Yr Ysgol Feddygaeth A Hywel Dda

Mae gan yr Ysgol Feddygaeth gysylltiadau cryf â’i bwrdd iechyd lleol sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. 

Mae Hywel Dda yn darparu gwasanaethau gofal iechyd i boblogaeth o tua 384,000 ar draws Sir Gâr (183,936), Ceredigion (79,488), a Sir Benfro (120,576). Mae'n darparu gwasanaethau Aciwt, Sylfaenol, Cymunedol, Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu trwy Ysbytai Cyffredinol a Chymunedol, Canolfannau Iechyd, Meddygon Teulu, Deintyddion, Fferyllwyr ac Optometryddion a safleoedd eraill.  

Mae'r Bwrdd Iechyd yn Fwrdd Iechyd Prifysgol ac felly ceir lefel ardderchog o weithio mewn partneriaeth a chydweithredu rhwng Prifysgol Abertawe a'r bwrdd iechyd, cydweithio yn bennaf i wella gofal cleifion a hefyd helpu i fynd i'r afael â'r heriau o ran cynnal y gweithlu meddygol yng Nghymru.

Hyfforddi Meddygon ar gyfer Canolbarth  a Gorllewin Cymru

Yn dilyn ehangu nifer y lleoedd yn yr Ysgol Feddygaeth yng Nghymru ym mis Gorffennaf 2018, erbyn hyn mae'r Ysgol Feddygaeth yn gweithio gyda Hywel Dda i gynyddu nifer y cyfleoedd yng nghanolbarth ac yng ngorllewin Cymru. Bydd myfyrwyr meddygaeth yn cyflawni cymaint o'u hastudiaethau â phosib mewn lleoliadau cymunedol i adlewyrchu polisi Llywodraeth Cymru y dylai gofal gael ei ddarparu mor agos at gartrefi cleifion â phosib. Bydd y cynnydd yn nifer y lleoedd hefyd yn cefnogi'r gwaith o ehangu mynediad at feddygaeth a lefelau cynyddol o amrywiaeth yn y proffesiwn meddygol ynghyd â mynd i'r afael â gofynion iechyd y boblogaeth leol.