Ydych chi’n awyddus i astudio Economeg? Hoffech chi gael rhagor o wybodaeth am bynciau allweddol cyn i chi ymuno â ni ym Mhrifysgol Abertawe? Darllenwch ymlaen...

Rydym wedi llunio rhestr ddarllen a rhestr adnoddau isod i roi rhagflas o’r deunydd efallai y byddwch chi’n ei astudio drwy gydol eich cynllun gradd israddedig a bydd yn helpu i’ch rhoi chi ar flaen y gad yn ystod eich semester cyntaf gyda ni.

Pam dylwn ddarllen y rhain?

Trwy fynd i’r afael â’r adnoddau hyn, byddwch:

  • Yn meithrin dealltwriaeth well o’r mathau o fodiwlau yr addysgir i chi drwy gydol eich gradd gyda ni.
  • Yn ehangu’ch gwybodaeth am ymarferion economeg damcaniaethol gwahanol ac yn eich helpu i ddatblygu’ch barn eich hun ar ddeunydd.
  • Ar y blaen wrth ddysgu’r derminoleg a ddefnyddir ar gyfer eich gradd mewn economeg.

Os nad ydych eto wedi ymgeisio am eich gradd gyda ni, gellir cyfuno’n deunydd darllen â’ch gwaith darllen eich hun er mwyn eich helpu i ysgrifennu datganiad personol cryf, â mwy o ddealltwriaeth ynghylch y cwrs a’r cyfeiriadau.

Rhestr ddarllen ac adnoddau ar-lein

Nid yw hon yn rhestr gyflawn o bopeth y byddwch yn ei astudio, ond yn gyfle i ddechrau datblygu a deall pa destunau fydd o ddiddordeb ichi.

Byddwch yn gweld llyfrau sy’n gysylltiedig â rhai o fodiwlau allweddol y flwyddyn gyntaf, sy’n rhoi ichi sail ehangach yn eich pwnc er mwyn eich galluogi i weld sut mae’n berthnasol i faterion cyfredol yn y byd go-iawn.

Eisiau rhagor o wybodaeth i’ch helpu i baratoi ar gyfer y brifysgol?