Mohamed Darwish 
PhD Peirianneg Electronig
Dosbarth 1981 

 

I'r rhai hynny nad oes ganddynt gefndir technegol, sut byddech chi'n esbonio beth yw lled-ddargludyddion pŵer a pham mae nhw mor bwysig? 

Mae lled-ddargludyddion pŵer yn bwysig iawn, dyma'r maes sy'n tyfu gyflymaf yn y diwydiant lled-ddargludyddion electroneg. Gallwch chi rannu'r diwydiant lled-ddargludyddion yn ddwy ran wahanol, mwy neu lai; un yw'r byd digidol, fel microbrosesyddion er enghraifft, gallwch chi ystyried y rheiny fel yr ymennydd; ond, mae angen y cyhyrau i gynnau a diffodd pethau. Dyma rôl lled-ddargludyddion pŵer; maen nhw'n disodli relaiau mecanyddol a motorau gyrru. Maen nhw'n mwyafu effeithlonrwydd ynni ym mhob math o ddyfais, gan gynnwys gwefrwyr ffonau clyfar a cherbydau trydanol. Mae'n faes pwysig iawn sy'n tyfu'n gyflym. 

Pan wnaethoch chi benderfynu dilyn astudiaethau pellach, pam ddewisoch chi Brifysgol Abertawe? 

Gwnaeth un o fy athrawon argymell Abertawe i fi pan oeddwn i'n ceisio dewis pa brifysgolion i gyflwyno cais ar eu cyfer. Astudiodd fy Athro yn Southampton, dywedodd ef wrtha i “pan oeddwn i yn Southampton, gwnaethon nhw drefnu taith i ddinas o'r enw Abertawe ac mae  prifysgol da iawn yno. Mae hi ar lan y môr ac mae hi'n hyfryd. Felly efallai byddwn i'n argymell dy fod ti'n cyflwyno cais i astudio yno.” A dyna beth ddigwyddodd. 

Sut brofiad cawsoch chi o astudio ym Mhrifysgol Abertawe? 

Mwynheais i'n fawr. Roedd yr amgylchedd yn dda, roedd y lleoliad yn wych a dyw hi ddim yn ddinas fawr nac yn dref fach. Mae hi rhywle yn y canol ac roedd yr holl gyfleusterau yno.Hefyd, yn ffodus, cwrddais i â'r Athro Ken Board ar y diwrnod cyntaf pan gyrhaeddais i ac ymwelais i â'r Adran Peirianneg Drydanol ac Electronig. Roedd ystafell goffi, ac roedd e'n yfed coffi gydag aelod arall o staff, Mr Alan Evans. Cwrddon ni a gwnaeth ef esbonio i fi beth oedd e'n ceisio ei wneud ac es i'n gyffrous iawn am ymuno yn yr ymdrech gydag ef. Er fy mod i'n gweithio'n bennaf yn UDA nawr, dwi'n dwlu ar ymweld ag Abertawe o hyd. Mae gennym atgofion cryf o fod yno. Ganwyd ein dau blentyn yn Abertawe.

Mohamed Darwish

Pa mor ddylanwadol oedd yr Athro Ken Board o ran yr hyn a wnaethoch chi yn y diwedd?  
Yn hynod ddylanwadol. Pan ddechreuon ni ar brosiectau neu ymchwil yn y dechrau, doedden ni ddim yn gweithio ar led-ddargludyddion pŵer. Ond roedd gweledigaeth dda gan Ken.  Gwnaeth ef ragweld pwysigrwydd lled-ddargludyddion pŵer a dwi'n meddwl mai Abertawe oedd y Brifysgol gyntaf yn y DU i wneud ymdrechion sylweddol yn y maes hwn. Roedd hynny'n gyffrous iawn oherwydd gwnaethon ni waith diddorol iawn gyda'n gilydd yn ystod fy nghyfnod cyntaf yn Abertawe. Syniad Ken oedd ymchwilio i'r maes hwn a gwnes i ei ddilyn. Roedd  rhaglen dda iawn gydag ef. Hyd yn oed ar ôl i fi raddio a dod i'r Unol Daleithiau ac ymgyfarwyddo â phrifysgolion blaenllaw yno, fel Stanford, dwi'n meddwl bod rhaglen Ken yn gystadleuol iawn o'i chymharu â'r hyn oedd Stanford yn ei gynnig ar y pryd. 

Gwnaethoch chi dreulio amser yn gweithio ar draws y diwydiant cyn i chi sefydlu eich cwmni eich hun. 
Oeddech chi bob amser wedi dyheu am ddechrau eich cwmni eich hun neu ddigwyddodd hynny wedyn? 

Yr hyn wnaeth fy nenu i Unol Daleithiau America oedd y cyfleoedd i weithio mewn lleoedd fel AT&T Bell Laboratories. Dyfeisiwyd y transistor a’r laser yn Bell Labs. Mae'n sefydliad pwysig iawn.  Felly, dyna oedd yr atynfa fawr i fi yn yr Unol Daleithiau. Roedd dechrau busnes yng nghefn fy meddwl ond, dros amser, daeth y syniad yn gliriach, yn enwedig ar ôl i fi symud i ardal Silicon Valley. Yn Silicon Valley, mae llawer o bobl yn sefydlu eu busnes eu hunain. Mae'n arferol ac mae'n cael ei annog. Mae'n haws gwneud hynny yma.  

Beth gwnaeth eich ysgogi chi i ddechrau eich busnes eich hun? Sut digwyddodd hynny? 

Wrth i chi ennill profiad a gweld y galw yn y farchnad, dwi'n credu eich bod chi'n dechrau gweld cyfleoedd neu rydych chi'n gweld nad yw'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo'n canolbwyntio ar y maes cywir neu fod cyfleoedd yn y farchnad yn rhywle arall. Panfyddwch chi'n dechrau pwyso a mesur y pethau hyn, mae'n dod yn syniad da sefydlu eich busnes eich hun. Wrth gwrs, mae risgiau, oherwydd dydy pob egin fusnes ddim yn llwyddo. Dwi'n credu bod tua un o bob deg o egin fusnesau'n llwyddo. Mae'n debygol iawn y byddwch chi'n methu ond os ydych chi'n credu yn yr hyn rydych chi'n ei wneud ac os oes gennych chi syniadau da, gyda help Duw gallwch chi ei wneud e'. Mae angen pobl dda o'ch cwmpas chi hefyd. Yn ddiddorol, mae fy nghyd-sefydlwr yn MaxPower Semiconductors wedi graddio o Brifysgol Abertawe hefyd, Dr Jung Zheng. Mae ef hefyd yn un o fyfyrwyr Ken, ond gwnaeth ef raddio bum neu chwe blynedd ar fy ôl i.  Yn nyddiau cynnar dechrau'r cwmni, ymunodd fy mab Amr, a gafodd ei eni yn Abertawe ac sydd wedi ennill graddau mewn Peirianneg a Busnes, â'r tîm ac roedd e'n hanfodol i lwyddiant MaxPower. 
 
Yn llyfr Ken, dywedodd ef mai arloesi'n gyson a wnaeth helpu eich cwmni i ddod yn llwyddiannus. Fyddech chi'n dweud bod hynny'n wir? 

Dyw'r sector ddim yn aros yn llonydd. Mae ef bob amser yn datblygu ac yn chwilio am gynnyrch newydd neu effeithlonrwydd gwell, felly, fel cwmni yn y sector hwnnw, mae'n rhaid i chi ddatblygu'n gyson. Gwnaethon ni ddyfeisio cynifer o dechnolegau gwahanol yn y maes pŵer, yn enwedig yn y maes MOSFET (Transistor Effaith-Maes Lled-ddargludyddion Ocsid Metel) a gwnaeth y sector hwn ddarparu transistorau a chymwysiadau hynod effeithlon. Mae gennyn ni hefyd ddyfeisiau newydd yn y maes lled-ddargludyddion bwlch band eang megis silicon carbid. Dwi ddim yn gwybod beth yw union nifer y patentau, ond dwi'n credu bod mwy na 150 o batentau yn yr Unol Daleithiau ac yn rhyngwladol.  Dwi'n credu bod Prifysgol Abertawe yn arweinydd yn y sector Bwlch Band Eang. Mae'r Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludol Integreiddiol (CISM) yn defnyddio mathau gwahanol o led-ddargludyddion ar wahân i silicon, megis silicon carbid neu galiwm nitrid, sydd â nodweddion mwy manteisiol megis gwrthsefyll foltedd neu dymheredd methiant llawer uwch. Mae datblygiad a thwf parhaus yn y maes hwn ac mae Prifysgol Abertawe ar flaen y gad yn yr ymchwil hon. 

Pam gwnaethoch chi benderfynu gwerthu'r cwmni i Vishay? 

Dyna'r ffordd arferol gydag egin fusnesau yn UDA; ar ôl i chi ddatblygu'r dechnoleg, rydych chi'n profi'r llwyddiant, yn datblygu'r model busnes ac yn dechrau creu incwm. Yna, rydych chi'n ateb y cwestiwn; beth nesaf? Felly, rydych chi naill ai am ehangu, neu efallai rydych chi'n mynd i fenthyg rhagor o arian a chael mwy o fuddsoddiad. Neu rydych chi'n rhoi cynnig ar fynd yn gyhoeddus; yn yr achos hwn, mae'n cymryd ymdrech fawr i fynd yn gyhoeddus a chael eich rhestru ar yr NASDAQ.  Y naill ffordd neu'r llall, mae hyn yn gwanhau perchnogaeth y cwmni, felly rydych chi'n berchen ar lai o'r cwmni. 
 

Mohamed Darwish

Y llwybr arall yw, os bydd cwmni mawr nad oes ganddo rywbeth sydd gan eich cwmni chi, yn hytrach na'r cwmni hwnnw yn datblygu'r elfen honno ei hun, gan wario llawer o arian a gwastraffu sawl blwyddyn o ymdrech, bydd y cwmni hwnnw yn caffael y cwmni arall. Roedd yr ail opsiwn hwnnw'n haws oherwydd, yn ffodus, sylweddolodd Vishay fod rhywbeth gennyn ni y gallen ni ei gynnig iddyn nhw. Felly, gwnaethon ni gytuno ar  y fargen a gwnaethon nhw ein caffael ni. 

Pe byddech chi'n rhoi cyngor i entrepreneuriaid. Beth fyddai hynny? 

Byddwn i'n dweud, os oes gennych chi syniad da yn ogystal â'r brwdfrydedd a'r gwydnwch, yna dylech chi fynd amdani oherwydd ei bod hi'n wobrwyol iawn. Ydy, mae'r risg yn uchel, ond mae'r wobr yn dda iawn ac yn gyffrous iawn. Dim yr ochr ariannol o'r wobr yn unig sy'n bwysig, ond mae'r ymdeimlad o gyflawniad a boddhad yn wych. Byddwn i'n annog unrhyw un sydd â syniadau da ac sy'n frwdfrydig amdanyn nhw i gredu ynddyn nhw a gweithio'n galed i wireddu'r syniadau hynny.  Mae'n cymryd llawer o ddewrderMae cymryd risgiau'n rhan o'r gêm yma, oherwydd, heb y risg, allwch chi ddim ei wneud e'. Mae hi bob amser yn haws gweithio i gwmni, a gwnes i hynny am lawer o flynyddoedd, a byw ar gyflog ac ati. Ond, os oes gennych chi eich cwmni eich hun ac rydych chi'n datblygu'r dechnoleg neu'n cyflawni'r syniad a'r cysyniadau rydych chi'n credu ynddynt, mae hynny'n wobrwyol iawn hefyd. 

Beth sy'n eich cyffroi fwyaf am ddyfodol y cwmni a'r diwydiant?  

Mae'r dyfodol yn addawol iawn i led-ddargludyddion pŵer; er enghraifft, mae Deallusrwydd Artiffisial wedi'i bweru gan ganolfannau data mawr ac maen nhw'n defnyddio llawer o bŵer!  Mae lled-ddargludyddion pŵer sy'n ysgogi effeithlonrwydd ynni yn un o'r rhannau pwysicaf o ran canolfannau data'n rheoli faint o bŵer maen nhw'n ei ddefnyddio. 

Mae lled-ddargludyddion pŵer yn rheoleiddio defnyddio ynni ac yn gwneud y broses hon yn fwy effeithlon. Bydd rôl lled-ddargludyddion pŵer yn hynod bwysig yn y dyfodol. Mae angen llawer o led-ddargludyddion pŵer ar geir trydanol a dulliau cynhyrchu ynni adnewyddadwy megis tyrbinau gwynt.  Mae cyfleoedd di-ben-draw ar gyfer twf a syniadau a chymwysiadau newydd. Mae hyn i gyd yn fy ngwneud i'n gyffrous iawn am ddyfodol y diwydiant.  
 
Y sector ynni adnewyddadwy yw'r peth mwyaf diddorol i mi. Mae'r byd a'r amgylchedd yn dibynnu ar ba mor llwyddiannus y gallwn ni ddefnyddio'r ynni naturiol sy'n bodoli heb greu llygredd. Bydd lled-ddargludyddion pŵer yn chwarae rôl allweddol o ran hynny. Mae'n faes cyffrous i beirianwyr ifanc sy'n dechrau yn y sector.