Daearyddiaeth Ddynol, BA (Anrh)

Darganfyddwch Abertawe yn ein Diwrnod Agored nesaf

Cadwch le heddiw
Cambodian dancers

Trosolwg o'r Cwrs

Dyma gyfle i gael addysg sydd ar flaen y gad wrth fynd i'r afael â heriau cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol allweddol a chael eich grymuso i wneud gwahaniaeth sylweddol yn y byd gyda’r BA Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Abertawe.

Bydd ein rhaglen yn rhoi dealltwriaeth eang i chi o ddaearyddiaeth, gan gynnwys y perthnasoedd daearyddol rhwng pobl, cymdeithasau, diwylliannau a'r amgylchedd. Byddwch yn archwilio pynciau fel daearyddiaeth ddiwylliannol, economaidd a gwleidyddol, daearyddiaethau trefol a gwledig, twristiaeth, dinasoedd y byd, mudo ac effaith newid hinsawdd ar gymunedau.

Mae'r radd BA Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe yn cyfuno sylfeini damcaniaethol cryf â phrofiad ystyrlon yn y byd go iawn. Byddwch yn dysgu mewn amrywiaeth o leoliadau, o waith dosbarth a labordy i astudio'n ymarferol yn y maes.

Ym Mhrifysgol Abertawe, gallwch drefnu eich profiad BA Daearyddiaeth Ddynol i gyd-fynd â'ch diddordebau chi. Wrth i chi symud drwy ein cwrs, byddwch yn darganfod cyfleoedd i arbenigo mewn gwyddor gymdeithasol neu amgylcheddol, paratoi ar gyfer gyrfaoedd yn y dyfodol a gweithio i fynd i'r afael â heriau byd-eang, sy'n rhychwantu rhyfel ac anghydraddoldeb, i danau gwyllt a llygredd plastig.

Mae'r Flwyddyn Sylfaen ddewisol sy'n rhan o'r rhaglen hon yn rhoi cyflwyniad cyffrous i chi i addysg uwch, ac yn sicrhau bod gennych y sgiliau, yr hyder a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch chi i fod yn llwyddiannus yn eich gradd israddedig. Mae'n ddelfrydol os oes angen ychydig fwy o gymorth arnoch chi ar ôl addysg bellach neu os ydych yn dychwelyd i fyd addysg ar ôl seibiant. Ar ôl i chi gwblhau'r Flwyddyn Sylfaen yn llwyddiannus, byddwch chi'n symud ymlaen at Flwyddyn 1 eich gradd BA.

Pam Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe?

Byddwch yn astudio ar ein campws prydferth ym Mharc Singleton, mewn parcdir sy'n edrych dros Fae Abertawe ar gyrion Penrhyn Gŵyr, Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol gyntaf y DU.

Mae Daearyddiaeth yn Abertawe yn y safleoedd canlynol:

  • 13eg yn y DU ar gyfer Rhagolygon Graddedigion (Complete University Guide, 2026)
  • 4ydd yn y DU am Brofiad Myfyrwyr (Times Good University Guide 2026)
  • Un o'r 20 rhaglen orau yn y DU ar gyfer Daearyddiaeth a'r Gwyddorau Amgylcheddol (Guardian University Guide 2026)

Eich Profiad Daearyddiaeth Ddynol

Mae ein cwrs yn canolbwyntio ar ddeall pob agwedd ar y blaned a’r tu hwnt. Byddwch yn archwilio'r berthynas rhwng pobl, cymdeithasau, diwylliannau, economïau a'r amgylchedd. Gyda'r ddealltwriaeth eang hon, byddwch yn gweithio i fynd i'r afael â heriau byd-eang cyfoes, gyda chysylltiad cryf â Nodau Cynaliadwyedd y Cenhedloedd Unedig a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).

Byddwch yn profi gwaith maes sy'n rhan annatod o'ch dealltwriaeth a fydd yn eich galluogi i roi damcaniaeth ar waith. Mae astudio’r BA Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe yn golygu y gallwch chi fanteisio ar ein lleoliad ysblennydd, a gallwch chi fynd ar deithiau maes i gyrchfannau twristaidd o ddiddordeb, fel canol dinas Abertawe a safle hanesyddol Gwaith Copr Hafod Morfa, Penrhyn Gŵyr, Bannau Brycheiniog a Sir Benfro. Wrth i chi symud drwy'ch astudiaethau, gallwch hefyd gymryd rhan mewn gwaith maes preswyl yn rhyngwladol, gan gynnwys yn yr Almaen, Gwlad yr Iâ a Chanada.

Mae ein gradd BA Daearyddiaeth Ddynol yn darparu addysg sy'n cynnig gwybodaeth a hyfforddiant sgiliau sy'n benodol i'r pwnc ac sy'n berthnasol i ystod o gyfleoedd cyflogaeth ym maes daearyddiaeth, gan gynnwys hyfforddiant Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol gyda phwyslais ar dechnolegau ynni gwyrdd. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau hanfodol mewn datblygu prosiectau, cyfathrebu a gwaith tîm, ac yn meithrin profiad o weithio mewn amgylcheddau amrywiol drwy eich gwaith maes.

Byddwch yn profi amrywiaeth o ddulliau asesu, o draethodau ac arholiadau traddodiadol i asesiadau sy’n berthnasol i’r byd go iawn, megis dadansoddiadau rhanddeiliaid, podlediadau, ac asesiadau creadigol. Byddwch yn cael eich arwain drwy eich astudiaethau gan dîm academaidd cefnogol a brwdfrydig y bydd eu profiad a'u gwybodaeth yn cyfoethogi eich profiad fel myfyriwr.

Mae'r rhaglen hon yn cynnwys cyfleoedd i dreulio Blwyddyn Dramor, gan gyfoethogi’ch dysgu a chynnig profiad bywyd amhrisiadwy.

Mae'r cwrs hwn hefyd yn cynnig y cyfle i chi dreulio Blwyddyn mewn Diwydiant, yn y DU neu dramor, gan eich galluogi i gael profiad gwerthfawr yn y gweithle. Mae'r Brifysgol yn ffafrio lleoliadau â thâl yn unig, sydd â chyflog gwerth mwy nag £20,000 ar gyfartaledd. Mae lleoliadau di-dâl yn cael eu hystyried fesul achos.

Cyfleoedd Cyflogaeth Daearyddiaeth Ddynol

Mae cyflogadwyedd wrth wraidd ein cwricwlwm. Ochr yn ochr â'r wybodaeth a'r cyfleoedd i ddatblygu sgiliau sydd wedi'u hymgorffori drwy gydol ein cwrs, gallwch fynychu ffeiriau cyflogwyr blynyddol, a gynhelir gan y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg, lle gallwch gwrdd â chynrychiolwyr daearyddiaeth a darganfod cyfleoedd gyrfa yn y maes yn y dyfodol.

Mae rhagor o gyfleoedd cyflogadwyedd ac entrepreneuriaeth yn cael eu hymgorffori drwy gydol y rhaglen ar ffurf ymweliadau maes â sefydliadau partner gan gynnwys Theatr y Grand, Oriel Gelf Glynn Vivian, Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg, Canolfan Gwlyptir Llanelli WWT (Ymddiriedolaeth Adar y Gwlyptir), y Gymuned Carbon, ymhlith eraill. 

Bydd graddedigion y BA Daearyddiaeth Ddynol yn Abertawe yn gadael â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n hanfodol i lwyddo ar draws ystod o lwybrau gyrfa amrywiol. Yn y dyfodol, gallech gael rôl yn unrhyw un o'r meysydd canlynol:

  • Y sector amgylcheddol – gan gynnwys asiantaethau amgylcheddol, cyrff anllywodraethol (NGOs), cwmnïau cynaliadwyedd, ymgynghoriaethau amgylcheddol
  • Addysg – rolau addysgu, cyfathrebwyr ac addysgwyr gwyddoniaeth
  • Llywodraeth a'r sector cyhoeddus – rolau sy'n gysylltiedig â chynllunio, dadansoddi a datblygu polisïau, awdurdodau lleol ac asiantaethau amgylcheddol
  • Busnes ac ymgynghoriaeth – ymchwilwyr, dadansoddwyr data, rheolwyr prosiect
  • Ymchwil a dadansoddi – gan gynnwys gyrfaoedd mewn ymchwil, gweithio gyda melinau trafod, prifysgolion, cwmnïau ymchwil preifat, dadansoddi data ac ysgrifennu adroddiadau.

Modiwlau

Rydym wrthi'n adolygu ein cwricwlwm i wella eich profiad dysgu ac ymgorffori sgiliau a fydd o fudd i'ch gyrfa yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gall rhai modiwlau newid.

Gofynion Mynediad

Bydd y Brifysgol yn ystyried ceisiadau gan fyfyrwyr sy'n cynnig ystod eang o gymwysterau.

Daearyddiaeth Ddynol, BA (Anrh)

Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn Dramor, BA (Anrh)

Daearyddiaeth Ddynol gyda Blwyddyn mewn Diwydiant, BA (Anrh)