BEHA Faradair

Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau eu perthynas â Faradair Aerospace, a fydd yn ailgyflwyno maes cynhyrchu awyrennau ar raddfa fawr yn y DU, gyda chynlluniau i gynhyrchu 300 o awyrennau cynaliadwy wedi'u dylunio ym Mhrydain erbyn 2030.

Cyhoeddodd y busnes, a sefydlwyd yn y DU dan arweiniad yr entrepreneur hedfanaeth Neil Cloughley, yn ddiweddar ei fod wedi denu consortiwm cryf o bartneriaid er mwyn ei helpu i gynhyrchu 300 o'i awyrennau hybrid trydan byw (BEHA) newydd erbyn 2030, gan gyflwyno, a hynny'n fyd-eang, symudedd awyr rhanbarthol a theithiau arbennig.

Yn unol ag uchelgeisiau Llywodraeth y DU i sicrhau cludiant awyr cynaliadwy, bydd y BEHA, sydd wedi'i dylunio ym Mhrydain, yn cael ei hadeiladu ar ffurf trydan/tyrbin hybrid, ond gyda'r nod o'i datblygu'n awyren fasnachol sero-net hollol drydanol pan fydd technoleg cynhyrchu ynni'n darparu dwysedd pŵer ar y lefelau angenrheidiol i gynnal awyren amlbwrpas â 18 o seddi. Mae'r BEHA wedi'i dylunio'n benodol ar gyfer hediadau rhad, tawel ac ecogyfeillgar, gan ei galluogi i gyflwyno Symudedd Awyr fel Gwasanaeth (AMaaS) i bawb.

Y nod yw cyflwyno portffolio cychwynnol o 300 o'r awyrennau hyn dan berchnogaeth Faradair rhwng 2026 a 2030, yn y rhaglen prawf o gysyniad symudedd awyr fwyaf erioed. O'r rhain, caiff 150 ohonynt eu hadeiladu at ddibenion ymladd tân, 75 ohonynt er mwyn newid yn gyflym o ddal teithwyr i gargo, i'w defnyddio mewn meysydd awyr cyffredinol yn fyd-eang, a 50 ohonynt i fod yn awyrennau cludo unswydd. Caiff yr awyrennau eraill eu defnyddio at ddibenion llywodraeth nad ydynt yn ymwneud â bywyd sifil, gan gynnwys materion logistaidd, goruchwylio ffiniau a physgodfeydd, ac atal cyffuriau.

Meddai Neil Cloughley, Prif Swyddog Gweithredol Faradair: “Rydym yn bwriadu defnyddio Campws y Bae Prifysgol Abertawe fel maes ymarfer ar gyfer peirianwyr ac interniaid. Byddwn yn datblygu ein technolegau newydd i'w defnyddio ar y BEHA yma, felly ein bwriad yw y bydd Abertawe yn bartner hirdymor yn y fenter hedfan hon o'r radd flaenaf ac, o ganlyniad i hynny, y bydd Cymru'n bartner hirdymor yn llwyddiant y BEHA. Ein bwriad yw y bydd 30 o beirianwyr yn gweithio ar ddatblygiadau'r BEHA ar Gampws y Bae erbyn diwedd 2021, gan gynnwys cyfleoedd i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig.”

Mae trafodaethau'n mynd rhagddynt yn gyflym â buddsoddwyr a sefydliadau ariannu awyrennau er mwyn datblygu rhaglen lawn a chynyddu a chyflawni'r amcanion targed. Yn y cyfamser, mae Faradair yn rhoi ei dîm gweithredol a pheirianneg at ei gilydd, ac yn disgwyl gwneud rhagor o gyhoeddiadau yn gynnar yn 2021.

Meddai Dr Ben Evans, Athro Cysylltiol mewn Peirianneg Awyrofod ym Mhrifysgol Abertawe: “Mae'r bartneriaeth a sefydlwyd gennym, gan gynnig cymorth dylunio aerodynamig i Faradair ar y BEHA, yn gyfle cyffrous i Brifysgol Abertawe. Bydd yn ein galluogi i ddefnyddio ein prosesau modelu aerodynamig o'r radd flaenaf, ein technegau cyfrifiadura perfformiad uchel a'n technolegau optimeiddio dylunio ar awyren a allai drawsnewid byd hedfan sifil.

“Bydd y BEHA yn awyren lân a thawel ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain a allai gael effaith sylweddol ar y broses o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o faes hedfanaeth, yn ogystal â chysylltu meysydd awyr rhanbarthol llai ledled y DU a'r tu hwnt. Bydd hefyd yn rhoi cyfle gwych i fyfyrwyr Prifysgol Abertawe weithio ochr yn ochr â chwmni arloesol ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth gwych i raddedigion.”

Rhannu'r stori