaeth yn ei olygu yn fy niwydiant i. Roeddwn i eisiau bod yn onest am realiti bod yn uwch-arweinydd. Os ydych chi'n Brif Swyddog Gweithredol neu mewn uwch-rôl arall gall fod angen i chi deithio, gweithio oriau hir a bydd gennych chi gyfrifoldeb sylweddol a llawer o bwysau. Gall fod yn anodd cydbwyso hynny â bywyd teulu oni bai bod gennych chi system gefnogaeth wych ar waith. Mae'n fwy na chynllunio da - bydd hi'n straen blaenoriaethu cyfrifoldebau.
Mae'n bosib magu teulu a bod mewn uwch-rôl ac mae llawer o fenywod â phlant yn llwyddo i wneud uwch-rolau. Ond gall cost ac argaeledd gofal plant yn y blynyddoedd cynnar olygu ei bod hi'n fwy anodd i rieni wneud cynnydd yn eu gyrfaoedd, ar yr union adeg pan allen nhw fod yn symud i rolau uwch mewn amgylchiadau eraill. Pe bai gofal i blant dan bump oed ar gael yn haws ac yn fwy fforddiadwy, dwi'n meddwl byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth go iawn - i'r fam a'r tad, 'chi'n gwybod?
Beth sy'n eich cyffroi am ddyfodol eich busnes a beth sydd nesaf i chi?
Rydyn ni mewn cyfnod cyffrous nawr achos rydyn ni'n tyfu ac yn ehangu. Mae'r holl gerrig milltir hyn gyda ni! Rydyn ni'n cynhyrchu 200kg o bolymer erbyn mis Mehefin a byddwn ni'n cynhyrchu tunnell wedi hynny. Wedyn byddwn ni'n rhoi ffilm ar rolyn. Dyna oedd ein nod ers amser hir, cael ffilm ar rolyn - rholyn diwydiannol maint llawn. Mae hyn yn golygu y gallwn ni wneud capsiwlau ar raddfa fawr, ac rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda brandiau a allai lansio eu capsiwlau'r gwanwyn nesaf.
Mae hynny'n gyffrous iawn, meddwl y gallai'r ffilm honno fod ar werth i gwsmeriaid terfynol mewn blwyddyn. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at weld ein cynlluniau i ehangu'r tîm yn cael eu gwireddu a bod yn fusnes go iawn yn hytrach nag egin fusnes.
Cysylltwch â ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol