Yma fe welwch fanylion y cyrff yn y Brifysgol sy’n dod i benderfyniadau. Ni fydd cofnodion yn ymddangos ar y dudalen hon tan i’r Pwyllgor perthnasol eu cymeradwyo. Ni fydd cofnodion ar gyfer cyfarfodydd sy’n cael eu cynnal ar ddiwedd y sesiwn academaidd yn ymddangos ar y dudalen yma tan y bydd cyfarfod cyntaf y sesiwn newydd wedi digwydd.
Mae cofnodion a phapurau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon ar gael drwy wneud cais.
Cyngor
Y cyngor yw corf llywodraethu’r Brifysgol.
Senedd
Gyda chymeradwyaeth y Cyngor, y Senedd sy’n gyfrifol am reoleiddio a goruchwylio’r cyrsiau, y dyfarniadau a’r cymwysterau mae’r Brifysgol yn eu cynnig. Cliciwch yma i gael manylion pellach.
Y Llys
Mae’r Llys yn sefyll uwchben prif fecanwaith penderfynu’r Brifysgol. Mae’r Llys yn chwarae swyddogaeth bwysig a dylanwadol, ar ran rhanddeiliaid y Sefydliad, yn y gwaith o sicrhau bod y Brifysgol yn cael ei rheoli’n dda, ei llywodraethu’n briodol a’i bod yn ymateb i fuddiannau a phryderon cyhoeddus a lleol. Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion.
Bwrdd Rheoli'r Brifysgol
Bwrdd Rheoli’r Brifysgol yw uwch bwyllgor rheoli a gweithredu’r Brifysgol. Mae'r bwrdd yn cyfarfod 9 gwaith y flwyddyn.