myfyrwyr yn edrych at y mor

Nawr bod eich cyfnod arholiadau wedi dod i ben mae hi’n amser ymlacio ac i fwynhau eich haf. Serch hyn, os yw diwrnod canlyniadau agosáu, mae’n bosib y byddech chi’n teimlo’n bryderus am eich canlyniadau a’ch lle ym Mhrifysgol Abertawe.

Ar ddiwrnod canlyniadau, os ydych chi’n pryderu am eich canlyniadau neu’ch cynnig, galwch ni yma ar ein llinell clirio a chadarnhau ar 0808 175 3071 i drafod eich opsiynau.

Mae hi’n bwysig ymlacio ar ôl gyfnod o straen a phwysau, ac mae yna nifer o ffyrdd y gallech chi reoli’ch lefelau straen. Sicrhewch eich bod chi’n cymryd amser i wneud un peth i dy hun pob diwrnod; gall hwn fod treulio amser y tu-allan yn yr awyr iach, mynd am dro gyda ffrindiau, teulu neu anifail, gwneud ymarfer corf neu wneud rhai o’ch hoff hobïau.

Gall technoleg ymddwyn fel ffrind neu’r gelyn yn y frwydr yn erbyn straen a phryder; gall ffrwd gyson o gynnwys newydd fod yn gor-cynhyrfiol a gwneud i chi teimlo nad yw eich haf mor gyffrous â haf phobl eraill. Gall cymryd seibiant o gyfryngau cymdeithasol rhoi amser i’ch meddwl troi bant gan sicrhau bod gyda chi amser i ffocysu ar yr hyn sy’n bwysig i chi.

myfyrwyr yn gwneud ymarfer corff

Serch hyn, mae’n bosib y gall technoleg hefyd bod yn ddefnyddiol wrth frwydro yn erbyn straen a phryder. Mae yna nifer o apps ar gael i sicrhau eich bod chi wedi ymlacio ac i helpu chi i gysgu.