Ymchwilydd PhD

Fy nheitl PhD yw Hiraeth – profiad siaradwyr Cymraeg hŷn mewn gofal

Fy Nghefndir

Wedi graddio gyda gradd mewn Celf Gain o Brifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1994, rwyf wedi gweithio ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y sectorau statudol a thrydydd. Derbyniais fy MSc mewn Rheolaeth Strategol a Gwasanaethau Cyhoeddus gan Brifysgol Caerdydd yn 2004, lle canolbwyntiodd fy ymchwil ar 'Groeso i Wlad Marlboro', ar effaith ysmygu ar ddiwylliant sefydliadol.

Ar hyn o bryd gweithiaf i’r GIG ac mae gennyf ddiddordeb mewn profiad claf yn enwedig ar gyfer cleifion hŷn.

Fy Ymchwil

Ymchwiliaf i brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn mewn lleoliadau gofal, gan edrych ar sut mae’r rheiny sy’n cynllunio ac yn darparu gofal yn asesu anghenion iaith y bobl a pha un ai a ydynt yn cael eu diwallu’n iawn a’i peidio.

Noda safonau’r Iaith Gymraeg bod gan bobl yr hawl i dderbyn eu hiechyd a'u gofal cymdeithasol trwy gyfrwng y Gymraeg. Edrycha fy ymchwil ar sut mae'r safonau hyn yn cael eu cymhwyso'n ymarferol ac effaith iaith ar siaradwyr Cymraeg hŷn.

Mae fy adolygiad systematig o'r llenyddiaeth ym mhrofiad siaradwyr ieithoedd lleiafrifol mewn lleoliadau cartrefi gofal wedi dangos bod p'un a ydyn nhw'n gallu cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf ai peidio yn effeithio ar eu hiechyd a'u llesiant. Dengys y llenyddiaeth bod ymdeimlad pobl o'u hunain, eu rhyngweithio cymdeithasol gydag eraill a'u hymddiriedaeth â gweithwyr proffesiynol yn gysylltiedig ag iaith y rhai sydd o'u cwmpas.

Yn dilyn fy adolygiad o'r llenyddiaeth, byddaf yn cynnal adolygiad ar gyfrifiadur o wybodaeth ac offer asesu darparwyr i edrych ar sut y maent yn adnabod siaradwyr Cymraeg a'u hanghenion. Bydd hyn yn llywio fy ngwaith maes ac yn helpu i nodi meysydd arfer da.

Goruchwylwyr

Dr Deborah Morgan, Dr Charles Musselwhite

Cyswllt

943247@swansea.ac.uk 

Gwefan

https://hiraethcymru.com/

Llun o Angharad Higgins