Rhaid gwneud pob cais am wybodaeth yn ysgrifenedig naill ai drwy e-bost neu drwy lythyr gan ddefnyddio’r manylion cyswllt canlynol:-

Swyddog Cydymffurfiaeth (Rhyddid Gwybodaeth/Diogelu Data)

Swyddfa’r Is-Ganghellor

Prifysgol Abertawe

Parc Singleton

Abertawe

SA2 8PP

 

E-bost: foi@abertawe.ac.uk

 

Defnyddiwch enw a chyfeiriad dilys (cyfeiriad e-bost neu gyfeiriad post) ar gyfer gohebiaeth yn ogystal â disgrifiad o’r wybodaeth yr hoffech chi i Brifysgol Abertawe ei darparu i chi.

Mae gan Brifysgol Abertawe hawl i ofyn am eglurder am unrhyw gais am wybodaeth lle nad yw’n bosibl adnabod y wybodaeth sydd ei hangen o’r disgrifiad gwreiddiol a roddwyd. Yn unol ag Adran 10(6) Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, bydd yr amserlen o 20 diwrnod gwaith yn cael ei gohirio tan i’r sefydliad gael yr eglurder, gan ailgychwyn ar y dyddiad y bydd y wybodaeth yn cyrraedd. Os na chaiff eglurder ei roi, bydd y cais yn cael ei gau 60 diwrnod ar ôl dyddiad y cais am eglurder.