Yr Athro Ken Board: Inspiring Wealth Creators
Un o'r prif faterion sy'n wynebu'r wlad heddiw yw'r angen am dwf economaidd cryf a arweinir gan allforio. Mae'r galwadau ar y coffrau cyhoeddus yn ddi-baid ac yn cynyddu'n barhaus. Mae’r cyfuniad o dair ffaith benodol yn gwneud hyn yn fwy brys.
Y rhain yw: poblogaeth gynyddol, pobl yn byw'n hirach gyda mwy o alw am ofal iechyd a'r gofyniad i wario mwy ar amddiffyn.
Dros gyfnod o 24 yn Unol Daleithiau America, roedd nifer net y swyddi a grëwyd gan gwmnïau newydd eu sefydlu yn fwy na'r rhai a grëwyd gan yr holl gwmnïau sefydledig ym mhob un o'r blynyddoedd hynny. Ar ben hynny, cafodd dirywiadau yn yr economi effaith gymharol fach ar y nifer hwn, yn wahanol i’r rhai a gafodd eu creu neu eu colli gan y cwmnïau sefydledig.
Yn fwy cyffredinol, mewn unrhyw gyd-destun lle mae heneiddio a dirywiad yn rhan o’r darlun, mae ailgyflenwi a thwf newydd yn hanfodol ar gyfer goroesiad hirdymor.
Yn 2023 ac ar ôl i mi ymddeol fel pennaeth peirianneg drydanol yn Abertawe, clywais i fod un o fy myfyrwyr PhD, Dr Darwish, wedi sefydlu ei gwmni ei hun yn Silicon Valley. Ysgrifennais ei stori ac wedi hynny, des i o hyd i 38 o straeon am fenter, pob un yn gysylltiedig ag Abertawe a'r Brifysgol. Arweiniodd hyn at lyfr a gyhoeddwyd gan Amazon o’r enw ‘Inspiring Wealth Creators’.
Roedd 11 o'r entrepreneuriaid hyn yn byw yn y ddeunawfed ganrif a'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac roeddent yn ymwneud â chynhyrchu metelau. O ganlyniad i hyn, roedd gan Abertawe gwmnïau allforio o'r radd flaenaf, mewn copr, tunplat, nicel a metelau eraill. Mae’r lleill i gyd yn entrepreneuriaid ym maes peirianneg, ac mae eu mentrau yn gysylltiedig, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, â lled-ddargludyddion a'r hyn y maent wedi arwain ato. Mae tua 30 o gwmnïau wedi cael eu sefydlu ganddyn nhw
Noddodd y graddedigion hyn o Abertawe dros gant o’r llyfrau sy'n cael eu rhoi i ysgolion a cholegau yng Nghymru i ysbrydoli pobl ifanc i ddilyn llwybrau tebyg.
Mae pob un o'r straeon a adroddir yn ysbrydoledig ac yn dangos sut roedd gan y sylfaenwyr y rhinweddau cynhenid i oresgyn rhwystrau ac i ddyfalbarhau yn eu cred yn yr hyn roeddent wedi’i ddyfeisio. Ni ellir addysgu'r rhinweddau hyn ond gellir eu gwella'n fawr pan fo ganddyn nhw gefndir peirianneg sy'n helpu i alluogi atebion i faterion technegol y mae angen mynd i'r afael â nhw a'u datrys os ydyn nhw am fod yn llwyddiannus.
Darganfuwyd neu crëwyd dau ganlyniad rhyfeddol yn dilyn cyhoeddi'r llyfr nad oeddent yn hysbys ar ddechrau'r broses.
Yr un cyntaf yw datblygiad yr hyn sydd heddiw yn brif weithgaredd lled-ddargludyddion pŵer a chyfansawdd y DU. Mae'r clwstwr hwn yn cynnwys nifer o gwmnïau arbenigol sy'n gweithio yn y meysydd hyn wedi'u hategu gan gyfranogiad dwy Brifysgol, Abertawe a Chaerdydd. Mae rhagor o fanylion ar gael yn www.csconnected.com
Ar nodyn personol, rhoddodd foddhad personol mawr i mi fod Dr Darwish, a ysgogodd ysgrifennu ei stori ynghyd â'r lleill, hefyd wedi chwarae rhan allweddol wrth sicrhau bod y cwmni a brynodd ei gwmni newydd ei hun, Vishay, yn prynu ffowndri haenellau Casnewydd, a elwir bellach yn Vishay Newport. Maen nhw'n chwarae rhan allweddol ym mhrosiect y Clwstwr gan gwblhau'r cylch.
Yr ail ganlyniad oedd ymateb cadarnhaol y rhai yr ysgrifennwyd amdanynt i'r cais iddynt noddi nifer o'r llyfrau sy'n cynnwys eu straeon i’w dosbarthu i ysgolion er mwyn helpu i ysbrydoli pobl ifanc i wneud yr un peth. Noddwyd dros 100 o lyfrau ac mae tua 50 wedi cael eu rhoi i ysgolion yn ne a gogledd Cymru gyda hyn mewn golwg.
Cyflwynwyd 16 copi i enillwyr Cynllun Addysg Beirianneg Cymru (EESW) yn y digwyddiad diweddar a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Abertawe a ddenodd 400 o fyfyrwyr Safon Uwch ynghyd ag athrawon a chynrychiolwyr cwmnïau a gefnogodd y prosiectau.
Mae rhagor ar gael a byddwn yn hapus i'w rhoi i unrhyw un sydd â diddordeb. Gweler www.inspiringwealthcreators.co.uk