Peirianneg Meddalwedd, BSc (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Prism

Trosolwg o'r Cwrs

Drwy gydol ein cwrs BSc Peirianneg Meddalwedd (Anrh.), byddwch yn dysgu llawer mwy na sut i godio. O ddechrau eich astudiaethau, byddwch yn dysgu sut i ddechrau adeiladu meddalwedd, arbrofi gyda thechnolegau newydd, a datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf mewn diwydiannau modern.  

Byddwch yn dysgu sut i ddylunio a chyflwyno atebion arloesol i broblemau'r byd go‑ iawn, wrth archwilio meysydd galw mawr ‑fel deallusrwydd artiffisial (AI), seiberddiogelwch, gwyddor data, peirianneg feddalwedd, a datblygu apiau symudol. 

Mae ein rhaglen wedi'i ddatblygu gan ddefnyddio mewnbwn gan fyd diwydiant a chaiff ei chyflwyno gan arbenigwyr sy'n gweithio ar flaen y gad yn eu meysydd. Mae eich darlithwyr yn cynnwys datblygwyr gemau a enwebwyd am wobrau BAFTA‑, arbenigwyr seiberddiogelwch blaenllaw, ac ymchwilwyr sy'n cydweithio â sefydliadau fel Airbus, Microsoft, HSBC, a Siemens. Drwy gydol y cwrs byddwch yn dysgu mewn labordai ‑o'r radd‑ flaenaf, ‑yn gweithio ochr yn ochr â'ch cyfoedion ar brosiectau ymarferol, ac yn cyflwyno'ch gwaith i bartneriaid ym myd diwydiant yn ein Ffair Brosiectau flynyddol. 

P'un a oes gennych ddiddordeb mewn adeiladu systemau cwmwl‑, datblygu apiau hygyrch, archwilio technolegau Rhyngrwyd Pethau (IoT), neu greu meddalwedd nad yw'n bodoli eto, byddwch yn graddio gyda phortffolio cryf sy'n arddangos eich galluoedd, a'r hyder i'w rhoi ar waith yn y gweithle.

Pam Peirianneg Meddalwedd yn Abertawe?

  • Ymunwch â ni yn ein cartref yn y Ffowndri Gyfrifiadurol a dysgwch yn ei labordai arloesol 
  • Achrediad gan Gymdeithas Cyfrifiadura Prydain (BCS): Mae hyn yn golygu bod eich gradd yn bodloni safonau proffesiynol uchel y DU ac yn cefnogi eich cynnydd tuag at statws Siartredig. 
  • Dysgwch gan arbenigwyr a chysylltwch â byd diwydiant drwy ddarlithoedd a digwyddiadau gwadd 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Mae gofynion mynediad yna i roi arweiniad i chi, nid i fod yn rhwystr, a bydd ein cynnig wedi cael ei deilwra ar eich cyfer chi a beth rydym yn meddwl y medrwch chi ei gyflawni.

Rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid wrth i chi fynd drwy'r siwrnai. Gallwch siarad â ni am eich cynnig ar unrhyw gyfnod a byddwn yn gwneud yn siŵr ei fod yn gynnig y medrwch chi ei gyflawni.

Eich Profiad Peirianneg Meddalwedd

Fel myfyriwr Peirianneg Meddalwedd yn Abertawe, byddwch yn mwynhau profiad dysgu hyblyg a chefnogol sydd wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu eich sgiliau fel rhaglennwr, datryswr problemau‑ ac arloeswr. 

Mae ein cwrs BSc Peirianneg Meddalwedd (Anrh.) yn cynnig y canlynol: 

  • Mae ein Ffowndri Gyfrifiadol gwerth £32.5 miliwn yn caniatáu mynediad at gyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cynnwys Labordy Gweledigaeth a Biometrig, Labordy Gwneuthurwyr, Labordy Damcaniaeth, Labordy Seiberddiogelwch/Rhwydweithio, Labordy Defnyddwyr, ac Ystafell Ddelweddu. 
  • Setiau offer, dyfeisiau a phrototeipiau arbrofol o'r radd flaenaf yn y byd i gyflymu arloesedd. Bydd cyfle i chi ddysgu am y cyfleusterau hyn a gweithio gyda nhw. 

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Ar ôl graddio o Abertawe gyda gradd Peirianneg Meddalwedd, byddwch chi mewn sefyllfa wych i sicrhau cyflogaeth foddhaus mewn unrhyw sefydliad dymunol. Gallai eich cam nesaf fod yn unrhyw un o'r rolau canlynol: 

  • Datblygwr Dadansoddi 
  • Dadansoddwr Busnes 
  • Rhaglennydd Cyfrifiadurol:  
  • Peiriannydd Electronig 
  • Dylunydd Graffeg 
  • Datblygwr Meddalwedd a Pheiriannydd Dysgu Peirianyddol 

Rydym hefyd yn cynnal 'Ffair Brosiectau' flynyddol sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu prosiectau trydedd blwyddyn i arbenigwyr blaenllaw ym myd diwydiant. Mae cwmnïau fel Google yn aml yn ymweld â'n myfyrwyr i roi darlithoedd ar 'sut i gael swydd gyda chewri technoleg'. 

Peirianneg Meddalwedd, BSc (Anrh)

Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Peirianneg Meddalwedd gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)