Mae pobl sy'n dioddef o asthma yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig,

Mae pobl sy'n dioddef o asthma yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, yn ôl astudiaeth newydd dros bum mlynedd o fwy na 100,000 o bobl.

Gwelwyd hefyd nad yw pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig yn taro'r cydbwysedd cywir rhwng meddyginiaethau hanfodol sy'n helpu i atal pyliau o asthma.

Gwnaeth Arsyllfa Asthma Cymru ym Mhrifysgol Abertawe gynnal y gwaith ymchwil newydd mewn cydweithrediad â Chanolfan y DU ar gyfer Ymchwil Gymhwysol i Asthma a Phrifysgol Lerpwl. Fe'i cyhoeddwyd yn y cyfnodolyn PLOS Medicine. Gwelwyd mai pobl sy'n dioddef o asthma mewn ardaloedd difreintiedig yng Nghymru sy'n cael y problemau mwyaf.

Yn ôl yr astudiaeth, a ariannwyd ar y cyd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, mae pobl mewn ardaloedd sy'n ddifreintiedig yn gymdeithasol ac yn economaidd yn rheoli eu hasthma yn waeth, maent yn dioddef mwy o byliau o asthma ac mae mwy o berygl y byddant yn marw.

Meddai Dr Mohammad Alsallakh, awdur cyntaf yr astudiaeth:

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos nad yw asthma'n effeithio'n gyfartal ar bobl yn ein cymdeithas, a bod mannau geni a byw pobl yn berthnasol. Gwelsom fod lefelau incwm ac addysg is yn ffactorau pwysig wrth ddylanwadu ar anghydraddoldebau economaidd-gymdeithasol o ran asthma.

Mae prinder cyfleoedd addysgol yn debygol o effeithio ar y ffordd y mae pobl yn rheoli eu hasthma ac o gynyddu'r perygl y byddant yn cael pyliau o asthma ac yn marw. Mae'n bwysig pennu strategaethau addysg iechyd gwell ar gyfer y cymunedau mwyaf difreintiedig er mwyn sicrhau bod cleifion yn defnyddio eu hanadlyddion ataliol yn rheolaidd ac yn gywir.”

Mae'r astudiaeth hon yn rhan o waith pwysig a chynyddol i ymchwilio i iechyd mewn cysylltiad ag asthma dan arweiniad Canolfan y DU ar gyfer Ymchwil Gymhwysol i Asthma. Arsyllfa Asthma Cymru (WAO) yw'r Ganolfan Ragoriaeth ddiweddaraf i ymuno â'r grŵp Gwyddor Data Poblogaeth. Mae'r arsyllfa'n gyfrwng ar gyfer ymchwilio i asthma a'i oruchwylio ac mae ganddi garfan gronnol o gleifion sy'n ddioddef o asthma ledled Cymru a chofnodion iechyd electronig sy'n dyddio yn ôl i 1990.

Meddai arweinydd yr arsyllfa ac Athro Meddygaeth Anadlol yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Gwyneth Davies:

“Gwelsom fod pobl dlotach deirgwaith yn fwy tebygol o ddefnyddio anadlyddion i liniaru asthma yn ormodol a bod cydbwysedd gwaeth rhwng eu defnydd o feddyginiaethau i atal asthma a meddyginiaethau i liniaru asthma, sy'n golygu eu bod yn fwy tebygol o gael pyliau ataliadwy o asthma ac o farw. Mae'r astudiaeth hon yn dangos bod angen nodi ffyrdd o wella canlyniadau asthma yn achos pobl o gymunedau difreintiedig, a hynny ar frys.”

Gwnaeth yr astudiaeth hon ystyried mwy na 100,000 o bobl a gafodd driniaeth am asthma ledled Cymru dros bum mlynedd. Gwnaeth yr awduron ymchwilio i ddata am ofal sylfaenol a gofal eilaidd ym manc data SAIL yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, sy'n cynnwys 100% o'r data am ofal eilaidd ac 80% o'r data am ofal sylfaenol ar gyfer poblogaeth Cymru. Mae banc data SAIL hefyd yn dal data BREATHE – Health Data Research Hub for Respiratory Health – am y DU.

Meddai'r Athro Ronan Lyons, arweinydd Ymchwil Iechyd Cyhoeddus y sefydliad Health Data Research:

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos manteision amgylcheddau ymchwil y gellir ymddiried ynddynt, megis banc data SAIL, wrth hwyluso ymchwil sy'n newid bywydau yn ogystal â diogelu preifatrwydd data cleifion.”

Defnyddiodd yr awduron fanc data SAIL i gysylltu data am y cyfnod rhwng 2013 a 2017 er mwyn ymchwilio i'r cysylltiad rhwng data am ofal meddygon teulu, derbyniadau brys i'r ysbyty, presgripsiynau a marwolaethau o asthma, ynghyd â mesuriadau daearyddol ac economaidd-gymdeithasol ar gyfer ardaloedd difreintiedig.

Meddai'r Athro Sarah Rodgers, arweinydd Gwybodeg Iechyd a Gofal yn ARC NWC:

“Mae'r astudiaeth hon yn dangos pwysigrwydd grymuso cleifion i fynd ati i reoli eu cyflyrau iechyd. Mae angen i ni weithio gyda phobl mewn cymunedau difreintiedig er mwyn deall y ffordd orau o'u helpu i gael gafael ar driniaethau i atal asthma.”

 

Rhannu'r stori