Barry Bardsley

Mae Barry wedi gweithio ym maes Awdioleg er 2003 ac ef yw cyfarwyddwr y rhaglen BSc Gwyddor Gofal Iechyd (Awdioleg) ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn helpu'r rhai sydd â cholled clyw i oresgyn problemau gwrando ar leferydd ymysg sŵn cefndir. Mae'n darparu mewnbwn strategol i'r clinig awdioleg ac wedi bod yn rhan o'r datblygiad o'r dechrau.

 

Alice Davies

Mae Alice Davies yn Awdiolegydd cymwys gyda chofrestriad deuol RCCP a HCPC fel Awdiolegydd Clinigol y GIG a Dosbarthwr Cymorth Clyw. Ers iddi gymhwyso yn 2010, mae hi wedi ennill profiad gwerthfawr mewn Adsefydlu Clywedol Oedolion gydag arbenigedd penodol mewn Therapi Tinnitus a Hyperacusis. Ar hyn o bryd mae Alice yn cael ei chyflogi fel Darlithydd mewn Awdioleg ym Mhrifysgol Abertawe a hi yw cyfarwyddwr rhaglen y Dystysgrif mewn Addysg Uwch mewn Ymarfer Awdiolegol Sylfaenol.