Roedd mwy na hanner y bobl y bu'n rhaid iddynt hunanynysu yn teimlo bod hynny wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a dywedodd mwy na chwarter ohonynt ei fod wedi effeithio'n negyddol ar eu hincwm, yn ôl ymchwil Prifysgol Abertawe. 

Yn ogystal, nododd yr astudiaeth nad oedd neb o'r gwasanaeth olrhain cysylltiadau wedi holi 75 y cant o'r bobl am eu lles wrth iddynt hunanynysu. Roedd 60 y cant ohonynt naill ai heb glywed am y taliad cymorth hunanynysu gwerth £500 neu nid oeddent yn gwybod sut i wneud cais amdano.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr heriau hyn, gwelodd yr ymchwilwyr fod canran uchel iawn o bobl wedi cydymffurfio â'r canllawiau ar hunanynysu, gydag 80 y cant yn cydymffurfio'n llawn a dim ond un y cant o bobl yn dweud nad oeddent wedi hunanynysu o gwbl.

Mae'r astudiaeth, a gynhaliwyd ar ran Senedd Cymru, yn cynnig cipolwg ar effeithiau ariannol, cymdeithasol ac emosiynol hunanynysu, ac yn nodi'r hyn y mae angen ei wneud er mwyn cefnogi unigolion a'u teuluoedd yn well ar yr adeg anodd hon.

Cafodd yr ymchwil ei harwain gan Dr Simon Williams, Uwch-ddarlithydd Pobl a Sefydliadau, a Dr Kimberly Dienes, Darlithydd Seicoleg Glinigol ac Iechyd, mewn cydweithrediad â Dr Paul White, Athro Cysylltiol Pobl a Sefydliadau.

Meddai Dr Williams: “Gwelsom fod hunanynysu'n cael effaith negyddol ar iechyd meddwl llawer o bobl. Mewn llawer o achosion, roedd colli rhywfaint o ryddid, er enghraifft cael mynd allan at ddibenion ymarfer corff neu siopa am eitemau hanfodol, wedi gwneud gwahaniaeth mawr i'w lles emosiynol.

"Er bod y rhan fwyaf o bobl wedi llwyddo i gael gafael ar yr hanfodion roedd eu hangen arnynt drwy ffrindiau a theulu, roedd rhai pobl yn meddwl bod hunanynysu yn glawstroffobaidd neu'n teimlo fel bod dan glo.

“Mae ein hymchwil yn awgrymu bod canran uchel iawn o bobl wedi cydymffurfio â'r canllawiau ar hunanynysu, ond roedd lleiafrif heb gydymffurfio i'r un graddau. Ymhlith y rhai nad oeddent yn glynu wrth y rheolau, roedd sbectrwm eu hymddygiad yn amrywio o'r rhai nad oeddent yn hunanynysu o gwbl i'r rhai a oedd yn mynd allan i redeg o bryd i'w gilydd am 5am yn y bore."

Mae'r ymchwilwyr yn argymell y dylid gwirio iechyd meddwl a sefyllfa ariannol pawb y gofynnir iddynt hunanynysu, a hynny'n rheolaidd, wrth iddynt hunanynysu. Dylai swyddogion olrhain cysylltiadau roi gwybodaeth a chyfarwyddyd i'r rhai y nodwyd bod angen rhagor o gymorth arnynt, er mwyn iddynt gael gafael ar wasanaethau cefnogi iechyd meddwl neu gymorth ariannol megis y taliad cymorth hunanynysu.

Mae canfyddiadau eraill yr astudiaeth yn cynnwys y canlynol:

  • Soniodd pobl a oedd wedi hunanynysu am heriau i iechyd corfforol – diffyg ymarfer corff, poenau anghyffredin (46 y cant); heriau i iechyd meddwl – gorbryder, teimlo'n isel, unigrwydd (46 y cant); a thrafferthion yn addasu eu trefn feunyddiol (34 y cant). Efallai fod angen cymorth ychwanegol i ymdrin â heriau eraill, gan gynnwys diffyg mynediad at hanfodion (20 y cant), ymrwymiadau gofalu (14 y cant) a heriau ariannol (12 y cant).
  • Roedd cryn amrywioldeb o ran hyd yr amser roedd pobl wedi aros rhwng pryd roeddent yn credu eu bod wedi dod i gysylltiad â'r feirws a phryd y dywedwyd wrthynt i hunanynysu, ac o ran pa mor aml y cysylltwyd â hwy ar ôl iddynt glywed bod yn rhaid iddynt hunanynysu.

Meddai Dr Dienes: “Roedd yn amlwg o'n canlyniadau fod y mwyafrif o bobl yn cydymffurfio â'r cais i hunanynysu ac yn teimlo bod y cyfarwyddiadau'n glir, ond mae angen mwy o gymorth arnynt i hunanynysu, yn ariannol ac yn emosiynol. Mae angen i'r gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu roi mwy o bwyslais ar ddiogelu.

“Ar ben hynny, mae angen i ni gyrraedd y grŵp bach o bobl sy'n teimlo na allant hunanynysu, deall eu rhesymau a rhoi'r cymorth angenrheidiol iddynt.”

Cyhoeddwyd yr astudiaeth gan Ymchwil y Senedd ac mae ar gael i'w darllen yn llawn.

Gwnaeth gyfuno holiaduron meintiol â chyfweliadau ansoddol a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2020 a mis Ionawr 2021. Gwnaeth gynnwys y rhai a oedd wedi hunanynysu o ganlyniad i gael prawf positif am coronafeirws, y rhai y cysylltwyd â hwy'n uniongyrchol gan swyddogion olrhain cysylltiadau'r GIG ar ôl cael prawf positif neu fod mewn cysylltiad agos â rhywun a oedd wedi cael prawf positif, yn ogystal â'r rhai y gofynnwyd iddynt hunanynysu drwy ddulliau eraill megis ap olrhain cysylltiadau y GIG.

Ychwanegodd Dr Williams: “Rydym yn argymell y dylai unrhyw un y gofynnir iddo hunanynysu gael cyngor a chymorth mwy cyson yn gyffredinol er mwyn helpu i amddiffyn ei sicrwydd ariannol a'i iechyd meddwl wrth iddo hunanynysu.

“Ni waeth a ofynnir i rywun hunanynysu oherwydd ei fod wedi cael prawf positif neu oherwydd ei fod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi cael prawf positif, ac ni waeth a ofynnir iddo hunanynysu gan swyddog olrhain cysylltiadau neu drwy'r ap, dylid gofyn i bawb ‘a fydd effaith ar eich incwm oherwydd bod yn rhaid i chi hunanynysu?’, a ‘sut rydych yn teimlo am orfod hunanynysu?’

“Gallai hyn helpu i nodi'n systematig y rhai y gall fod angen rhagor o gymorth arnynt nad ydynt yn ymwybodol o'r adnoddau sydd ar gael iddynt.”

Rhannu'r stori