Peirianneg Awyrofod Cyrsiau Israddedig

Dysgwch sut i ddylunio cerbydau awyrofod

myfyrwyr ar beiriant efelychu hedfan

Mae Peirianneg Awyrofod yn ddisgyblaeth gyffrous sy'n ymdrin â dylunio, adeiladu, dadansoddi a phrofi peiriannau sy'n hedfan, megis awyrennau sy'n cael eu pweru gan bropelorau ac injan jet, hofrenyddion, gleidwyr a llongau gofod. Mae'n golygu defnyddio egwyddorion gwyddonol a pheirianyddol i ddeall sut mae pethau'n gweithio, sut i'w gwella, datrys problemau a datblygu technoleg newydd.

Os wyt ti’n berson chwilfrydig, sydd bob amser yn awyddus i ddeall sut mae pethau'n gweithio, â diddordeb mewn dylunio, mathemateg, a defnyddio gwyddoniaeth a thechnoleg i lansio pethau i'r awyr ac i'r gofod, yna mae Peirianneg Awyrofod yn ddelfrydol i ti.

Yma yn Abertawe, rydym ni'n canolbwyntio ar addysgu myfyrwyr sut i ddylunio cerbydau awyrofod gan ddechrau o ddarn o bapur gwag. Rydym ni'n wahanol i'n cystadleuwyr oherwydd ein bod yn arwain y byd mewn Dulliau Cyfrifiadol a Pheirianneg, sy'n hanfodol yn y diwydiant Awyrofod, gan eich rhoi ar y blaen ym myd gwaith - ac mae rhagolygon gwaith ein graddedigion wedi profi hynny.

Mae Peirianneg Awyrofod yn cael ei achredu gan...

logo IMechE
Logo Royal Aeronautical Society