Trosolwg o'r Cwrs
Drwy astudio am ein gradd BSc Cymdeithaseg a Seicoleg, byddwch yn cael hyfforddiant gwyddonol arbenigol yn y berthynas rhwng y meddwl, yr ymennydd ac ymddygiad, ynghyd â'r sylfaen ddamcaniaethol hanfodol i ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol.
Byddwch yn astudio’r prosesau seicolegol a niwrowyddonol sy’n sail i weithgareddau megis meddwl, rhesymu, cof ac iaith; yn dysgu am ganlyniadau anafiadau i’r ymennydd; ac yn archwilio ffyrdd o wella ymddygiad sy’n gysylltiedig ag iechyd. Byddwch yn dysgu am ymddygiad pobl fel bodau cymdeithasol yn ogystal â'r ffactorau cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac economaidd ehangach sy'n strwythuro cymdeithas.
Byddwch yn dysgu sut i greu gwybodaeth newydd gan ddefnyddio amrywiaeth o offer ymchwil gymdeithasol ansoddol a meintiol, o arolygon cymdeithasol mawr a ddehonglir drwy ystadegau, i gyfweliadau manwl ag unigolion a grwpiau bach.
Drwy gydol y cwrs, byddwch yn datblygu sgiliau rhagorol mewn perthynas ag ymchwil, cyfathrebu, dadansoddi beirniadol a chyflwyno.