Ffiseg Ddamcaniaethol, BSc (Anrh) / MPhys (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Horsehead nebula

Trosolwg o'r Cwrs

Mae Ffiseg Ddamcaniaethol yn mynd i'r afael ag ystyr popeth drwy ddefnyddio iaith mathemateg i ddeall y bydysawd.

O wybodaeth gwantwm a damcaniaethau unedig mawreddog ffiseg gronynnau, i fater tywyll a chosmoleg, gall y pwnc hwn fynd â chi i unrhyw le.

Bydd ein gradd BSc tair blynedd mewn Ffiseg Ddamcaniaethol yn eich addysgu sut mae ffiseg sylfaenol a thechnegau mathemategol yn cael eu cymhwyso i ddeall datblygiadau mewn gwybodaeth gwantwm, cosmoleg, lled-ddargludyddion, laserau, ffiseg niwclear a gronynnau.

Byddwch yn archwilio'r cwestiynau mawr, fel sut dechreuodd y bydysawd, beth mae gofod ac amser wedi'u gwneud ohono, ac a yw'n bosibl ail-greu mewn labordy yr amodau a oedd yn bodoli eiliadau ar ôl y glec fawr?

Cewch gyfle i weithio ar brosiectau uwch, dan oruchwyliaeth ffisegwyr damcaniaethol a gydnabyddir yn rhyngwladol yn Abertawe.

Pam Ffiseg Ddamcaniaethol yn Abertawe?

Mae'r adran Ffiseg yn Abertawe yn adran uchel ei pharch ymhlith academyddion o fri rhyngwladol. 

Mae Ffiseg yn Abertawe yn y safleoedd canlynol mewn tablau cynghrair:

  • 6ed yn y DU am Foddhad Myfyrwyr (Ffiseg a Seryddiaeth Complete University Guide 2026)
  • Ymysg y 201-250 o raglenni gorau o'i bath yn y byd (Tabl Prifysgolion y Byd QS 2025)
  • Un o'r 20 rhaglen orau o'i bath yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026) 
  • Mae 97% o raddedigion Ffiseg yn gweithio, yn astudio a/neu'n ymgymryd â gweithgareddau eraill megis teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (Arolwg Hynt Graddedigion 2025)

Eich Profiad Ffiseg Ddamcaniaethol

Fel myfyriwr ffiseg yn Abertawe, byddwch yn ymuno â chymuned gyfeillgar, gefnogol a gweithgar. Mae llawer o fywyd myfyrwyr yn canolbwyntio ar y gofod cymdeithasol ac astudio a rennir o'r enw Event Horizon ar chweched llawr Tŵr Vivian. Mae'n lle poblogaidd i gwrdd â ffrindiau, cydweithio ar broblemau neu ymlacio. Cynhelir gweithgareddau cymdeithasol rheolaidd yma hefyd, gan gynnwys y sesiynau te a choffi wythnosol wedi'u trefnu gan y Gymdeithas Ffiseg (Physoc) a arweinir gan fyfyrwyr.

Bydd eich chwilfrydedd yn cael ei fwydo y tu mewn i'r ystafell ddosbarth a'r tu allan iddi. Drwy gydol y flwyddyn, gallwch gymryd rhan mewn seminarau, darlithoedd gwadd a theithiau i gyfleusterau ymchwil. Mae'r Adran yn croesawu siaradwyr o fri rhyngwladol yn rheolaidd, gan gynnwys enillwyr Gwobr Nobel, fel rhan o'r gyfres flynyddol o Ddarlithoedd Nodedig David Olive. Mae'r digwyddiadau hyn yn agored i'r holl fyfyrwyr ac maent yn cynnig cyfle gwerthfawr i glywed am ymchwil arloesol ac effaith ffiseg yn y byd go iawn.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn nheithiau'r Gymdeithas Ffiseg i ganolfannau ymchwil megis y Diamond Light Source a CERN. Mae'r profiadau hyn yn eich galluogi i weld ffiseg ar waith mewn cyfleusterau o'r radd flaenaf a gallant ysbrydoli syniadau am lwybr gyrfa posib.

I'ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol, caiff Tiwtor Personol ei neilltuo i chi ar ddechrau eich astudiaethau. Pryd bynnag y bo modd, bydd yr un tiwtor gennych chi drwy gydol eich gradd, gan eich galluogi i feithrin perthynas o ymddiriedaeth a chefnogaeth. Mae tiwtoriaid yn mabwysiadu ymagwedd fentora, gan eich helpu i bennu nodau, myfyrio ar eich cynnydd a dod o hyd i gymorth pan fydd ei angen arnoch chi. Byddwch chi'n cwrdd yn rheolaidd bob semester, ond mae tiwtoriaid hefyd yn gweithredu polisi drws agored, felly gallwch gysylltu â nhw unrhyw bryd os ydych chi'n wynebu heriau a allai effeithio ar eich astudiaethau.

Gyda'i gilydd, mae'r cyfleoedd hyn yn creu amgylchedd croesawgar ac ysgogol, lle gallwch dyfu'n academaidd, gwneud ffrindiau gydol oes a theimlo'n rhan o gymuned ffiseg fywiog.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Mae'r rhaglen hon ar gael hefyd fel MPhys 4 blynedd, sef gradd israddedig uwch, gan ychwanegu blwyddyn sy'n canolbwyntio ar ymchwil at eich gradd.   Mae ein rhaglen MPhys yn arwain at gymhwyster meistr, yn ogystal â'ch gradd israddedig, gan roi i chi hyfforddiant gwyddonol gan arbenigwyr a llwybr at amrywiaeth o yrfaoedd arbenigol.

Cyfleoedd Cyflogaeth Ffiseg Ddamcaniaethol

Drwy gydol eich gradd, byddwch yn datblygu'r sgiliau a'r hyder sy'n angenrheidiol i lwyddo mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae paratoi ar gyfer gyrfa yn elfen annatod o'r holl flynyddoedd astudio. Mae ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr yn rhoi cyfle i chi gwrdd â sefydliadau sy'n gwerthfawrogi'r set sgiliau a ddatblygir drwy radd ffiseg.

Gallwch hefyd fanteisio ar wasanaethau Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd y Brifysgol sy'n cynnig cyngor ar geisiadau, paratoi ar gyfer cyfweliadau a chwilio am swyddi. Mae gan yr Adran Hyrwyddwr Cyflogadwyedd sy'n rhannu gwybodaeth am yrfaoedd ac yn eich cefnogi drwy gydol eich astudiaethau. Mae ein digwyddiad Cyflogadwyedd Ffiseg blynyddol yn eich cysylltu â chyn-fyfyrwyr sy'n siarad am eu teithiau gyrfa a'r cyfleoedd niferus sydd ar gael i raddedigion ffiseg. 

Bydd eich prosiect ymchwil annibynnol yn y flwyddyn olaf yn eich helpu i ddatblygu sgiliau uwch mewn datrys problemau, cynllunio a chyfathrebu. Byddwch yn dysgu sut i reoli tasgau cymhleth, gweithio'n annibynnol a chyflwyno eich canfyddiadau'n glir, sgiliau a werthfawrogir yn fawr gan gyflogwyr mewn llawer o sectorau. Os ydych chi'n astudio ar y llwybr MPhys, efallai bydd gennych gyfle hefyd i weithio fel arddangoswr mewn dosbarthiadau labordy a gweithdy, gan gael profiad o fentora ac arweinyddiaeth.

Mae graddedigion ffiseg yn gweithio mewn amrywiaeth eang o yrfaoedd. Mae llawer yn gweithio mewn meysydd megis:

  • Technoleg Gwybodaeth
  • Gwyddor Data
  • Modelu Ariannol
  • Peirianneg
  • Datblygu Meddalwedd
  • Ffiseg Feddygol
  • Peirianneg Systemau
  • Ymchwil a Datblygu
  • Addysgu
  • Ymgynghori ar Reoli

Mae data o'r arolwg Hynt Graddedigion yn dangos bod graddedigion ffiseg yn ennill cyflogau cryf ar draws y sector. Mae rhai myfyrwyr yn dewis parhau â'u hastudiaethau, ac mae canran sylweddol o'r rhai hynny sy'n ymgymryd ag astudiaethau pellach yn mynd ymlaen i raglenni PhD.

P'un a ydych chi am gael gyrfa wyddonol, gweithio ym myd diwydiant neu archwilio cyfleoedd mewn busnes, cyllid neu dechnoleg, bydd y sgiliau byddwch yn eu datblygu ar y rhaglen hon yn eich paratoi ar gyfer dyfodol llwyddiannus a hyblyg.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Ffiseg Ddamcaniaethol, BSc (Anrh)

Ffiseg Ddamcaniaethol, MPhys (Anrh)

Ffiseg Ddamcaniaethol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, MPhys (Anrh)

Ffiseg Ddamcaniaethol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BSc (Anrh)