Computer Science with Cyber Security and Artificial Intelligence (Top-Up), BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Myfyrwyr mewn labordy cyfrifiadurol

Trosolwg o'r Cwrs

Mae'r BSc (Anrh.) Cyfrifiadureg gyda Seiberddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial (Gradd Atodol) yn rhaglen ddwys blwyddyn o hyd sydd wedi'i llunio ar gyfer myfyrwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 5 perthnasol ac sydd am raddio gyda gradd anrhydedd.

Drwy gwricwlwm eang sydd wedi'i lunio'n ofalus ac sy'n cydbwyso damcaniaeth â chymhwysiad ymarferol, byddwch chi'n meithrin dealltwriaeth uwch o gyfrifiadureg fodern, gan gynnwys cyfrifiadura diogel a chritigol, datblygu meddalwedd a dylunio sy'n canolbwyntio ar ddefnyddwyr.

Byddwch chi'n archwilio'r egwyddorion sydd wrth wraidd systemau diogel a dibynadwy, yr algorithmau sy'n pweru Deallusrwydd Artiffisial modern a'r technegau angenrheidiol ar gyfer dylunio, adeiladu a gwerthuso meddalwedd ansawdd uchel ar draws llawer o blatfformau. Mae'r ymagwedd strwythuredig hon yn sicrhau eich bod chi'n datblygu'r wybodaeth ddofn ac eang a'r annibyniaeth ddeallusol y'u disgwylir gan gyfrifiadurwr lefel anrhydedd.

Bydd graddedigion o'r rhaglen yn meddu ar radd Gyfrifiadureg gynhwysfawr, gyfoes a phroffesiynol berthnasol, a byddant yn barod i gyfrannu at y diwydiant, neu symud ymlaen i astudiaethau uwch. Mae'r pwyslais ar ddiogelwch ac ansawdd meddalwedd yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer rolau mewn sectorau lle mae dibynadwyedd ac ymddiriedaeth yn hanfodol, gan gynnwys cyllid, gofal iechyd, amddiffyn ac isadeiledd digidol ar raddfa fawr.

Pam Computer Science with Cyber Security and Artificial Intelligence (Top-Up) yn Abertawe?

Wedi'ch lleoli yn adeilad gwerth £32.5 miliwn, Y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae Abertawe, byddwch yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf ac yn integreiddio cyfrifiadura a chynnwys diogelwch arloesol, yn ogystal â meithrin cysylltiadau cryf â phartneriaid yn y diwydiant gan gynnwys y BCS (Y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG) a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Mae Cyfrifiadureg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 17eg safle yn y DU (Daily Mail University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Yn y 150 Uchaf (Rhestr Shanghai (Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd) - Safleoedd yn ôl Pwnc 2024)

Eich Profiad Computer Science with Cyber Security and Artificial Intelligence (Top-Up)

Drwy gydol y rhaglen un flwyddyn hon, byddwch chi'n astudio amrywiaeth o bynciau hanfodol sy'n berthnasol i fyd diwydiant, gan ddatblygu dealltwriaeth uwch o feysydd cyfoes cyfrifiadura, ynghyd â heriau byd-eang y sector, gan gynnwys defnyddio technoleg cyfrifiadura'n foesegol ac yn fyd-eang a chynaliadwyedd amgylcheddol, yn enwedig o ran yr ynni y mae systemau cyfrifiadura'n ei ddefnyddio.

Mae Deallusrwydd Artiffisial yn llinyn canolog y rhaglen, gan gynnwys astudio modelu a yrrir gan ddata, algorithmau rhagfynegol a phrosesu data ar raddfa fawr, ynghyd ag archwilio ymagweddau a ysgogir yn fiolegol at gyfrifiadura deallus, gan ddyfnhau eich dealltwriaeth o sut mae systemau deallus yn cael eu dylunio a'u gwerthuso.

Drwy astudio cryptograffi a diogelwch TG, byddwch chi'n archwilio sylfeini mathemategol ac ymarferol cyfathrebu diogel, diogelu data a seiberddiogelwch.

Drwy gydol y cwrs, byddwch chi hefyd yn ennill profiad ymarferol sylweddol o ddatblygu cymwysiadau'r we a chymwysiadau dyfeisiau symudol a dylunio systemau mewnblanedig, a bydd hyn yn rhoi sgiliau i chi adeiladu meddalwedd ar draws amgylcheddau amrywiol, gan gynnwys platfformau gwe rhyngweithiol a systemau sydd wedi'u cyfyngu gan galedwedd.

Bydd eich astudiaethau hefyd yn ystyried egwyddorion dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl a'r gallu i sicrhau ansawdd meddalwedd drwy arferion gwirio, dilysu a sicrhau ansawdd peirianneg systematig.

Mae ein rhaglen yn eich herio chi i feddwl yn feirniadol, gweithio'n annibynnol ac ymdrin â deunyddiau technegol cymhleth, gan ddatblygu sgiliau dadansoddi a datrys problemau uwch, meithrin dealltwriaeth o gyfrifiadura diogel a dibynadwy, ennill profiad o dechnolegau Deallusrwydd Artiffisial a thechnolegau a yrrir gan ddata, ynghyd â meithrin y gallu i werthuso ansawdd meddalwedd a'r effaith ar ddefnyddwyr.

Cyfleoedd Cyflogaeth Computer Science with Cyber Security and Artificial Intelligence (Top-Up)

Ar ôl i chi gwblhau'r rhaglen, byddwch chi'n barod am yrfaoedd ar draws yr economi ddigidol fodern, ac mae'r cyfuniad o gymhwyster ym meysydd Deallusrwydd Artiffisial, diogelwch, peirianneg systemau a datblygu gan ganolbwyntio ar ddefnyddwyr yn cyd-weddu'n gryf â'r galw yn y diwydiant ym meysydd megis gofal iechyd, cyllid, amddiffyn ac isadeiledd digidol ar raddfa fawr.

Mae llwybrau gyrfa posib yn cynnwys:

  • Peiriannydd Meddalwedd neu Ddatblygwr Stac Cyflawn
  • Peiriannydd Dysgu Peirianyddol neu Ddeallusrwydd Artiffisial
  • Dadansoddwr Seiberddiogelwch
  • Peiriannydd Data neu Ddadansoddwr Data
  • Datblygwr Systemau Mewnblanedig
  • Peiriannydd Systemau neu Sicrhau Ansawdd
  • Datblygwr sy'n canolbwyntio ar Brofiad Defnyddwyr

Mae cyfuniad ein gradd atodol o sylfeini mathemategol, datblygu cymwys a thechnolegau sy'n ymddangos hefyd yn sicrhau eich bod chi'n meddu ar y sgiliau angenrheidiol i ymgymryd ag ymchwil ôl-raddedig ac astudiaethau arbenigol mewn meysydd megis Deallusrwydd Artiffisial, Gwyddor Data, Seiberddiogelwch, Peirianneg Meddalwedd Uwch a Chyfrifiafureg ehangach. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Computer Science with Cyber Security and Artificial Intelligence (Top-Up), BSc (Anrh)