Babŵn

Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.

Cofnododd y coleri GPS safle'r babŵns ar bob eiliad a chanfu'r ymchwilwyr fod y babŵns yn dangos patrymau nodweddiadol o ymddygiad torfol mewn mannau naturiol. I'r gwrthwyneb, mewn ardaloedd trefol, lle mae mwy o risgiau megis traffig yn ogystal â mwy o bosibilrwydd o gael gafael ar fwyd pobl llawn calorïau, symudodd y babŵns yn gyflymach, gan wahanu i mewn i is-grwpiau, ac nid oeddent yn cyd-drefnu eu symudiadau.  

Er nad oeddent yn cyd-drefnu eu symudiadau fel y byddent mewn mannau naturiol, canfu'r ymchwilwyr fod rolau arweinwyr a dilynwyr yn yr haid o fabŵns yn debyg mewn mannau naturiol a threfol, a bod oedolion gwrywaidd yn cael y dylanwad mwyaf ar symudiadau aelodau'r grŵp.  

Meddai Anna Bracken o Brifysgol Abertawe, prif awdur yr astudiaeth, a gyhoeddir yn Proceedings of the Royal Society B: Biological Sciences: “Roedden ni'n disgwyl i arweinwyr y babŵns gael llai o ddylanwad ar symudiadau babŵns eraill mewn mannau trefnol gan fod deinameg gymdeithasol yr haid yn torri. Ond cawson ni ein synnu bod y gwrywod yn parhau i chwarae rôl bwysig.”

Dim ond dechrau deall ymddygiad torfol grwpiau cymdeithasol gwyllt y mae gwyddonwyr oherwydd yr heriau sy'n gysylltiedig ag arsylwi ar lawer o unigolion ar yr un pryd. Mae gwyddonwyr yn gwybod hyd yn oed yn llai am newidiadau mewn ymddygiad torfol mewn amgylcheddau adeiledig megis dinasoedd. Dyma fwlch pwysig yn ein gwybodaeth o ystyried bod lefelau gorgyffwrdd gofodol rhwng bywyd gwyllt a phobl yn cynyddu'n fyd-eang.  

Mae canfyddiad annisgwyl yr astudiaeth hon hefyd yn newyddion cadarnhaol i Raglen Babŵns Trefol dinas Cape Town, sy'n ceisio lleihau cysylltiadau negyddol rhwng pobl a babŵns.

 “Tasg y ceidwaid yw cadw'r babŵns allan o'r ddinas, a thrwy ganolbwyntio ar oedolion gwrywaidd, yn anuniongyrchol maent yn atal  y rhan fwyaf o'r grŵp rhag dod i fannau trefol, oherwydd bod y gwrywod hyn yn tueddu i gael eu dilyn,” meddai'r Athro Justin O’Riain o Brifysgol Cape Town, cyd-awdur yr astudiaeth.  

Mae'r ffaith bod y babŵns yn perthyn i'w gilydd ac yn trefnu ei gilydd mewn grŵp, ond yn mabwysiadu rolau cadarn fel arweinwyr a dilynwyr wrth symud yn y ddinas, yn amlygu hyblygrwydd a chadernid eu hymddygiad torfol. Mae'r gwyddonwyr bellach yn defnyddio eu set ddata i edrych yn agosach ar benderfyniadau'r babŵns i symud i mewn i fannau naturiol a threfol ac i'w gadael.  

Esboniodd Dr Andrew King, uwch-awdur yr astudiaeth: “Wrth i chi arsylwi ar anifeiliaid yn fyw, rydych yn ceisio cofnodi popeth yn eich nodiadur neu ar eich cyfrifiadur, ond dim ond darn bach o'r hyn sy'n digwydd rydych yn ei gofnodi. Mae data GPS o'r math hwn yn rhoi rhyw fath o beiriant amser i ni. Gallwn edrych yn ôl ar ddigwyddiadau penodol a chael golwg agosach ar yr hyn y mae'r babŵns yn ei wneud.”

Rhannu'r stori