Gwnaeth y Grŵp Meddyginiaethau Traddodiadol ddarganfod bod y pridd a ddefnyddid mewn meddyginiaethau gwerin hynafol yn sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh yn cynnwys sawl rhywogaeth o'r organebau hyn sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau

Gwnaeth y Grŵp Meddyginiaethau Traddodiadol ddarganfod bod y pridd a ddefnyddid mewn meddyginiaethau gwerin hynafol yn sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh yn cynnwys sawl rhywogaeth o'r organebau hyn sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau

Mae'r gwyddonwyr a dynnodd sylw at nodweddion trechu heintiau bacteria yn y pridd yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud darganfyddiad cyffrous arall yn yr ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd. 

Mae aelodau'r Grŵp Meddyginiaethau Traddodiadol, sef cydweithrediad rhyngwladol rhwng gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe, Brasil a Gogledd Iwerddon, wedi darganfod mwy o rywogaethau sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau ac maent yn credu eu bod wedi nodi mathau newydd o wrthfiotigau a allai achub bywydau o bosib.

Gallai archfygiau sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau ladd hyd at 1.3 miliwn o bobl yn Ewrop erbyn 2050 – yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, dyma “un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd, diogelwch bwyd a datblygu byd-eang heddiw”.

Mae'r ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd i drechu ymwrthedd amryfal wedi ysgogi ymchwilwyr i archwilio ffynonellau newydd, gan gynnwys meddyginiaethau gwerin, gan ganolbwyntio ar amgylcheddau lle ceir cynhyrchwyr gwrthfiotigau adnabyddus fel streptomysesau.

Gwnaeth y Grŵp Meddyginiaethau Traddodiadol ddarganfod bod y pridd a ddefnyddid mewn meddyginiaethau gwerin hynafol yn sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh yn cynnwys sawl rhywogaeth o'r organebau hyn sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau. Mae'r ardal hon yn cynnwys ogofau, corsydd a glaswelltiroedd alcalïaidd sy'n llawn gweddillion safleoedd byw neolithig.

Mae un o'r tîm ymchwil, Dr Gerry Quinn, a oedd yn arfer byw yn Boho yn Sir Fermanagh, wedi bod yn ymwybodol o draddodiadau iacháu'r ardal ers blynyddoedd lawer. Sawl blwyddyn yn ôl, drwy ddadansoddi'r tir yno, gwnaeth aelodau'r tîm ddarganfod hil newydd o facteria a oedd yn effeithiol yn erbyn pedwar o'r chwe arch-fyg mawr a geir mewn ysbytai sy'n gallu gwrthsefyll gwrthfiotigau, gan gynnwys MRSA.

Ers hynny, mae eu gwaith ymchwil wedi parhau ond, oherwydd teimladau crefyddol pobl leol a natur gyfyng y safle gwreiddiol, gwnaeth y grŵp ddechrau chwilio mewn rhan arall o sgarpdiroedd Gorllewin Fermanagh a oedd wedi cadw natur alcalïaidd hanfodol y glaswelltiroedd yn ogystal â chysylltiad â meddyginiaethau gwerin traddodiadol.

Meddai Dr Paul Facey, un o'r prif ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe: “Gan fod meddyginiaethau traddodiadol yn rhan o lawer o chwedlau gwerin lleol, roeddem yn credu ei bod hi'n ddigon posib y gallem ddod o hyd i organebau sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau cryf mewn lleoliadau eraill yn y bryniau calch hyn.”

Gwelodd aelodau'r grŵp fod eu darganfyddiad diweddaraf yn gallu dangos amrywiaeth ehangach byth o weithgarwch gwrthficrobaidd na'u darganfyddiad blaenorol.

Mae canlyniadau'r astudiaeth hon bellach wedi cael eu cyhoeddi ar lwyfan MDPI Applied Microbiology ac mae'r dilyniant DNA yn cael ei gadw yng nghasgliad cenedlaethol America.

Mae profion gwrthfiotig gan Dr Quinn, Simms Adu, o Brifysgol Ulster, a Nada Alharbi, o Brifysgol Abertawe, yn datgelu bod Streptomyces sp. CJ13 yn atal twf organebau ag ymwrthedd amryfal megis:

  • Pseudomonas aeruginosa gram-negyddol, pathogen bachog cyffredin sy'n gysylltiedig â heintiau cronig yr ysgyfaint mewn cleifion sy'n dioddef o ffibrosis systig;
  • MRSA, pathogen bachog cyffredin sydd yn aml yn gallu gwrthsefyll llawer o wrthfiotigau;
  • Bacteria anaerobig, a geir fel arfer mewn clwyfau dwfn ac sy'n achosi heintiau difrifol;
  • Candida, rhywogaeth o furum a ddiystyrir yn aml mewn heintiau bacteriol cymysg.

Nid yw'r grŵp wedi nodi'r cyfansoddion cemegol sy'n gyfrifol am y gweithgarwch gwrthfiotig eto, ond mae gwaith dadansoddi cychwynnol yn awgrymu bod tebygrwydd genetig i enynnau hysbys eraill sy'n cynhyrchu gwrthfiotigau.

Er nad yw'r genynnau gwrthfiotig a geir mewn Streptomyces sp. CJ13 yn union yr un peth â phatrymlun sylweddau gwrthficrobaidd, mae'n bosib bod y rhain yn fathau newydd o wrthfiotigau ac mae hynny'n destun diddordeb.

O ystyried cyfraniadau sylweddol streptomysesau at feysydd therapïau gwrthfirol a chanser, ychwanegodd aelod arall o'r tîm, Hamid Bakshi: “Rydym yn hyderus y gallai ein darganfyddiad diweddaraf arwain at lawer o ddarganfyddiadau diddorol eraill.”

Tîm ymchwil/awduron: Gerry Quinn, Alyaa Abdelhameed, Nada Alharbi, Diego Cobice, Simms Adu, Martin Swain, Helena Carla Castro, Paul Facey, Hamid Bakshi, Murtaza Tambuwala ac Ibrahim Banat.

 

Rhannu'r stori