Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cynhaliwyd aduniadau I gyn-fyfyrwyr mewn llawer o ddinasoedd ledled y byd, gan ddarparu cyfle I raddedigion prifysgol abertawe o bob disgyblaeth a blwyddyn astudio ailgysylltu â’r brifysgol a’I chymuned ehangach.

Mae Canghennau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe’n helpu cyn-fyfyrwyr i aros mewn cysylltiad, ehangu eu rhwydweithiau ac ymgysylltu â chyd-raddedigion yn eu gwlad. 

Canghennau Rhyngwladol

Hong Kong

Hong Kong

Hong Kong

Ym mis Chwefror, ymwelodd tîm y cyn-fyfyrwyr â Hong Kong i ailgysylltu â’n cymuned a chynnal aduniad cyn-fyfyrwyr. Daeth y noson â graddedigion o bob carfan ynghyd i rannu profiadau, meithrin cysylltiadau newydd ac ymdeimlad newydd o berthyn. Yn dilyn y digwyddiad, trefnodd cangen Hong Kong ail ddigwyddiad, dan arweiniad cyn-fyfyrwyr, i barhau â’r cysylltiad ag Abertawe yn Hong Kong. Roedd y 
digwyddiad hwn mor llwyddiannus, sicrhaodd un o raddedigion diweddar gyfle i gael cyfweld drwy 
gysylltiadau a wnaed ar y noson, gan dynnu sylw at effaith ddiriaethol yr achlysuron hyn.

Malaysia

Teithiodd y Tîm Cyn-fyfyrwyr hefyd i Falaysia i gynnal ein hail aduniad mawr ers i’r Brifysgol sefydlu ei phresenoldeb yn y rhanbarth hwnnw. Helpodd y digwyddiad i gryfhau’r partneriaethau academaidd yn y wlad, ar y cyd â’r rhwydwaith i gyn-fyfyrwyr.

‘Roedd yn bleser cwrdd â chynifer o gyn-fyfyrwyr yn ystod ein hymweliad â Malaysia. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed am atgofion annwyl a bod yn dyst i’r cysylltiadau dwfn mae pobl yn eu rhannu â’n Prifysgol.Edrychaf ymlaen at gryfhau ein cysylltiadau ymhellach yn y rhanbarth.’

- Dylan Williams, Uwch Swyddog Datblygu

Malaysia

Malaysia

Nigeria

Nigeria

Nigeria

Trefnwyd digwyddiadau Cangen Cyn fyfyrwyr yn Abuja ac yn Lagos i gryfhau cysylltiadau ymhlith graddedigion yn Nigeria. Cafodd cyn-fyfyrwyr y cyfle i ailgysylltu â’r Brifysgol, meithrin rhwydweithiau lleol a thrafod cyfleoedd i gefnogi eu cymunedau.

Kenya

Yn Kenya, daeth graddedigion o flynyddoedd astudio gwahanol ynghyd dros ginio i gyn fyfyrwyr er mwyn iddyn nhw ailgysylltu, rhannu profiadau ac ehangu eu rhwydweithiau proffesiynol. Darparodd y digwyddiad gyfleoedd mentora gwerthfawr i fyfyrwyr sydd wedi graddio’n ddiweddar, wrth helpu Prifysgol Abertawe i gynnal perthnasoedd cryf â chyn fyfyrwyr a pharhau i gefnogi graddedigion ar eu teithiau academaidd a phroffesiynol.

Kenya

Kenya