Mae David TC Davies , un o weinidogion llywodraeth y DU, a’r Is-ganghellor o Prifysgol Abertawe, Yr Athro Paul Boyle.

Mae David TC Davies , un o weinidogion llywodraeth y DU, a’r Is-ganghellor o Prifysgol Abertawe, Yr Athro Paul Boyle.

Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.

Arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe wnaeth ddatblygu’r dechnoleg mae modd ei gwisgo. Fe wnaethant ddyfeisio twymwr hyblyg gan ddefnyddio inc graffen estynadwy seiliedig ar garbon y mae modd ei lynu’n syth ar ddeunydd.  Mae hyn yn cadw tymheredd y cyhyrau yn gyson, ac mae hynny’n gallu gwella perfformiad athletwyr.

Dysgodd hefyd am y bartneriaeth arloesol rhwng academyddion Prifysgol Abertawe, y Byrddau Iechyd lleol a’r diwydiant sy’n astudio gofynion beicwyr proffesiynol, elît, gyda Diabetes Math 1 er mwyn deall sut mae rheoli glwcos yn well a datblygu argymhellion ar gyfer eraill sy’n byw gyda’r cyflwr hwn.

Mae prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe. Defnyddir y buddsoddiad i hybu arloesedd a thwf busnesau yn y sectorau Technoleg Chwaraeon a Meddygol sy’n tyfu, gan arwain at ragor o gynhyrchion, fel Dillad Clyfar, yn cael eu datblygu.

Bwriad y prosiect yw creu dros 1,000 o swyddi yn ardal Abertawe a rhagwelir y bydd yn werth dros £150 miliwn i'r economi ranbarthol erbyn 2033.

Prifysgol Abertawe sy’n arwain y prosiect, mewn partneriaeth â Chyngor Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Partneriaeth Cydweithrediad Rhanbarthol ar gyfer Iechyd (ARCH) a phartneriaid sector preifat allweddol. Lleolir y prosiect yn Singleton a Threforys, a bydd yn cael ei gyflawni mewn dau gam.

Bydd cam un, a fydd yn defnyddio cyllid Bargen Ddinesig dros y tair blynedd nesaf, yn darparu gofod ymchwil ac arloesi pwrpasol 2000m2 o ran maint ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar Gampws Singleton, Prifysgol Abertawe. Bydd hyn yn sefydlu amgylchedd sy’n cefnogi datblygu, profi a gwerthuso technolegau chwaraeon, meddygol, iechyd a lles, yn ogystal â phartneriaethau masnachol. Hefyd, bydd cam un yn cynnwys adnewyddu un o adeiladau presennol Ysbyty Treforys. Bydd y safle yn creu gofod 700mar gyfer y Sefydliad Gwyddor Bywyd, er mwyn gallu cydweithio ar lefel fasnachol ac academaidd ochr yn ochr â gwaith ymchwil a datblygu clinigol.

Pan fydd y cam cyntaf wedi’i gwblhau, bydd yn arwain at y posibilrwydd o ddatblygu ac ehangu’r ddau safle ar raddfa fawr dros y 12 mlynedd nesaf. Bydd hyn yn sefydlu’r ardal ymhellach ar flaen y gad o ran iechyd, chwaraeon a gwyddoniaeth, gan ysgogi datblygiadau economaidd ac ychwanegu gwerth i'r rhanbarth. Disgwylir i hyn gynnwys Parc Arloesi 55 erw gyda gofod i fusnesau bach a chanolig yn ogystal â chwmnïau mawr yn y sector Technoleg Feddygol a Thechnoleg Chwaraeon sy’n ffynnu. 

Bydd yr ail gam yn caniatáu ar gyfer creu canolfan ragoriaeth chwaraeon gyda chyfleusterau o’r radd flaenaf i dimau elît a chwaraeon cymunedol, ochr yn ochr â gwaith ymchwil a thechnoleg chwaraeon, ar Gampws Singleton.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Cadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe:

“Rydyn ni’n falch o groesawu’r Gweinidog, David T C Davies, i Brifysgol Abertawe, wrth i Achos Busnes y Campysau gael ei gymeradwyo. Bydd y prosiect hwn, sy’n cael ei arwain gan Brifysgol Abertawe, yn adeiladu ar arbenigedd rhanbarthol mewn gwyddor bywyd, lles ac arloesedd clinigol, a fydd yn helpu i atal afiechyd, datblygu triniaethau gwell a gwella ansawdd bywyd. Bydd hefyd yn creu dros 1,000 o swyddi sy’n talu’n dda, yn rhoi hwb i’r economi ac yn helpu i ddenu buddsoddiad ychwanegol sylweddol.”

“Prosiect y Campysau yw’r un olaf i gael ei gymeradwyo ym mhortffolio Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi cyrraedd y garreg filltir bwysig hon. Rydyn ni nawr yn canolbwyntio ar gyflawni'r portffolio cyfan er mwyn creu rhanbarth sy’n fwy ffyniannus ar gyfer ein preswylwyr yn ogystal â chyflymu’r broses o adfer yn economaidd ar ôl y pandemig.” 

Dywedodd Gweinidog Llywodraeth y DU yng Nghymru, David TC Davies: 

“Fe wnes i wir fwynhau gweld y gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud ar y prosiect hwn. Mae gan bawb sydd ynghlwm â’r prosiect gymaint o uchelgais a brwdfrydedd, yn ogystal â syniadau arloesol iawn. Roedd yn bleser cwrdd â’r rhai hynny sy’n gweithio mor galed i sicrhau bod hyn yn llwyddiant.

“Mae Llywodraeth y DU yn falch o gyllido’r prosiect uchelgeisiol hwn, a fydd yn adeiladu ar bopeth rwyf wedi’i weld, ac yn sicrhau bod Prifysgol Abertawe, yn ogystal â’i phartneriaid, yn arwain y gad gyda Thechnoleg Chwaraeon a Meddygol yn yr unfed ganrif ar hugain.

“Yn ogystal â rhoi hwb i swyddi a’r economi leol, bydd y dechnoleg a ddatblygir yn gwella iechyd a lles pobl Abertawe a thu hwnt.” 

Dywedodd yr Athro Paul Boyle, Is-ganghellor Prifysgol Abertawe:

“Mae Prifysgol Abertawe yn falch bod y fenter ranbarthol fawr hon, mewn cydweithrediad â Chyngor Abertawe, ein byrddau iechyd lleol a phartneriaid allweddol yn y sector preifat bellach wedi cael ei chymeradwyo.

“Gan fanteisio ar yr ecosystem iechyd a gwyddor bywyd sy’n ffynnu yn Rhanbarth Dinas Bae Abertawe, bydd y prosiect hwn yn sefydlu canolfan ryngwladol ar gyfer arloesi ym maes gofal iechyd a meddygaeth ym Mharc Chwaraeon Lôn Sgeti ar ein campws hanesyddol, Singleton. Bydd yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y boblogaeth a bydd yn cefnogi'r broses o ddatblygu’r diwydiant Technoleg Chwaraeon arloesol sydd gennym yma yng Nghymru. Bydd yn cefnogi ein prifysgol i gyflawni ein huchelgeisiau rhanbarthol ar gyfer chwaraeon, gan ein galluogi i hyrwyddo lles ac iechyd ataliol, ac yn cefnogi’r cyhoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ar hyd eu hoes.

“Mae prosiect y Campysau yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio’n effeithiol ar draws sectorau, ac rydyn ni’n falch o weithio mewn partneriaeth â busnesau a’r llywodraeth er budd ehangach ein rhanbarth.”

Dywedodd Mark Hackett, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe: 

“Does dim modd peidio â sylweddoli gwerth ymchwil a datblygu i’r economi iechyd yn rhanbarth Bae Abertawe.  Nid yn unig mae hyn yn denu swyddi o safon a buddsoddiad i’r ardal, mae hefyd yn arwain y ffordd at gyfleoedd cyffrous i staff a chleifion fod ar flaen y gad wrth fod yn rhan o ddatblygiadau cyffrous a thriniaethau arloesol. 

“Dim ond y dechrau yw prosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, ac wrth i’n henw da fel sefydliad ymchwil a datblygu o safon dyfu, bydd yn ein helpu ni i ddenu staff hyd yn oed gwell. Fel bwrdd iechyd, rydyn ni’n falch o ddarparu ar gyfer rhan allweddol o’r prosiect hwn ar ein safle yn Ysbyty Treforys, gan sicrhau bod ymchwil arloesol wrth galon gofal iechyd.”

Ychwanegodd Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio’n glir ar greu dyfodol economaidd cryfach, tecach, gwyrddach. Rydyn ni am i Gymru fod yn wlad sydd ar flaen y gad o ran arloesi gyda thechnolegau newydd a fydd o fudd i bobl yn eu bywydau bob dydd. Bydd y buddsoddiad sylweddol rydyn ni’n ei wneud fel rhan o Fargen Ddinesig Bae Abertawe yn gwella rôl arweiniol Cymru fwyfwy yn y maes gwyddorau a thechnolegau meddygol uwch. Bydd yn cefnogi busnesau i ddefnyddio cysylltiadau â’r byd academaidd, gan ddod ag ymchwil o'r radd flaenaf o'r labordai a’r diwydiant i gymdeithas, er budd ein pobl ac er budd ein heconomi.” 

Rhannu'r stori