Trosolwg o'r Cwrs
Mewn ymateb i'r angen byd-eang am weithwyr proffesiynol sydd â'r sgiliau i fynd i'r afael ag argyfyngau colled bioamrywiaeth a newid hinsawdd, a'r heriau cysylltiedig o ran dŵr, bwyd ac iechyd, rydym wedi datblygu'r BSc (Anrh.) Ecoleg a Chadwraeth.
Byddwch yn meithrin yr wybodaeth wyddonol, y sgiliau ymarferol a'r ymwybyddiaeth foesegol i wneud cyfraniadau ystyrlon tuag at ddatrys heriau amgylcheddol a chymdeithasol y byd, gan ymchwilio i systemau ecolegol ac arwain a chynllunio ymdrechion cadwraeth i hyrwyddo cynaliadwyedd ecolegol. Byddwch hefyd yn cael profiad ymarferol drwy gyrsiau maes, lleoliadau gwaith a phrosiectau ymchwil.
Mae ein gradd yn defnyddio ymagweddau moesegol, cynaliadwy ac arloesol i greu graddedigion sy'n gymwys yn broffesiynol ond sydd hefyd yn gallu meddwl yn feirniadol a datrys problemau'n greadigol.
Ar ôl cwblhau eich astudiaethau, bydd gennych yr hyder i fentro i fyd gwaith ac achub ar gyfleoedd gyrfa ym meysydd cadwraeth, sefydliadau anllywodraethol, busnes, gwaith ymgynghori y sector amgylcheddol, asiantaethau llywodraethol a'r byd academaidd.