Am Arch a Phrifysgol Abertawe

Mae ARCH yn bartneriaeth rhanbarthol sy'n cynnwys Prifysgol Abertawe, Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Mae partneriaid ARCH yn gweithio i wella iechyd, cyfoeth a lles pobl yn ne-orllewin Cymru.  

Mae'r Ysgol Feddygaeth, ynghyd â chydweithwyr yn yr Ysgol Iechyd a Gofal Cymdeithasol a'r Ysgol Reolaeth, yn gweithio gyda'n byrddau iechyd prifysgol i greu:

  • System gofal iechyd sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain
  • Ysgogi buddsoddiad a chreu swyddi i roi hwb i economi de-orllewin Cymru
  • Uwchsgilio'r genhedlaeth nesaf o glinigwyr, ymchwilwyr, academyddion, arloeswyr ac arweinwyr

Beth yw ARCH?

Partneriaeth Weledigaethol Sy'n Arwain Arloesedd ym Maes Gofal Iechyd

Mae'r Bartneriaeth ARCH weledigaethol eisoes wedi dechrau datblygu arloesedd blaengar ym maes gofal iechyd a fydd o fudd i'r boblogaeth gyfan yn rhanbarth de-orllewin Cymru. Diben ARCH yw moderneiddio ein system gofal iechyd, mae'n rhaid cofio y cafodd ei sefydlu 70 mlynedd yn ôl.  Mae hyn yn ein galluogi i ddiwallu yn well ofynion ein poblogaeth bresennol sydd erbyn hyn yn byw mewn byd gwahanol iawn.

Mae'r Ysgol Feddygaeth yn helpu i ddod a diwydiant, arloesedd ac ymchwil academaidd ynghyd â phob sector iechyd. Mae'r Ysgol hefyd yn defnyddio technoleg a Data Mawr i gyflenwi gwasanaethau arloesol a thechnolegau a thriniaethau newydd yn ogystal â chreu amgylchedd dysgu a hyfforddi aml-broffesiwn i hyfforddi, recriwtio a chadw'r ddawn orau i helpu ein GIG i ffynnu am 70 o flynyddoedd eraill.