Cyfrifiadureg, BSc (Anrh) / MSci (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
person yn defnyddio teclun rhith-realiti

Gyda chyfleusterau o safon fyd-eang yn ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddi, arbenigwyr o fyd diwydiant a chysylltiadau cryf â sefydliadau technoleg mawr, bydd Cyfrifiadureg yn Abertawe yn eich datblygu i fod yn fyfyriwr graddedig hynod brofiadol a chyflogadwy.

Trosolwg o'r Cwrs

O'ch diwrnod cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, byddwch chi'n adeiladu meddalwedd, yn archwilio technolegau newydd ac yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.

Byddwch chi'n astudio am feysydd galw uchel megis deallusrwydd artiffisial, seiberddiogelwch, gwyddor data, peirianneg meddalwedd a datblygu apiau symudol. Nid ydym yn rhestru offer ac ieithoedd penodol yma oherwydd ein bod yn diweddaru ein cwricwlwm yn gyson er mwyn adlewyrchu gofynion y diwydiant pan fyddwch chi'n graddio, nid yr un roedd ei angen arno pan ddechreuoch chi eich gradd.

Mae ein cwricwlwm wedi'i lunio gan fyd diwydiant, ac mae'n cael ei gyflwyno gan arbenigwyr. O ddatblygwyr gemau sydd wedi cael eu henwebu am BAFTA i arbenigwyr ym maes seiberddiogelwch sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang, ac ymchwilwyr sy'n cydweithio ag Airbus, Microsoft, HSBC a Siemens - mae eich darlithwyr yn rhagori'n gyfartal mewn damcaniaeth ac ymarfer.

Byddwch yn dysgu mewn labordai o'r radd flaenaf, yn cydweithio â'ch cyd-fyfyrwyr, ac yn arddangos eich gwaith i gyflogwyr yn ein Ffair Prosiectau flynyddol. P'un a oes gennych ddiddordeb mewn creu systemau cwmwl, dylunio apiau hygyrch, archwilio technolegau Rhyngrwyd Pethau (IoT) neu ddatblygu technolegau nad ydynt wedi'u creu eto, byddwch yn graddio gyda phortffolio sy'n arddangos eich sgiliau ac sy'n rhoi'r hyder i chi eu defnyddio.

Pam Cyfrifiadureg yn Abertawe?

  • Byddwch chi'n astudio yn y Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddi, a byddwch yn dysgu yn ein cyfleusterau sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang 
  • Mae'r rhaglen wedi'i hachredu gan Gymdeithas Cyfrifiadura Prydain, gan sicrhau bod eich dysgu'n bodloni'r safonau uchaf a ddisgwylir gan y diwydiant 
  • Byddwch chi'n dysgu gan arbenigwyr, ac yn cael eich cysylltu â’r diwydiant drwy ddarlithoedd gwadd a chalendr o ddigwyddiadau a gyflwynir gan gwmnïau mawr sy'n ymweld, sydd wedi cynnwys sefydliadau mawr fel Google yn y gorffennol 
  • Drwy gydol eich cwrs, byddwch chi'n archwilio technolegau sy'n dod i'r amlwg a diwydiannau sy'n datblygu mewn amser go iawn, gan sicrhau eich bod chi'n barod ar gyfer byd gwaith 

Eich Profiad Cyfrifiadureg

Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymfalchïo yn ein cyfleusterau. Mae ein Ffowndri Gyfrifiadol y buddsoddwyd £32.5 miliwn ynddi yn gartref i gyfleusterau addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf sy'n cynnwys 

  • Labordy Seiberddiogelwch a Rhwydweithio, lle rydym yn ymchwilio ac yn addysgu am ddiogelwch a gwendidau mewn rhwydweithiau a dyfeisiau Rhyngrwyd Pethau, 
  • Labordy Technolegau Rhyngweithio yn y Dyfodol (FIT Lab) lle rydym yn creu ac yn profi robotiaid a systemau rhyngweithiol, yn ogystal ag arddangos ein hymchwil ar ffurf realiti rhithwir a realiti estynedig, 
  • Dau Labordy Maker gyda thorwyr laser, sganwyr 3D ac argraffwyr 3D 
  • Labordy damcaniaeth, 
  • Dau labordy Profiad Defnyddwyr lle rydym yn edrych ar sut mae datblygiadau mewn technoleg yn effeithio ar gymunedau, yn gymdeithasol ac yn economaidd, mewn gwledydd llai datblygedig, 
  • Labordy Gweledigaeth a Biometrig lle gallwn gipio actorion mewn 3D, a 
  • Swît Delweddu lle gallwn edrych ar fodelau gweledol manwl iawn o ddata. 

Modiwlau

Rydym wedi gwella ein modiwlau i ddarparu profiad dysgu deniadol, wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddatblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Darganfyddwch beth sydd ar gael a chael eich hysbrydoli gan y modiwlau y gallwch eu hastudio.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd

Mae graddedigion ein gradd Cyfrifiadureg wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd fel: Datblygwyr Dadansoddwyr, Dadansoddwyr Busnes, Rhaglenwyr Cyfrifiadurol, Peirianwyr Electronig, Dylunwyr Graffig, Datblygwyr Meddalwedd a Pheirianwyr Dysgu Peirianyddol, gyda chwmnïau sy'n cynnwys IBM, Google, Disney, Facebook, Microsoft a Sony.

Rydym yn cynnal 'Ffair Brosiectau' flynyddol sy'n rhoi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu prosiectau trydedd flwyddyn i arbenigwyr blaenllaw ym myd diwydiant. Mae cwmnïau fel Google yn aml yn ymweld â'n myfyrwyr i roi darlithoedd ar 'sut i gael swydd gyda chewri technoleg'.

Cyfrifiadureg, BSc (Anrh)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Sylfaen, BSc (Anrh)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Dramor, BSc (Anrh)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)

Cyfrifiadureg, MSci (Anrh)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn Dramor, MSci (Anrh)

Cyfrifiadureg gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MSci (Anrh)