Computer Science and Cyber Security, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Graffeg yn dangos clo digidol

Trosolwg o'r Cwrs

Mewn ymateb i'r galw byd-eang cynyddol am weithwyr proffesiynol sydd ag arbenigedd mewn hanfodion cyfrifiadura a seiberddiogelwch, mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu ein BSc mewn Cyfrifiadureg a Seiberddiogelwch.

Byddwch yn meithrin dealltwriaeth drylwyr o gysyniadau craidd cyfrifiadureg megis rhaglennu, peirianneg meddalwedd, saernïaeth systemau a rheoli data, gydag egwyddorion seiberddiogelwch wedi'u hymgorffori yn y cwricwlwm, gan adlewyrchu'r realiti na ellir trin diogelwch fel ôl-ystyriaeth ond bod yn rhaid ei ystyried ym mhob cam o ddylunio a gweithredu systemau.

Gyda'r galw am arbenigwyr seiberddiogelwch ar gynnydd yn fyd-eang, gallwch fod yn sicr y byddwch yn gorffen eich astudiaethau â rhagolygon cryf am yrfa ar lefel raddedig. Gallwch deilwra'ch gradd i'ch uchelgeisiau gyda'r opsiynau Blwyddyn mewn Diwydiant a Blwyddyn Dramor sydd ar gael.

Pam Computer Science and Cyber Security yn Abertawe?

Gan astudio yn adeilad gwerth £32.5 miliwn, Y Ffowndri Gyfrifiadol ar Gampws y Bae Abertawe, byddwch yn elwa o gyfleusterau o'r radd flaenaf a chyfuniad o gynnwys cyfrifiadura a diogelwch arloesol, yn ogystal â meithrin cysylltiadau cryf â phartneriaid yn y diwydiant gan gynnwys y BCS (y Sefydliad Siartredig ar gyfer TG) a'r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Mae Cyfrifiadureg yn Abertawe wedi'i rhestru:

  • Yn y 17eg safle yn y DU (Daily Mail University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Yn y 150 Uchaf (Rhestr Shanghai (Rhestr Academaidd o Brifysgolion y Byd) - Safleoedd yn ôl Pwnc 2024)

Eich Profiad Computer Science and Cyber Security

Gyda chwricwlwm addysgu wedi'i lywio gan y diwydiant, a staff sy'n arbenigwyr yn eu meysydd, o arbenigwyr seiberddiogelwch blaenllaw yn y byd, i ddatblygwyr gemau sydd wedi'u henwebu am wobr BAFTA ac ymchwilwyr sy’n cydweithio ag Airbus, Microsoft, HSBC a Siemens, gallwch fod yn sicr bod eich profiad dysgu yn adlewyrchu datblygiadau a heriau'r byd go iawn.

Byddwch yn dysgu mewn labordai o'r radd flaenaf yn ein Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5m a byddwch yn cael cyfleoedd i gydweithio â'ch cyfoedion ac arddangos eich gwaith i'r diwydiant yn ein Ffair Brosiectau flynyddol, gan adeiladu portffolio o waith a fydd yn dangos eich sgiliau a'ch profiad uwch i ddarpar gyflogwyr.

Mae'r cwrs hwn yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn ym myd Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i ennill profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Bydd gennych gyfle hefyd i astudio dramor am flwyddyn, , gan wella'ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Cyfleoedd Cyflogaeth Computer Science and Cyber Security

Bydd gennych y sgiliau a'r profiad i ymuno'n hyderus â'r sector seiberddiogelwch sy'n ehangu'n gyflym, gan fynd i'r afael â'r prinder sgiliau sylweddol mewn rolau sy'n gofyn am arbenigedd mewn datblygu meddalwedd a diogelwch.

Gallai rolau yn y dyfodol gynnwys:

  • Datblygu Meddalwedd
  • Profion Hacio
  • Dadansoddiad Diogelwch
  • Llywodraethu Seiber, Risg a Chydymffurfiaeth
  • Gwyddor Fforensig Ddigidol

Mae ein BSc hefyd yn darparu sylfaen gref ar gyfer astudiaethau uwch, gan gynnwys graddau MSc Seiberddiogelwch ac ymchwil Prifysgol Abertawe. 

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.