Trosolwg o'r Cwrs
Pam y mae Technoleg Ddigidol a Chyfrifiadura wedi ei dylunio fel y mae? Pwy sy'n ei dylunio ac ar gyfer pwy? Yn Abertawe, byddwch chi'n dysgu sut i godio a llawer mwy. Byddwn yn eich grymuso i greu ac arloesi i ddatrys problemau byd go iawn. O'r diwrnod cyntaf, byddwch chi'n adeiladu meddalwedd, yn archwilio technolegau newydd, ac yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Byddwch chi'n ymchwilio i feysydd galw mawr fel deallusrwydd artiffisial (AI), seiberddiogelwch, gwyddor data, peirianneg meddalwedd, a datblygu apiau symudol. Dydyn ni ddim yn rhestru offer ac ieithoedd penodol yma, oherwydd ein bod yn diweddaru ein cwricwlwm yn gyson i gyd-fynd â'r hyn sydd ei angen ar y diwydiant pan fyddwch chi'n graddio, nid yr hyn roedd ei angen pan ddechreuoch chi.
Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan fewnbwn y diwydiant a'i gyflwyno gan arbenigwyr sy'n gweithio ar y rheng flaen. O ddatblygwyr gemau a enwebwyd am wobr BAFTA i arbenigwyr seiberddiogelwch blaenllaw yn y byd ac ymchwilwyr sy'n cydweithio ag Airbus, Microsoft, HSBC, a Siemens – mae eich darlithwyr yn rhagori mewn theori ac yn gwneud gwahaniaeth yn ymarferol.
Byddwch yn dysgu mewn labordai o'r radd flaenaf, yn cydweithio â'ch cyd-fyfyrwyr, ac yn arddangos eich gwaith i gyflogwyr yn ein Ffair Prosiectau flynyddol. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn creu systemau cwmwl, dylunio apiau hygyrch, archwilio technolegau’r Rhyngrwyd Pethau neu ddatblygu technolegau nad ydynt wedi'u dyfeisio eto, byddwch yn graddio â phortffolio sy'n arddangos eich sgiliau - ac sy’n rhoi'r hyder i chi eu defnyddio.