Logo - Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol

Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.

Cynhaliwyd arolwg o fwy na 2,000 o aelodau presennol o'r Llu Awyr ar gyfer yr astudiaeth hon, yr un gyntaf o'i math, a chanfuwyd bod problemau gamblo'n effeithio ar 2% ohonynt.

Er yr effeithir ar leiafrif o gymuned bresennol y Llu Awyr Brenhinol, mae'r arolwg yn nodi bod aelodau o'r Llu Awyr Brenhinol yn fwy tebygol o wynebu problemau gamblo na'r boblogaeth gyffredinol.

Yn ôl yr arolwg, mae 13.7% o aelodau eraill yn nodi rhywfaint o risg mewn perthynas â gamblo (risg isel yn achos 9.8% a risg gymedrol yn achos 3.9%). Gan fod yr astudiaeth ddiweddar o iechyd ac arferion gamblo cyn-filwyr wedi amlygu bod cyn-filwyr yn y DU yn llawer mwy tebygol o wynebu problemau gamblo, rhaid gofyn y cwestiwn ynghylch beth arall y gellir ei wneud i gefnogi gweithlu'r Llu Awyr Brenhinol er mwyn atal problemau yn y dyfodol.

Hefyd, dangosodd yr ymchwil, a gynhaliwyd gan Dr Amy Pritchard o Ysgol Seicoleg Prifysgol Abertawe, fod cysylltiad rhwng problemau gamblo a materion lles ehangach megis y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.

Mae unigolion sy'n yfed lefelau peryglus o alcohol ddwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn gweithgareddau gamblo peryglus, ac mae'r rhai sy'n dioddef o iselder cymedrol neu ddifrifol bum gwaith yn fwy tebygol o ddatgan bod ganddynt broblem gamblo.

Mae'r ffactorau risg sy'n gysylltiedig â phroblemau gamblo yn y Llu Awyr Brenhinol yn cynnwys bod yn wryw rhwng 18 a 24 oed heb gomisiwn.

Meddai'r Athro Simon Dymond, prif ymchwilydd yr astudiaeth sydd hefyd yn aelod o'r Ysgol Seicoleg: “Mae'r astudiaeth fawr hon sydd o bwys rhyngwladol yn dangos, am y tro cyntaf, fod aelodau presennol o'r Llu Awyr Brenhinol yn agored i niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.

“Mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau dilynol ynghylch y canfyddiad hwn drwy glustnodi cymorth a chefnogaeth, gan gynnwys nodi niweidiau posib sy'n deillio o gamblo ymhlith gweithlu presennol yr holl luoedd arfog.”

Cynigiodd Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol argymhellion allweddol yn yr adroddiad, gan gynnwys:

• cynyddu ymwybyddiaeth ymhlith y gweithlu presennol;
• sgrinio, yn enwedig ymhlith y rhai y mae'r ffactorau risg yn berthnasol iddynt;
• hyfforddi gweithwyr iechyd proffesiynol a rheolwyr llinell;
• darparu addysg a strategaethau dwysedd isel i newid ymddygiad y rhai sydd mewn perygl o ddatblygu problemau gamblo.

Meddai Chris Elliot, Is-farsial a Rheolwr Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol: “Rydym yn ymrwymedig i roi'r cymorth priodol i gymuned bresennol y Llu Awyr Brenhinol, a bydd yr ymchwil hon yn helpu i lywio ein gwasanaethau lles emosiynol yn y dyfodol.”

Lansiwyd adroddiad yr astudiaeth yn ystod cyflwyniad a thrafodaeth gan banel sydd ar gael ar sianel YouTube Cronfa Les y Llu Awyr Brenhinol ac mae'r canfyddiadau wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid a'u cyhoeddi, ar sail mynediad agored, yn Addictive Behaviours.

Rhannu'r stori