Shwmae! Fy enw i yw Caterina, rwy’n dod o Bucharest, Romania ac rwy’n fyfyrwraig Cysylltiadau Cyhoeddus a’r Cyfryngau yn yr ail flwyddyn. Ymunais i â Phrifysgol Abertawe trwy’r Broses Glirio.

Pan roeddwn yn fy mlwyddyn olaf yn y coleg, es i i Ffair Prifysgolion Rhyngwladol Romania lle gwnaeth adran y cyfryngau a chyfathrebu Prifysgol Abertawe greu argraff arna i, a’r modiwlau a’r lleoliad hefyd. Penderfynais i roi Prifysgol Abertawe yn yr ail safle ar fy rhestr.

Pan ddaeth yr amser, es i i astudio yn Rhufain, yr Eidal. Serch hynny, ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, sylweddolais i nad oedd y brifysgol yn bodloni popeth roeddwn i’n ei eisiau o’m hastudiaethau ac o’m profiad fel myfyrwraig. Felly, fy rheswm dros ddefnyddio clirio oedd newid fy meddwl am y brifysgol lle roeddwn i eisiau astudio. Hefyd gallwch ddefnyddio clirio os nad ydych chi wedi ennill y graddau roeddech chi’n eu disgwyl neu rydych chi eisiau newid i gwrs arall.

Caterina yn mwynhau mynd am dro mewn ardal wledig

Y Broses Glirio

Oherwydd imi benderfynu newid prifysgol ym mis Gorffennaf, roedd y Broses Glirio yn berffaith i mi. Ymgeisiais i ar-lein trwy UCAS ac roedd y cais yn hawdd ei ddilyn a’i gwblhau. Ar yr un pryd, ymgeisiais i am gyllid i fyfyrwyr er mwyn talu am ffioedd y brifysgol.

Byddai wedi bod yn dda pe bawn i wedi gwybod ynghynt fod ceisiadau yn mynd trwy broses fanwl sy’n gallu parhau tan ganol mis Medi. Felly, des i i Abertawe er mwyn ymgartrefu ar gyfer y flwyddyn academaidd heb wybod a oeddwn i wedi cael lle ai peidio.

Roeddwn i’n mynd trwy gyfnod o straen oherwydd hyd yn oed gyda graddau da a oedd yn gyfwerth ag AAB, nid oeddwn yn sicr o’r cais i’r brifysgol na’r cais am gyllid i fyfyrwyr. Yn ffodus, gwnaeth y brifysgol fy helpu’n fawr iawn gyda’m pryderon.

Cysylltais i â staff y brifysgol trwy e-bost ac roedden nhw’n garedig ac yn gyfeillgar dros ben. Rhoeon nhw’r wybodaeth ddiweddaraf i fi ar bob cam o’r broses. Roedden nhw’n deall bod y sefyllfa’n llawn pryderon imi a chadwon nhw mewn cysylltiad â mi nes imi gael lle yn bendant.

Pan gafodd fy nau gais eu cymeradwyo o’r diwedd, gwnaeth y brifysgol gynnig cymorth imi gyda’r broses lety, wrth ddewis modiwlau a chan rhoi gwybodaeth imi am bopeth roedd angen ei wybod er mwyn cael y profiad haws a’r profiad mwyaf braf fel myfyrwraig.

At hynny, oherwydd roeddwn i’n poeni am fy statws ariannol a sut byddwn i’n cefnogi fy hun heb gymorth allanol, mae’r brifysgol wedi cynnig digon o gyfleoedd i gael swyddi gyda chyflog drwy gydol y blynyddoedd. Er enghraifft, yn syth ar ôl imi ddechrau yn y flwyddyn gyntaf, cefais i swydd fel Myfyriwr yn Galw am gyfnod o fis.

Roeddwn i’n gallu cefnogi fy hunan, cyfrannu at y brifysgol a chwrdd â rhagor o ffrindiau. Hefyd cymerais i ran fel Myfyriwr Llysgennad, sy’n swydd gyda chyflog hefyd. Dyma gyfleoedd gwych i ymgysylltu a datblygu profiad cryf ar gyfer eich CV hefyd.

Cyngor ar Glirio

Fy nghyngor ar gyfer darpar fyfyrwyr, boed a ydynt yn meddwl am ymgeisio i Brifysgol Abertawe trwy’r Broses Glirio neu’n mynd trwy’r broses nawr, yw ymchwilio. Peidiwch ag anghofio bod Llinell Gymorth am Glirio, a Sgwrs â Llysgennad.

Gallwch chi ddefnyddio’r opsiynau hyn er mwyn cyfathrebu â myfyrwyr presennol i gael blas ar fywyd fel myfyriwr neu i siarad â Gweithiwr Clirio sy’n gallu tawelu’ch meddwl a’ch tywys trwy’r cais.

Lluniwch restr o’ch profiadau delfrydol fel myfyriwr a dechreuwch ymchwilio i’ch prifysgol berffaith. Gallwch chi arwain eich hunan trwy ystyried ansawdd academaidd, amrywiaeth, lleoliad, dewisiadau llety a’r amrywiaeth ohono.

Mae’n wych bod gan Brifysgol Abertawe bopeth a dyma pam rwy’n gallu dweud fy mod i wir yn argymell Prifysgol Abertawe. Ni allai fy mhrofiad fel myfyrwraig fod yn well na hyn ac rwy’n fyfyrwraig Prifysgol Abertawe falch.